Sut rydym yn defnyddio cwcis

This site uses only cookies strictly necessary to ensure the site works correctly.

Please read about how we use cookies.

Cuddio'r neges hon

Cwcis cwbl angenrheidiol a chwcis nad ydynt yn hanfodol

Drwy glicio ar 'derbyn pob cwci' rydych yn cydsynio i ni ddefnyddio cwcis a'n polisi cwcis.

Rydym yn defnyddio cwcis trydydd parti ar y wefan hon

You have accepted necessary cookies only

Gallwch newid eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd
Cuddio'r neges hon

Mewnforion ac allforion

Mae'r dudalen hon yn rhoi gwybodaeth a chanllawiau ar fewnforio ac allforio gwenyn mêl a chacwn byw.

Am ganllawiau ar gynhyrchion eraill sy'n dod o wenyn, gweler yr canllaw hwn ar gyfer mewnforio ac allforio anifeiliaid byw neu gynhyrchion anifeiliaid  a'r nodiadau hyn ar fewnforio anifeiliaid byw a chynhyrchion anifeiliaid 

Mae'r DU wedi ymadael â'r UE a bydd rheolau newydd mewn grym o fis Ionawr 2021 ymlaen

Mae'r Nodiadau Cyfarwyddyd i Fewnforwyr (yn Saesneg) yn rhoi manylion i wenynwyr yng Nghymru a Lloegr am yr hyn y mae angen i chi ei wneud er mwyn cydymffurfio â'r ddeddfwriaeth a gofynion ardystio iechyd os byddwch am fewnforio gwenyn byw ar ôl 31 Rhagfyr 2020.

Mae Arolygiaeth Iechyd Gwenyn yr Alban wedi llunio canllawiau ar gyfer gwenyn mêl a fewnforir canllawiau ar gyfer gwenyn mêl a fewnforir i wenynwyr yn yr Alban.

Efallai y bydd yn ddefnyddiol i chi edrych ar y canllawiau ar gov.uk a'r Model Gweithredu Ffiniau, sy'n rhoi gwybodaeth am y prosesau newydd.

Ar gyfer symud gwenyn y ddwy ffordd rhwng Gogledd Iwerddon a Phrydain Fawr, ceir canllawiau ym Mhrotocol Gogledd Iwerddon.

Os ydych yn bwriadu mewnforio neu allforio gwenyn, chi sy'n gyfrifol am ddilyn y rheolau newydd hyn a diogelu bioddiogelwch Prydain Fawr. Ceir arweiniad cyffredinol ar newidiadau ar gyfer busnesau a dinasyddion yn https://www.gov.uk/transition

Cwestiynau Cyffredin – Mewnforion

Mae'r cwestiynau hyn ond yn ymdrin â Gwenyn mêl (Apis mellifera) a Chacwn.

Beth y gallaf ei fewnforio o'r UE?

  • Breninesau gyda hyd at 20 o wenyn gweithgar sy'n gweini arnynt.
  • Cacwn

Beth na allaf ei fewnforio o'r UE?

  • Pecyn/Nythfa Gnewyllol/Nythfa Gyfan

I bwy y mae'n rhaid i mi roi gwybod os byddaf am fewnforio breninesau?

Pa God Nwyddau y dylwn ei ddefnyddio?

  • 01064100

Pa wybodaeth y mae angen i mi ei roi i'r allforiwr?

  • Mae system IPAFFS yn rhoi Rhif Cyfeiriad Unigryw y dylid ei gynnwys ar y Dystysgrif Iechyd a roddir gan y wlad sy'n allforio.

Pa Dystysgrifau sydd eu hangen?

  • Rhaid i chi sicrhau bod tystysgrif iechyd a gafwyd gan yr awdurdod cymwys perthnasol yn cael ei hanfon gyda phob llwyth. Mae angen lanlwytho copi o'r dystysgrif hon i system IPAFFS cyn mewnforio'r llwyth. Gellir lawrlwytho tystysgrifau enghreifftiol o'r dudalen hon ar gov.uk.

