Sut rydym yn defnyddio cwcis

This site uses only cookies strictly necessary to ensure the site works correctly.

Please read about how we use cookies.

Cuddio'r neges hon

Cwcis cwbl angenrheidiol a chwcis nad ydynt yn hanfodol

Drwy glicio ar 'derbyn pob cwci' rydych yn cydsynio i ni ddefnyddio cwcis a'n polisi cwcis.

Rydym yn defnyddio cwcis trydydd parti ar y wefan hon

You have accepted necessary cookies only

Gallwch newid eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd
Cuddio'r neges hon

Ymdrin â Heidiau

Beth i'w wneud os byddwch yn canfod Haid?

O bryd i'w gilydd mae'n bosibl y byddwch yn dod ar draws haid o wenyn mêl e.e. yn eich gardd. Os bydd yr haid yn peri niwsans a'ch bod am gael gwared arni, yn y lle cyntaf dylech gysylltu â chasglwr heidiau lleol i weld a fydd yn fodlon dod i gasglu'r haid. Mae gan Gymdeithas Gwenynwyr Prydain (BBKA) restr o gasglwyr heidiau.

Am ragor o wybodaeth am heidiau a chasglu heidiau, ewch i wefan Cymdeithas Gwenynwyr Prydain.

Fel arall, os ydych yn byw yng Nghymru, ceir rhagor o wybodaeth am sut i gysylltu â chasglwr heidiau yn eich ardal ar wefan Cymdeithas Gwenynwyr Cymru.

Heidiau ar ddraenen wen

Gwenyn fferal?

A ddylwn ddifa nyth gwenyn mêl?

Pan ofynnir i chi ddifa nythfa o wenyn mêl fferal, dylech asesu'n ofalus a oes pobl wedi cael eu pigo gan wenyn o'r nythfa a yw lleoliad y nythfa yn peri risg i bobl? Os na fydd y nythfa yn peri risg i iechyd y cyhoedd, dylech ystyried mesurau amgen yn ofalus cyn difa'r nythfa.

D.S. Mae nythfeydd gwenyn mêl wedi bod yng ngheudodau llawer o adeiladau ers blynyddoedd lawer heb aflonyddu ar berchennog yr eiddo nac achosi unrhyw broblemau iddo. Os na fydd y nythfa yn peryglu iechyd y cyhoedd ac nad yw'n peri niwsans na risg, gellir gadael llonydd iddi.

Fel aelod o'r cyhoedd, byddai'n well ymgynghori â Rheolwr Plâu neu wenynwr yn hytrach na cheisio trin y nythfa eich hun.

Pa gynhyrchion y gellir eu defnyddio?

Ni allwn argymell unrhyw gynhyrchion penodol. Fodd bynnag, mae amrywiaeth eang o fioleiddiaid ar gael mewn siopau DIY/nwyddau metel ac archfarchnadoedd lleol. Sicrhewch ei fod yn nodi y gellir defnyddio'r cynnyrch ar wenyn fferal. Mae'r wybodaeth hon i'w chael fel arfer ar gefn y label.

Ceir gwybodaeth am ddefnyddio bioleiddiaid ar wefan yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch (HSE).

Pa ragofalon y dylid eu cymryd wrth drin nyth gwenyn mêl?

Os byddwch o'r farn mai trin y nyth yw'r opsiwn gorau, defnyddiwch gynllun cydgysylltu ar gyfer chwistrellu Cymdeithas Gwenynwyr Prydain. Yma, bydd Swyddog Cydgysylltu ar gyfer Chwistrellu yn ffonio pob gwenynwr lleol hysbys ac yn ei rybuddio y bydd digwyddiad chwistrellu. Mae'n bwysig eich bod yn siarad â gwenynwyr lleol cyn trin nythfa er mwyn i'r holl risgiau i gychod yn yr ardal o'i hamgylch gael eu trafod.

Cofiwch ei bod yn bosibl y bydd aelodau o'r Cymdeithasau Gwenynwyr yn gallu rhoi cyngor ac y byddant weithiau yn symud nythfeydd gwenyn mêl fferal hygyrch, gan osgoi'r angen i ddefnyddio bioleiddiaid.

Dim ond pryfleiddiad a gymeradwyir gan HSE y dylech ei ddefnyddio a sicrhewch eich bod yn darllen ac yn dilyn y label bob amser. Peidiwch â gwyro oddi wrth y cyfarwyddiadau. Sicrhewch y gallwch ddefnyddio'r cynnyrch mewn ffordd gyfrifol a diogel.

Ar ôl cwblhau'r driniaeth, dylech gymryd pob rhagofal rhesymol er mwyn atal gwenyn mêl sy'n fforio rhag mynd i mewn i'r nyth a driniwyd, drwy dynnu'r diliau allan os yw'n bosibl neu gau pob mynedfa hysbys i'r nythfa.

Os bydd gennych nythfa gwenyn fferal yn eich adeilad a bod rhywun wedi dweud wrthych fod angen ei difa, gweler y cod ymarfer a ysgrifennwyd gan Gymdeithas Genedlaethol Technegwyr Plâu (NPTA): Canllawiau i Reolwyr Plâu.