Our use of Cookies

This site uses only cookies strictly necessary to ensure the site works correctly.

Please read about how we use cookies.

Hide this message

Strictly necessary and non-essential cookies

By clicking accept all cookies, you agree to our use of cookies and to our cookie policy.

We use third-party cookies on this site.

You have accepted necessary cookies only

You can change your cookie settings at any time
Hide this message

Arolygwyr Gwenyn APHA

Mae gan yr Uned Wenyn Genedlaethol dîm o Arolygwyr Gwenyn Penodedig sydd wedi'u lleoli ledled Cymru a Lloegr. Mae'r Arolygydd Gwenyn Cenedlaethol yn rheoli gwasanaeth maes sy'n cynnwys wyth Arolygydd Gwenyn Rhanbarthol sy'n gyfrifol am reoli eu rhanbarthau unigol a thîm o tua saith Arolygydd Gwenyn Tymhorol.

Mae'r Arolygydd Gwenyn Rhanbarthol yn cydgysylltu archwiliadau o wenynfeydd a rhaglen hyfforddi i'r rhanbarth o dan reolaeth yr Arolygydd Gwenyn Rhanbarthol yn cydgysylltu archwiliadau o wenynfeydd a rhaglen a Phennaeth yr Uned Wenyn Genedlaethol. Mae'r Arolygwyr Gwenyn Cenedlaethol a'r Arolygwyr Gwenyn Rhanbarthol yn cael eu cyflogi'n llawn amser drwy gydol y flwyddyn gyda'r Arolygwyr Gwenyn Tymhorol yn cael eu cyflogi yn ystod y tymor gwenyna.

Arolygwyr Gwenyn APHA

Mae pob Arolygydd Gwenyn yn wenynwr ymarferol profiadol, sydd wedi cael hyfforddiant ychwanegol ar sut i adnabod a rheoli plâu a chlefydau gwenyn. Mae arolygwyr hefyd yn rhoi hyfforddiant a chyngor cynhwysfawr ar reoli gwenynfeydd ac arferion hwsmonaeth da. Yn ogystal ag archwiliadau o wenynfeydd, mae Arolygwyr Gwenyn yn helpu gyda gwahanol brosiectau ymchwil a threialon maes.

I gael manylion cyswllt eich Arolygydd Gwenyn lleol ewch i'r dudalen manylion cyswllt.

Arolygydd yn codi ffrâm o wenyn at y golau i'w wirio.

Pa bwerau cyfreithiol sydd gan Arolygwyr Gwenyn APHA?

Mae gan Arolygwyr Gwenyn APHA ac unigolion awdurdodedig penodedig eraill o dan Ddeddf Gwenyn 1980, Gorchymyn Rheoli Clefydau Gwenyn 1982 (a ddisodlwyd yn ddiweddar gan Orchymyn Rheoli Clefydau a Phlâu Gwenyn 2006) a Rheoliadau'r Fasnach mewn Anifeiliaid a Chynhyrchion Perthynol (TARP) 2011, yr awdurdod i wneud y canlynol:

  • Mynd i mewn i safle lle y credir bod gwenyn, cychod, cyfarpar, dyfeisiau a chynhyrchion gwenyn yn cael eu cadw;
  • Archwilio'r eitemau hyn a chymryd samplau er mwyn nodi p'un a ydynt wedi'u heintio ai peidio;
  • Marcio unrhyw gwch neu gyfarpar at ddibenion ei adnabod;
  • Dinistrio nythfeydd sydd wedi'u heintio â Chlefyd Americanaidd y Gwenyn neu Glefyd Ewropeaidd y Gwenyn; 
  • Trin nythfeydd sydd wedi'u heintio â Chlefyd Ewropeaidd y Gwenyn.