Oes angen i'm Breninesau ddod i mewn i'r wlad drwy borthladd penodol?

  • Tan fis Gorffennaf 2022, nid oes angen i wenyn a fewnforir ddod drwy Safle Rheoli Ffiniau cymeradwy. O fis Gorffennaf 2022 ymlaen, mae'n rhaid i bob anifail byw a fewnforir ddod i mewn i'r wlad drwy Safle Rheoli Ffiniau a gymeradwywyd i dderbyn y nwydd hwnnw. Ar hyn o bryd, mae meysydd awyr Heathrow a Manceinion wedi'u cymeradwyo i dderbyn infertebratau.

Beth fydd yn digwydd os bydd fy nogfennaeth / tystysgrif ar goll neu'n anghywir?

  • Os ceir nad yw llwyth yn cydymffurfio â'r gyfraith, caiff ei ddychwelyd i'r wlad tarddiad neu ei ddinistrio. Mae hyn hefyd yn gymwys os na fydd llwyth a fewnforir yn dod i mewn i'r wlad drwy Safle Rheoli Ffiniau o fis Gorffennaf 2022 ymlaen.

Yn y gorffennol, roedd fy mewnforion yn cael eu harchwilio o bryd i'w gilydd gan Arolygydd Gwenyn. Felly, a fydd hyn yn parhau?

  • Bydd. Bydd Arolygwyr Gwenyn yn parhau i gynnal archwiliadau seiliedig ar risg yn y man mewnforio gan ddefnyddio'r cyfeiriad a ddarparwyd ym mhroses hysbysu IPAFFS. Os bydd Arolygydd yn cysylltu â chi, rhaid i chi ddal y llwyth nes iddo gael ei ryddhau gan yr Arolygydd.

Alla i ddefnyddio cawell y frenhines a ddarparwyd gan yr allforiwr i gyflwyno fy Mreninesau?

  • Na allwch, ar ôl i chi ei chael, rhaid i'r frenhines gael ei throsglwyddo i gawell newydd.
  • Anfonwch y cewyll gwreiddiol, y gwenyn gweithgar sy'n gweini a deunydd arall a anfonwyd gyda'r breninesau o'u gwlad tarddiad i'r cyfeiriadau isod o fewn 5 diwrnod i'w cael er mwyn iddynt gael eu harchwilio i weld a oes plâu a chlefydau hysbysadwy yn bresennol. Dylech gynnwys eich enw, cyfeiriad, rhif ffôn cyswllt a Rhif Cyfeirnod Unigryw IPAFFS gyda'r pecyn. Sicrhewch eu bod wedi'u pacio'n addas i gael eu cludo gan y gwasanaeth post.
    • Yng Nghymru a Lloegr: RM 02G06 Fera Science Ltd York Biotech Campus, Sand Hutton, York YO41 1LZ
    • Yn yr Alban: Bee Health – Imports, SASA, Roddinglaw Road, Edinburgh, EH12 9FJ

A oes angen i'r gwenyn sy'n gweini fod yn farw cyn i mi eu hanfon i gael eu harchwilio?

  • Nac oes, ar ôl iddo gael ei dderbyn, caiff eich parsel ei rewi. Sicrhewch eu bod wedi'u pacio'n ddiogel ac na allant ddianc.

A godir tâl am y gwasanaeth hwn? 

  • Ar hyn o bryd, ni chodir unrhyw dâl am archwiliadau ar ôl mewnforio.
  • Pan fydd Gwenyn yn cyrraedd drwy Safle Rheoli Ffiniau, caiff costau'r archwiliadau a gynhelir ar anifeiliaid byw sy'n cael eu mewnforio o Drydydd Gwledydd eu hadennill gan y mewnforiwr o dan ddarpariaethau'r rheoliadau rheoli swyddogol. Er mwyn cael gwybod faint y mae'r archwiliadau Safle Rheoli Ffiniau yn eu costio, dylech gysylltu â'r Safle Rheoli Ffiniau perthnasol. Ceir manylion cyswllt y Safleoedd Rheoli Ffiniau ar y dudalen hon ar gov.uk.

