Our use of Cookies

This site uses only cookies strictly necessary to ensure the site works correctly.

Please read about how we use cookies.

Hide this message

Strictly necessary and non-essential cookies

By clicking accept all cookies, you agree to our use of cookies and to our cookie policy.

We use third-party cookies on this site.

You have accepted necessary cookies only

You can change your cookie settings at any time
Hide this message

Magu breninesau

Magu Breninesau Gwenyn Mêl mewn system 'Queenright'

Mae'r Uned Wenyn Genedlaethol wedi defnyddio dull magu 'queenright' ers dros 20 mlynedd. Mae wedi bod yn llwyddiannus iawn ar gyfer ein nythfeydd ymchwil yng Nghaerefrog ac ar gyfer dysgu system i wenynwyr eraill y gallant ystyried ei mabwysiadu at eu defnydd eu hunain. Ein nod yw cyflwyno breninesau newydd i nythfeydd yn rheolaidd (o leiaf bob yn ail flwyddyn, weithiau'n amlach), er mwyn cynnal breninesau epiliog ifanc ac, felly, leihau'r risg o heidio a chynyddu cynhyrchiant i'r eithaf.

Brenhines wed'i marcio

Dewis nythfeydd

Fel arfer tua dechrau mis Mai, pan fydd digon o baill a neithdar ar gael, caiff nythfeydd yn y wenynfa magu breninesau eu hasesu o ran maint yn ôl symiau cyfatebol o ddiliau llawn o wenyn, mag, mêl a phaill, ac o ran pa mor ddof ydynt a pha mor rhydd ydynt o glefyd. Caiff dwy neu dair nythfa fagu 'queenright' fawr eu dewis yn ôl eu maint a'u tymer, pob un ohonynt â'r hyn sy'n cyfateb i o leiaf 20 dil dwfn llawn o wenyn, rhwng 8 a 12 dil o fag iach o bob ffurf a'r hyn sy'n cyfateb i ddau neu dri dil llawn o baill. Mae a wnelo'r meintiau hyn â fframiau Safonol Prydeinig (341 x 203mm) y mae eu harwynebedd yn cytateb i tua 75% o arwynebedd fframiau Langstroth. Caiff dwy neu dair nythfa eu dewis hefyd fel nythfeydd magu, yn ôl eu llinach, eu cofnodion blaenorol, pa mor dda y maent yn gaeafu a'u tymer.

Ffrâm Impio ('Graft Frame')

Mae'r ffrâm impio yn cynnwys ffrâm fag arferol heb gwyr, sydd wedi'i haddasu i dderbyn dau far celloedd pren llorweddol. Caiff y barrau celloedd hyn eu tynnu o'r ffrâm dros dro er mwyn hwyluso'r broses impio. Mae tua dwy fodfedd (5cm) o le gwag o dan y barrau celloedd hyn lle y gall y gwenyn adeiladu celloedd y breninesau. Torrir rhigol â llif ar hyd ochr isaf pob bar celloedd er mwyn i'r cwpanau breninesau plastig â phegiau gwaelod a ddefnyddir gennym allu cael eu gosod ynddi.

Celloedd breninesau llawndwf sy'n barod i'w defnyddio

Sefydlu Nythfa

Rhwng wyth a 24 awr cyn y broses impio gyntaf, caiff pob magwr ei drefnu er mwyn sicrhau bod y rhan fwyaf o'r mag wedi'i selio uwchben rhwystr breninesau ('queen excluder') a bod y frenhines a'r rhan fwyaf o'r mag wedi'i selio o dan y rhwystr breninesau. Os na chanfyddir y frenhines, caiff diliau eu hysgwyd i gael gwared ar y gwenyn i gyd cyn iddynt gael eu gosod uwchben y rhwystr breninesau.

Ar yr un pryd, caiff y ffrâm impio sy'n cynnwys rhwng 12 a 24 o gwpanau breninesau plastig ei hychwanegu at ran uchaf y blwch magu er mwyn i'r gwenyn allu caboli cwpanau'r celloedd ac ychwanegu ymyl bach o gwyr gwenyn at bob un. Mae hyn hefyd yn sicrhau bod y cwpanau yn cael eu cynhesu i dymheredd nyth fagu. Gosodir dil o baill yn y blwch uchaf yn agos at y bar impio a gosodir dil o larfâu ifanc, ynghyd â rhai storfeydd paill os oes modd, wrth ymyl y bar impio hefyd. Mae'r mag ifanc hwn yn denu gwenyn gofal i'r ardal impio. Os na fydd llif dibynadwy o neithdar yn digwydd yn naturiol, caiff un ei efelychu drwy roi rhwng un a dau litr o surop siwgr 60% (w/w) (1 kg o siwgr gronynnog gwyn fesul 650 ml o ddŵr) bob wythnos, naill ai mewn ffrâm fwydo neu declyn bwydo cyswllt. Ychwanegir llofftydd ar y rhan uchaf os oes angen.

Deunydd darllen pellach

Gallwch hefyd ddarllen y rhan fwyaf o fanylion y dull magu breninesau a ddisgrifir ar y tudalennau hyn yn yr erthygl Rearing Queen Honey bees in a Queen Right Colony, a ysgrifennwyd gan David Wilkinson a Mike A. Brown, a atgynhyrchir drwy garedigrwydd yr American Bee Journal.