Our use of Cookies

This site uses only cookies strictly necessary to ensure the site works correctly.

Please read about how we use cookies.

Hide this message

Strictly necessary and non-essential cookies

By clicking accept all cookies, you agree to our use of cookies and to our cookie policy.

We use third-party cookies on this site.

You have accepted necessary cookies only

You can change your cookie settings at any time
Hide this message

Newydd i faes gwenyna

Sut y gallaf ddechrau arni?

A ydych wastad wedi eisiau bod yn wenynwr ond nad oeddech yn gwybod sut i ddechrau arni? Wel, gobeithio y bydd gwefan BeeBase yn rhoi'r wybodaeth i chi a fydd yn eich helpu i benderfynu a yw gwenyna yn hobi priodol i chi. Mae rhai meysydd a fu'n ddefnyddiol i wenynwyr newydd yn cynnwys:

Hyfforddi gwenynwyr sut i archwilio gwenyn i weld a ydynt wedi'u heintio â chlefyd

Pa hyfforddiant sydd ar gael?

Ydych chi'n wenynwr sy'n chwilio am hyfforddiant er mwyn eich helpu i wella eich sgiliau gwenyna? Efallai mai gwenynwr profiadol ydych chi, sydd am gael gwybod am ddigwyddiadau hyfforddiant gwenyna yn eich ardal leol; efallai eich bod yn gymharol newydd i faes gwenyn a'ch bod am gael gwybod ble i gael hyfforddiant, cyngor a chymorth ychwanegol; a ydych yn gweithio i lywodraeth neu ddiwydiant y tu allan i'r DU a'ch bod yn chwilio am wasanaethau cynghori a hyfforddiant arbenigol ym maes gwenyna? Mae rhai adrannau o BeeBase a allai fod yn ddefnyddiol i chi yn cynnwys:

  • Hyfforddiant ac Addysg i Wenynwyr: Mynnwch wybod am y gwahanol fathau o hyfforddiant a digwyddiadau addysg i wenynwyr a ddarperir gan yr UWG.
  • Taflenni cynghorol a llawlyfrau hyfforddiant: Yma cewch fwy na 30 o wahanol daflenni a ffeithlenni, sy'n ymdrin ag amrywiaeth o bynciau sy'n ymwneud ag iechyd a hwsmonaeth gwenyn mêl, y gallwch lawrlwytho pob un ohonynt am ddim.
  • Rhaglen Archwilio Gwenynfeydd Statudol: Gall Arolygwyr Gwenyn maes cymwys iawn yr UWG helpu gwenynwyr drwy ddarparu amrywiaeth o hyfforddiant ar hwsmonaeth dda, sut i adnabod a rheoli plâu a chlefydau sy'n effeithio ar wenyn mêl a sut i reoli gwenynfeydd. Gall arolygwyr ddarparu arddangosiadau ymarferol ar wenynfeydd a chynnig cyfoeth o gyngor arbenigol am ddim. Mae'r UWG hefyd yn darparu gwasanaethau ymgynghori a hyfforddiant ar gadw gwenyn i lywodraethau a diwydiant dramor.
  • Cysylltwch â’ch arolygydd gwenyn lleol: Manylion cyswllt eich arolygydd gwenyn lleol (Cymru, Lloegr a'r Alban); ffynhonnell arall o gyngor arbenigol am ddim.
  • Oriel Luniau: Mae'n darparu lluniau defnyddiol o symptomau plâu a chlefydau sy'n effeithio ar wenyn mêl. Gallwch eu hatgynhyrchu am ddim at ddibenion hyfforddiant ac addysg.