Allforion

Os ydych yn bwriadu allforio gwenyn o Brydain Fawr, rhaid i chi sicrhau bod y wlad rydych yn allforio iddi yn caniatáu mewnforion o Brydain Fawr ac y gallwch gydymffurfio â'i hamodau mewnforio.  Yr allforiwr sy'n gyfrifol am wneud hyn.

Yn achos allforion i unrhyw wlad, os byddwch yn allforio gwenyn heb y dystysgrif gywir, efallai y caiff y llwyth ei wrthod/dinistrio gan y wlad rydych yn allforio iddi.  Os oedd angen i'r llwyth gael ei archwilio cyn iddo gael ei allforio, ni fyddwn yn gallu rhoi tystysgrif yn ôl-weithredol.

O fis Ionawr 2022 ymlaen, rhaid i Dystysgrifau Iechyd Allforio ar gyfer allforion i wledydd yr UE gael eu llofnodi gan Filfeddyg Swyddogol.  Yn achos gwledydd y tu allan i'r UE, yr awdurdodau yn y wlad y bydd y llwyth yn cael ei allforio iddi fydd yn penderfynu a oes angen i Filfeddyg Swyddogol lofnodi'r Dystysgrif Iechyd Allforio. Felly, mae'n bwysig bod yr allforiwr yn cysylltu â nhw er mwyn cadarnhau'r gofynion.

Allforio i wledydd yr UE

Dim ond breninesau y gellir eu hallforio i wledydd yr UE.  Er mwyn allforio breninesau, rhaid i chi gael Tystysgrif Iechyd Allforio a threfnu iddi gael ei llofnodi gan Filfeddyg Swyddogol.  Rhaid i'r Milfeddyg Swyddogol gynnal archwiliad iechyd yn y wenynfa cyn y gellir llofnodi'r dystysgrif a dylai allforwyr ddisgwyl i dâl gael ei godi am wasanaethau Milfeddyg Swyddogol.  Mae templed y dystysgrif iechyd ar gov.uk, ynghyd â Nodiadau Cyfarwyddyd a gwybodaeth am sut i gysylltu â Milfeddyg Swyddogol.

Bydd y Milfeddyg Swyddogol hefyd yn cadarnhau a oes angen i un o arolygwyr yr Uned Wenyn Genedlaethol (Cymru a Lloegr) neu un o Arolygwyr Gwenyn Llywodraeth yr Alban fod yn bresennol hefyd er mwyn cefnogi'r Milfeddyg Swyddogol yn ystod yr archwiliad iechyd.  Gall y Milfeddyg Swyddogol gael gwybodaeth am sut i gysylltu ag Arolygydd Gwenyn yn y Nodiadau Cyfarwyddyd. Y manylion cyswllt yw:

Bydd y Milfeddyg Swyddogol yn trefnu i arolygydd gwenyn fod yn bresennol yn ystod yr archwiliad.  Ni chodir tâl ar wahân er mwyn i arolygydd gwenyn fod yn bresennol.

Yn achos allforion i wledydd yr UE, mae tystysgrif iechyd wedi'i llofnodi yn ddilys am 10 diwrnod.

Anfon gwenyn i Ogledd Iwerddon

Dim ond breninesau y gellir eu symud i Ogledd Iwerddon o Brydain Fawr.  Ystyrir bod breninesau sy'n cael eu hanfon i Ogledd Iwerddon yn cael eu hallforio ac mae angen iddynt gael eu harchwilio yn y wenynfa gan Filfeddyg Swyddogol cyn i'r Dystysgrif Iechyd Allforio gael ei llofnodi.  Ewch i gov.uk i gael Tystysgrif Iechyd Allforio fel y disgrifiwyd uchod.

