Yn 2010-2011, cyhoeddodd y Tasglu Rheoleiddio Ffermio Gynllun Cydnabyddiaeth ar Sail Perfformiad sydd, fel mae'r teitl yn awgrymu, yn caniatáu i'r rhai sydd â hanes cryf o gydymffurfio â'r safonau a bod yn ddibynadwy i hunanreoleiddio. Mae'r dull seiliedig ar risg hwn o gynnal archwiliadau eisoes ar waith mewn sawl cyfundrefn archwilio mewn meysydd eraill e.e. archwiliadau Atal a Rheoli Llygredd Integredig (IPPC) yn y sector moch a'r sector dofednod ac mewn archwiliadau o les da byw a hylendid llaeth. Yn 2013, cydweithiodd yr Uned Wenyn Genedlaethol a'r Bee Farmers’ Association Ltd (BFA) i ddatblygu'r Cynllun Sicrwydd rhag Clefydau Gwenyn Mêl (DASH). Nod DASH yw:
- Lleihau'r costau sy'n gysylltiedig â chlefydau o fewn gweithrediadau gwenyna masnachol;
- Gwella iechyd gwenyn mêl o fewn y gweithrediad;
- Lleihau'r baich rheoliadol ar ffurf ymweliadau archwilio.
Cydnabyddir DASH yng Nghynllun Gweithredu Cydnabyddiaeth ar Sail Perfformiad Awst 2013, a luniwyd gan Dasglu Rheoleiddio Ffermio Defra. Dim ond unigolion yn y diwydiant Ffermio Gwenyn sy'n gymwys i gymryd rhan yng nghynllun DASH a bydd yr aelodau hynny sy'n cwblhau'r cynllun yn llwyddiannus yn cael mwy o awtonomi a llai o archwiliadau gan Arolygwyr Gwenyn.
Ni fydd hyn yn arwain o reidrwydd at leihad yng nghyfanswm yr archwiliadau ond mae'n gyfle i sicrhau bod archwiliadau yn cael eu targedu'n well at y rhai sy'n agos at glefydau.
Trosolwg o DASH
Amserlen Aelodau DASH:
Hydref | Mae Cymdeithas y Ffermwyr Gwenyn yn gwahodd ac yn asesu ymgeiswyr i DASH, anfonir enwau aelodau byw presennol ymlaen i'r UWG |
Gaeaf | Mae'r UWG yn asesu ceisiadau |
Gwanwyn | Mae'r UWG yn cysylltu ag ymgeiswyr ac yn eu gwahodd i sesiynau hyfforddiant. |
Gwanwyn | Mae'r UWG yn cynnal sesiynau hyfforddiant ar-lein ar gyfer ymgeiswyr gydag asesiad ar-lein. |
Gwanwyn/Haf | Mae'r UWG yn cynnig cymysgedd o weithdai a/neu ymweliadau â gwenynfeydd sy'n canolbwyntio ar adnabod clefydau a bioddiogelwch |
1 blwyddyn | Cynigir Archwiliad Sylfaenol o'r holl nythfeydd. Mae amseriad archwiliadau yn dibynnu ar archwiliadau rhanbarthol DASH sydd i'w cynnal. |
1 blwyddyn | Mae aelodau llwyddiannus o DASH yn cael tystysgrif cymhwysedd. Efallai y bydd ymgeiswyr yn cael gorchmynion gwella lle y bo angen a gofynnir iddynt unioni unrhyw achosion o ddiffyg cydymffurfio o fewn cyfnod y cytunir arno. |
3 blynedd | Mae'r UWG yn cynnal archwiliadau seiledig ar risg bob tair blynedd yn unol â Chod y Rheoleiddwyr. |
Bob blwyddyn | Cynigir sesiynau adnabod clefydau yn y maes ar gyfer datblygiad proffesiynol parhaus ffermwyr gwenyn. |
Disgwylir i holl aelodau DASH ddiweddaru'r wybodaeth am safleoedd eu gwenynfeydd a nifer eu nythfeydd ar BeeBase ac mae'n ofynnol iddynt hunanadrodd unrhyw achosion o glefyd a nodir i'r UWG fel y nodir yn llawlyfr DASH. Ceir copïau o'r protocol hwn a Ffurflen Hunanarchwilio Ffermwyr Gwenyn drwy anfon neges e-bost i nbu-dash@apha.gov.uk. Caiff unrhyw gyfarpar sydd ei angen i ddiagnosio clefyd a amheuir ei ddarparu gan yr Uned Wenyn Genedlaethol.
Mae DASH yn gwbl wirfoddol a gall cyfranogwyr adael unrhyw bryd. Ni chodir unrhyw dâl am gymryd rhan yn y cynllun; darperir hyfforddiant a chyfarpar megis pecynnau diagnostig Llif Unffordd ar gyfer clefydau gwenyn a labeli ymateb taledig. Mae mynediad llawn i'r cynllun yn ôl disgresiwn yr UWG. Yn ystod y misoedd ar ddiwedd yr haf, bydd angen i gyfranogwyr gymryd rhan mewn digwyddiad hyfforddi er mwyn cadarnhau y gallant adnabod clefydau.
Ffigurau ar gyfer DASH ym mis Ionawr 2023
Ymgeiswyr i DASH | Gwahoddwyd i sesiynau hyfforddiant | Asesiadau o newydd-ddyfodiaid a basiwyd yn ystod y flwyddyn | Prentisiaid | Archwiliad sylfaen i'w gynnal | Archwiliadau sylfaenol a gwblhawyd | Archwiliadau a gwblhawyd | Gadawodd DASH | Blwyddyn yr archwiliad cyntaf | Blwyddyn yr archwiliad sylfaenol/ archwiliad disgwyliedig | Cyfanswm y busnesau sy'n aelodau o DASH ar hyn o bryd | Cyfanswm yr aelodau hyfforddiant sy'n aelodau o DASH ar hyn o bryd | |
2013 | 34 | - | 34 | 0 | 0 | 0 | 0 | 0 | 0 | 0 | 0 | 34 |
2014 | 27 | - | 20 | 1 | 0 | 26 | 0 | 0 | 0 | 0 | 26 | 54 |
2015 | 31 | - | 15 | 9 | 0 | 15 | 0 | 0 | 0 | 0 | 41 | 69 |
2016 | 0 | - | 9 | 0 | 0 | 13 | 0 | 0 | 0 | 0 | 54 | 78 |
2017 | 23 | - | 23 | 2 | 0 | 19 | 22 | 2 | 22 | 0 | 71 | 99 |
2018 | 0 | - | 0 | 0 | 0 | 2 | 13 | 0 | 13 | 0 | 73 | 99 |
2019 | 21 | - | 15 | 4 | 0 | 6 | 11 | 3 | 11 | 0 | 76 | 111 |
2020 | 27 | - | 0 | 0 | 0 | 0 | 2 | 1 | 1 | 1 | 75 | 110 |
2021 | 0 | 0 | 16 | 3 | 10 | 5 | 36 | 15 | 13 | 1 | 65 | 111 |
2022 | 0 | 0 | 0 | 0 | 0 | 5 | 16 | 7 | 8 | 5 | 63 | 104 |
2023 | 28 | 22 | 0 | 0 | 0 | 0 | 0 | 0 | 0 | 0 | - | - |
Total | 191 | - | 132 | 19 | - | 91 | 100 | 28 | 68 | - | - | - |