Sut rydym yn defnyddio cwcis

This site uses only cookies strictly necessary to ensure the site works correctly.

Please read about how we use cookies.

Cuddio'r neges hon

Cwcis cwbl angenrheidiol a chwcis nad ydynt yn hanfodol

Drwy glicio ar 'derbyn pob cwci' rydych yn cydsynio i ni ddefnyddio cwcis a'n polisi cwcis.

Rydym yn defnyddio cwcis trydydd parti ar y wefan hon

You have accepted necessary cookies only

Gallwch newid eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd
Cuddio'r neges hon

Cynllunio wrth gefn

Mae'r UWG, ar y cyd â Defra a Llywodraeth Cymru, wedi datblygu cynlluniau wrth gefn a mesurau gwyliadwriaeth er mwyn gallu mynd i'r afael ag achosion o bla egsotig neu glefyd. Ers 2003, mae Arolygwyd Gwenyn Penodedig wedi bod yn cynyddu'r Rhaglenni Gwyliadwriaeth Statudol er mwyn monitro'n benodol am Aethina tumida - Chwilen Fach y Cwch, gwiddon Tropilaelaps a Vespa velutina, sef cacynen Asiaidd.

Mae'r UWG yn defnyddio BeeBase wedi'i gysylltu â Systemau Gwybodaeth Ddaearyddol er mwyn helpu i flaenoriaethu'r rhaglen hon a thargedu ‘Gwenynfeydd lle Ceir Risg,' er enghraifft:

  • Gwenynfeydd sydd wedi'u lleoli'n agos (<10km) at feysydd sifil a milwrol;
  • Depos cludo nwyddau a phorthladdoedd cyrraedd ar gyfer ffrwythau a bwydydd eraill;
  • Gwenynfeydd sy'n perthyn i fewnforwyr gwenyn a gwenynfeydd o'u hamgylch.

Cynllunio wrth gefn

At hynny, mae'r UWG, mewn cydweithrediad â chymdeithasau a gwenynwyr lleol, yn cynnal ymarferion argyfwng blynyddol mewn sawl rhanbarth. Mae ein cynlluniau wrth gefn yn nodi'r ymateb i achos o bla egsotig os canfyddir naill ai Chwilod Bach y Cwch, Tropilaelaps spp. neu Gacwn Asiaidd yn y DU.

Caiff mesurau brys eu rhoi ar waith er mwyn asesu maint y pla yn gyflym ac yna caiff y pla ei ddileu, os yw'n bosibl. Fodd bynnag, os bydd y pla yn ymsefydlu ac na ellir ei ddileu, rhoddir polisi cyfyngu a rheoli ar waith. Bydd y dull gweithredu a fabwysiedir yn dibynnu'n fawr ar faint y pla. Mae trefniadau tebyg yn gymwys yn yr Alban a Gogledd Iwerddon.

Dilynwch y ddolen er mwyn lawrlwytho ein camau gweithredu arfaethedig os caiff pla egsotig neu glefyd sy'n effeithio ar wenyn mêl eu cyflwyno i Gymru neu Loegr.

Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop (EFSA)

Asesiad o'r Risg y bydd Pla Gwenyn yn Cyrraedd yr UE

Mae EFSA wedi cyhoeddi adroddiad sy'n nodi llwybrau sy'n peri risg sylweddol y gallai plâu egsotig megis Chwilen Fach y Cwch a Tropilaelaps gyrraedd yr UE. Mae'r asesiad risg a gynhaliwyd gan Iechyd a Lles Anifeiliaid (AHAW) yn ystyried pob un o'r ffyrdd posibl y gallai plâu gyrraedd yr UE.

Mae tudalennau adroddiad EFSA yn cynnwys rhagor o wybodaeth am fannau cyrraedd posibl, gan gynnwys:

  • Plâu yn cyrraedd yr UE gyda gwenyn a fewnforir;
  • Cynhyrchion gwenyn a fewnforir;
  • Gwenyn a fewnforir yn anfwriadol mewn llwythi o nwyddau nad ydynt yn wenyn.

Maent hefyd yn cynnwys papur sy'n nodi barn wyddonol panel EFSA ar y risg y bydd Chwilod Bach y Cwch a Tropilaelaps spp yn cyrraedd yr UE.

Colocwiwm Gwyddonol XVIII EFSA

Ym mis Mai 2013, cynhaliwyd Colocwiwm Gwyddonol XVIII EFSA yn Parma yn yr Eidal lle yr ymgasglodd mwy na 100 o arbenigwyr ym maes gwenyn er mwyn trafod sawl straenachosydd sy'n effeithio ar iechyd gwenyn. Yn y Colocwiwm, a oedd yn dwyn y teitl "Towards a holistic approach to the risk assessment of multiple stressors in bees", trafodwyd pedair thema yn fanwl, sef:

  1. Yr hyn sydd angen ei ddiogelu mewn cyd-destun amgylcheddol mewn caeau ('in-field') ac yn yr ardal o'u hamgylch ('off-field')?
  2. Pa adnoddau sydd ar gael i asesu effeithiau ar wasanaethau peillio a achosir gan effeithiau ar wenyn a beth yw'r heriau sy'n gysylltiedig ag asesu'r effeithiau hynny?
  3. Pa effeithiau y gellid eu goddef (h.y. ar wenyn, cnydau a phlanhigion gwyllt) dros ba raddfeydd gofodol ac amserol a pha ddulliau sydd ar gael i nodi effeithiau o'r fath?
  4. Beth yw'r mesurau lliniaru i ddiogelu gwenyn, gwasanaethau peillio a phlanhigion?

Ceir rhagor o fanylion am y digwyddiad, gan gynnwys cyflwyniadau ac anerchiadau a roddwyd gan y panel, yma.