Sut rydym yn defnyddio cwcis

This site uses only cookies strictly necessary to ensure the site works correctly.

Please read about how we use cookies.

Cuddio'r neges hon

Cwcis cwbl angenrheidiol a chwcis nad ydynt yn hanfodol

Drwy glicio ar 'derbyn pob cwci' rydych yn cydsynio i ni ddefnyddio cwcis a'n polisi cwcis.

Rydym yn defnyddio cwcis trydydd parti ar y wefan hon

You have accepted necessary cookies only

Gallwch newid eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd
Cuddio'r neges hon

Hyfforddiant ac Addysg i Wenynwyr

Hyfforddiant Gwenyna

Un o brif elfennau gwaith yr Uned Wenyn Genedlaethol a'i Harolygwyr Gwenyn yw darparu cymorth i wenynwyr mewn perthynas ag amrywiaeth eang o faterion sy'n ymwneud ag iechyd a hwsmonaeth gwenyn.

Mae hyn yn amrywio o gyngor a roddir i wenynwyr unigol yn ystod archwiliadau o wenynfeydd i raglen helaeth o ddarlithoedd, sesiynau hyfforddiant i wenynfeydd, gweithdai dydd a seminarau hyfforddiant. Caiff y rhain eu trefnu ledled Cymru a Lloegr gan Arolygwyr yr Uned Wenyn Genedlaethol. Mewn llawer o ardaloedd mae cymdeithasau gwenynwyr yn chwarae rôl weithredol ac allweddol wrth ein helpu gyda'r sesiynau hyn.

Gall Arolygwyr Gwenyn maes yr Uned Wenyn Genedlaethol helpu gwenynwyr drwy ddarparu amrywiaeth hyfforddiant, gan gynnwys:

  • Hyfforddiant ar adnabod a rheoli clefyd y gwenyn; Clefyd Americanaidd y Gwenyn a Chlefyd Ewropeaidd y Gwenyn, adnabod anhwylderau a chyflyrau mag eraill, rheoli Varroa, Rheoli Plâu Integredig ac adnabod plâu egsotig Aethina tumida (Chwilen Fach y Cwch), gwiddon Tropilaelaps a rhywogaethau goresgynnol anfrodorol megis y Gacynen Asiaidd;
  • Saffarïau ymarferol o amgylch gwenynfeydd; teithiau gwirfoddol o amgylch gwenynfeydd, a drefnir gan Gymdeithasau Gwenynwyr lleol, er mwyn archwilio gwenyn eu haelodau; 
  • Mae'r holl hyfforddiant a'r sgyrsiau yn canolbwyntio ar iechyd neu fioddiogelwch gwenyn.

Yn gyffredinol:

  • Bydd Arolygwyr Gwenyn Rhanbarthol yn cynnig digwyddiadau ar ffurf Diwrnodau Iechyd Gwenyn sy'n ymdrin ag amrywiaeth o bynciau ac a gynhelir ar lefel sir ac efallai y byddant yn gallu siarad mewn cynadleddau rhanbarthol, yn amodol ar ymrwymiadau eraill. Fel arfer, caiff Diwrnodau Iechyd Gwenyn eu cynnig yn ystod yr wythnos, gan nad yw arolygwyr ar gael ar y penwythnos fel arfer. Gan fod amser hyfforddiant yn cael ei neilltuo ar gyfer y digwyddiadau mwy o faint hyn, fel arfer ni fydd Arolygydd Gwenyn Rhanbarthol yn gallu cynnig sgyrsiau llai ar lefel cangen.
  • Gall Arolygwyr Gwenyn Tymhorol gynnig Saffarïau Gwenyn a sgyrsiau i ganghennau/adrannau yn ystod y tymor archwilio, yn amodol ar ymrwymiadau sy'n bodoli eisoes a blaenoriaethau archwilio.
  • Un maes lle na allwn ddarparu cymorth yw hyfforddiant i ddechreuwyr neu helpu gyda chyrsiau i ddechreuwyr. Nid yw darparu sgyrsiau codi ymwybyddiaeth o glefydau gwenyn, sy'n ddefnyddiol i ddechreuwyr sy'n dal i ddysgu sut i drin gwenyn yn ystod eu tymor cyntaf neu eu hail dymor, yn gofyn am wybodaeth fanwl arolygydd ac nid oes gennym yr adnoddau i allu gwneud hyn.

Dylid cyfeirio pob cais am sgwrs yn y lle cyntaf at eich Arolygydd Gwenyn Rhanbarthol, y mae ei fanylion cyswllt ar gael ar y dudalen manylion cyswllt.

Gwenynwyr o gwmpas cwch gwenyn

Gwasanaethau Ymgynghori

Mae'r Uned Wenyn Genedlaethol hefyd yn darparu gwasanaethau ymgynghori a hyfforddiant ar gadw gwenyn i lywodraethau a diwydiant dramor. Mae gan staff yr Uned Wenyn Genedlaethol brofiad diweddar o weithio yn Ewrop, Asia, America ac Affrica. Cysylltwch â'r Uned Wenyn Genedlaethol am ragor o fanylion.

Taflenni Cynghorol yr Uned Wenyn Genedlaethol

Gweler ein tudalen cyhoeddiadau am daflenni cynghorol a ffeithlenni'r Uned Wenyn Genedlaethol a'n tudalen o erthyglau ac adroddiadau a luniwyd ar gyfer BeeCraft, BBKA, Gwenynwyr Cymru a Chymdeithas y Ffermwyr Gwenyn.