At hynny, dylai'r allforiwr ddilyn y broses anifail-benodol fel y'i nodir yn y canllawiau hyn gan DAERA a'r canllawiau yma ar hysbysu Gogledd Iwerddon ymlaen llaw ar TRACES NT.

Rydym yn argymell y dylech gysylltu â'r UWG (Cymru a Lloegr) neu Lywodraeth yr Alban er mwyn cadarnhau bod y broses allforio yn mynd yn ei blaen, ar ôl i chi hysbysu Gogledd Iwerddon gan ddefnyddio TRACES NT.

Allforio i wledydd nad ydynt yn rhan o'r UE

Er mwyn allforio gwenyn i wlad nad yw'n rhan o'r UE, cwblhewch y ffurflen gais i allforio a'i dychwelyd i swyddfa'r UWG. Dylech anfon yr amodau mewnforio ar gyfer y wlad rydych yn allforio iddi gyda'r ffurflen gais.  Yn dibynnu ar ofynion y wlad, efallai y bydd angen i chi hefyd gysylltu â Milfeddyg Swyddogol a fydd yn penderfynu a ellir llofnodi'r dystysgrif iechyd allforio  Dylai allforwyr ddisgwyl i dâl gael ei godi am wasanaethau Milfeddyg Swyddogol.  Wrth gyflwyno'r ffurflen gais, dylech gadarnhau i'r UWG neu Lywodraeth yr Alban a ydych wedi cysylltu â Milfeddyg Swyddogol.

Bydd angen i un o arolygwyr yr UWG (Cymru a Lloegr) neu un o Arolygwyr Gwenyn Llywodraeth yr Alban fod yn bresennol yn ystod yr archwiliad hefyd, oni fydd y Milfeddyg Swyddogol yn cadarnhau ymlaen nad yw hyn yn ofynnol.  Ni chodir tâl ar wahân er mwyn i arolygydd fod yn bresennol.

Os na fydd angen llofnod Milfeddyg Swyddogol ar y wlad rydych yn allforio iddi, un o Arolygwyr Gwenyn yr UWG neu Lywodraeth yr Alban fydd yn cynnwys yr asesiad iechyd.  Os bydd y gwenyn yn rhydd rhag y plâu a chlefydau a nodwyd, ac os bydd y wenynfa yn bodloni'r gofynion ardystio iechyd, gellir llofnodi'r dystysgrif iechyd.  Rhaid i'r dystysgrif deithio gyda'r gwenyn i'r wlad rydych yn allforio iddi.

Mae'n bwysig eich bod yn cadarnhau a yw'r wlad rydych yn allforio iddi yn ystyried bod tystysgrif ond yn ddilys am gyfnod cyfyngedig, er mwyn sicrhau na ddaw i ben cyn i'r gwenyn sy'n cael eu hallforio gyrraedd.

Y Deifiad ('Fireblight Disease') – Cyfyngiadau Symud

Os ydych yn bwriadu symud gwenyn i un o Aelod-wladwriaethau'r UE, dylech ymgyfarwyddo â'r cyfyngiadau sy'n gymwys rhwng 15 Mawrth a 30 Mehefin sy'n ymwneud â'r Deifiad (Erwinia amylovora), sef clefyd hysbysadwy difrifol sy'n effeithio ar afalau, gellyg a choed a llwyni eraill sy'n perthyn iddynt yn nheulu Rosaceae.

Am ragor o wybodaeth, gweler Rheoliad (UE) 2016/2031. Ceir rhestr o'r ardaloedd gwarchodedig, yn ogystal â dolenni i ganllawiau pellach, ar y Porth Iechyd Planhigion.

Rhagor o Wybodaeth

Parker, A. (2021) Honey Bee Imports into GB – Erthygl a Gyhoeddwyd yn Bee Farmers Magazine sy'n disgrifio proses IPAFFS yn fanwl (yn Saesneg).

Siart lif sy'n dangos y broses ar gyfer mewnforion o'r UE i'r DU (yn Saesneg)