Mae dau glefyd mag difrifol sy'n effeithio ar wenyn mêl yn y DU sy'n hysbysadwy ar hyn o bryd ac yn cael eu rheoli o dan Orchymyn Rheoli Clefydau a Phlâu Gwenyn 2006. Y clefydau hyn yw Clefyd Americanaidd y Gwenyn (AFB) a Chlefyd Ewropeaidd y Gwenyn (EFB). Arolygwyr yr Uned Wenyn Genedlaethol sy'n gyfrifol am reoli AFB ac EFB ac maent yn cynnal rhaglen archwilio seiliedig ar risg ar nythfeydd cofrestredig ledled Cymru a Lloegr. Os ydych yn cadw nythfeydd gwenyn mêl yng Nghymru neu Loegr, efallai y bydd eich Arolygydd Gwenyn lleol yn cysylltu â chi er mwyn archwilio eich gwenyn.
Os bydd gennych unrhyw bryderon difrifol am iechyd eich nythfeydd (p'un a ydych wedi'ch cofrestru ai peidio), gallwch gysylltu â'ch Arolygydd Gwenyn lleol er mwyn gwneud cais am ymweliad; hyd yn oed os na fydd eich nythfeydd wedi'u heintio â chlefyd, mae bob amser yn well bod yn ddiogel nag edifar.
Os amheuir bod nythfeydd wedi'u heintio â Chlefyd y Gwenyn, bydd yr Arolygydd yn cynnal profion ar y larfa symptomatig drwy ddefnyddio dyfais llif unffordd (LFD) ac yn eu hanfon i'r labordy er mwyn iddo gadarnhau diagnosis positif neu negatif. Yn ystod y cyfnod hwn, bydd yr Arolygydd yn cyflwyno Hysbysiad Gwahardd Symud yn atal gwenyn, cynhyrchion gwenyn a chyfarpar rhag cael eu symud o'r wenynfa. Os cadarnheir achosion o Glefyd y Gwenyn, bydd yr Arolygydd yn goruchwylio'r mesurau rheoli clefyd angenrheidiol. Gall y rhain gynnwys dinistrio nythfeydd sydd wedi'u heintio â Chlefyd Ewropeaidd y Gwenyn neu Glefyd Americanaidd y Gwenyn neu heidiau wedi'u hysgwyd (Clefyd Ewropeaidd y Gwenyn), yn ogystal ag archwiliadau pellach o unrhyw nythfeydd sydd wedi dod i gysylltiad â'r nythfa/nythfeydd heintiedig. Ar ôl o leiaf 6 wythnos, bydd yr Arolygydd yn dychwelyd i gynnal archwiliad dilynol. Os na fydd unrhyw symptomau pellach o glefyd, caiff yr Hysbysiad Gwahardd Symud ei ddiddymu. Fel arfer, bydd yr Arolygydd Gwenyn yn ymweld eto yn ystod y tymor canlynol er mwyn bod yn siŵr bod y clefyd wedi'i reoli'n llwyr.
Gweler yr adran ar Glefydau a Phlâu ar y wefan hon am ragor o fanylion am adnabod a rheoli clefyd y gwenyn, neu weld ein daflen gynghorol, Clefyd y gwenyn mewn gwenyn mêl (Saesneg yn unig)
Gallwch lawrlwytho pob un o'n taflenni cynghorol o'n hadran Taflenni Cynghorol.
At hynny, mae dau bla egsotig sy'n fygythiad i wenyn mêl, sef Chwilen Fach y Cwch (Aethina tumida) a gwiddonyn Tropilaelaps spp. yn hysbysadwy ledled Ewrop ac, felly, maent yn destun mesurau gwyliadwriaeth a rheoli statudol. Am ragor o wybodaeth am y plâu hyn, ewch i'n hadran ar Blâu Egsotig.