Rhaglen Gwenynfeydd Sentinel Gwirfoddol
Sefydlwyd y rhaglen gwenynfeydd sentinel gwirfoddol yn 2010 yng Nghymru a Lloegr fel rhan o'r ymateb i benderfyniad i roi mwy o flaenoriaeth i gadw gwyliadwriaeth ar blâu egsotig.
Mae'r cynllun gofyn i wenynwyr sy'n cymryd rhan yn wirfoddol fonitro eu nythfeydd am blâu egsotig a chyflwyno dwy sampl o grafiadau llawr/gweddillion cwch gwenyn yn ystod y tymor gweithredol gan ddefnyddio cyfarpar a deunyddiau a ddarperir gan yr Uned Wenyn Genedlaethol. Darperir trapiau chwilod bach y cwch hefyd. Caiff yr holl gyfarpar ei gyflenwi am ddim i'r gwenynwyr sy'n cymryd rhan, a chaiff y costau postio eu talu ar eu rhan hefyd.
Penderfynwyd defnyddio gwenynwyr gwirfoddol yn y rhaglen er mwyn gwella lefelau ymgysylltu gwenynwyr a chodi eu hymwybyddiaeth o blâu egsotig, a sicrhau haen ychwanegol o wyliadwriaeth.
Mae'r rhaglen wedi parhau ar yr un fformat hyd yma, fwy neu lai, ac mae gan bob rhanbarth o leiaf 15 o wenynfeydd sentinel gwirfoddol yn agos at leoliadau sy'n wynebu risg o blâu egsotig.
Prif nod y rhaglen yw canfod plâu egsotig chwilen fach y cwch a gwiddon tropilaelaps spp., sy'n hysbysadwy yn statudol. Fodd bynnag, mae rhai gwenynfeydd sentinel gwirfoddol hefyd yn monitro am gacynen Asia mewn ardaloedd risg uchel. I wneud gwaith monitro cyffredinol am gacynen Asia, caiff gwenynwyr eu hannog i beidio â defnyddio trapiau sy'n lladd trychfilod drwy eu boddi. Os gall gwenynwyr gwenynfeydd sentinel gwirfoddol ymrwymo i archwilio eu trapiau bob dydd er mwyn rhyddhau creaduriaid a ddalwyd yn anfwriadol, cânt eu hannog i fonitro am gacynen Asia fel rhan o'r rhaglen.
Mae rhai o gyfranogwyr y rhaglen mewn ardaloedd lle mae cacynen Asia wedi cael ei darganfod o'r blaen (yn ne a de-ddwyrain Lloegr yn bennaf) wedi gosod trapiau, yn arbennig ar gyfer monitro am freninesau ar ddechrau'r gwanwyn.
Rhaglen Gwenynfeydd Sentinel Uwch
Yr ymateb cyntaf i ymlediad pla egsotig yn y DU fyddai ymgais benderfynol i'w ddileu. Yn amlwg, mae darganfod y pla yn gynnar yn allweddol er mwyn sicrhau canlyniad llwyddiannus. Mae gwaith gan dîm ymchwil ym Mhrifysgol Warwick i fodelu ymlediad tebygol plâu a chlefydau wedi dangos y byddai cynnydd yn lefel ac amlder gwyliadwriaeth, yn enwedig mewn ardaloedd risg uchel, yn gwella'r tebygolrwydd o'u darganfod yn gynnar.
Cafodd y lleoliadau sy'n wynebu risg o blâu egsotig eu hailwerthuso yn ystod y gwanwyn (2015/6) gan ddefnyddio matrics risg newydd, a'u grwpio i gategorïau risg Uchel, risg Ganolig a risg Isel. Ar hyn o bryd, mae gan y rhestr ranbarthol o leoliadau sy'n wynebu risg o blâu egsotig ar BeeBase sgôr risg o 1 i 9 (mae'n bosibl y caiff yr ystod hon ei hehangu wrth iddi gael ei datblygu yn y dyfodol). Y lleoliadau risg Uchel yw'r rhai â sgôr o 8 neu 9, y lleoliadau risg Ganolig yw'r rhai â sgôr o 4 i 7, a'r lleoliadau risg Isel yw'r rhai â sgôr o 1 i 3.
Yn ogystal â'r rhaglen Gwenynfeydd Sentinel Gwirfoddol, mae rhaglen newydd i Wenynfeydd Sentinel Uwch wedi cael ei datblygu. Tra bo'r rhaglen Gwenynfeydd Sentinel Gwirfoddol yn dibynnu ar wenynwyr sy'n cymryd rhan yn wirfoddol (gyda chyfradd cydymffurfio o tua 70% ar hyn o bryd), caiff y rhaglen Gwenynfeydd Sentinel Uwch ei rheoli gan yr Uned Wenyn Genedlaethol gan fanteisio ar archwiliadau arbenigol o nythfeydd gan Arolygwyr Gwenyn Cymeradwy dair gwaith y tymor.
Sut i gymryd rhan
Os yw eich gwenynfeydd yng Nghymru neu Loegr a'ch bod yn awyddus i gymryd rhan yn y rhaglen Gwenynfeydd Sentinel Gwirfoddol neu'r rhaglen Gwenynfeydd Sentinel Uwch, cysylltwch â'ch arolygydd gwenyn lleol i drafod y mater. I gael manylion cyswllt ewch i'r dudalen manylion cyswllt.
Dogfennau i Gyfranogwyr (Saesneg yn unig)
Offer ar gyfer y Rhaglen Gwenynfeydd Sentinel Gwirfoddol
Use of the Small hive beetle (SHB) floor trap
Sample Labels