Sut rydym yn defnyddio cwcis

This site uses only cookies strictly necessary to ensure the site works correctly.

Please read about how we use cookies.

Cuddio'r neges hon

Cwcis cwbl angenrheidiol a chwcis nad ydynt yn hanfodol

Drwy glicio ar 'derbyn pob cwci' rydych yn cydsynio i ni ddefnyddio cwcis a'n polisi cwcis.

Rydym yn defnyddio cwcis trydydd parti ar y wefan hon

You have accepted necessary cookies only

Gallwch newid eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd
Cuddio'r neges hon

Achosion a amheuir o wenwyno gwenyn

Y Cynllun Ymchwilio i Ddigwyddiadau Bywyd Gwyllt (WIIS)

Mae'r wybodaeth ganlynol ar gyfer gwenynwyr sy'n credu mai gwenwyno gan blaleiddiaid sy'n gyfrifol am farwolaeth sydyn ac annisgwyl nifer mawr o wenyn mêl.

Beth yw'r WIIS?

Mae'r Cynllun Ymchwilio i Ddigwyddiadau Bywyd Gwyllt yn gynllun unigryw ar gyfer monitro effeithiau plaleiddiaid ar fywyd gwyllt, gan gynnwys infertebratau buddiol megis gwenyn mêl. Caiff gwybodaeth a gesglir ei bwydo i mewn i'r broses gymeradwyo ar gyfer plaleiddiaid ac mae'n helpu i ddilysu a gwella asesiadau risg o blaleiddiaid. Gall hefyd arwain at newidiadau i argymhellion ynglŷn â labeli ar gynhyrchion plaleiddiaid. Nid yw'n cael ei ddarparu fel gwasanaeth personol i wenynwyr sydd am geisio tystiolaeth at ddibenion ymgyfreitha sifil ond gall olygu y bydd y gorfodwr yn cymryd camau gorfodi os nodir, fel rhan o'r broses hon, fod cynnyrch wedi'i gamddefnyddio.

Ceir rhagor o fanylion am y cynllun yn y daflen 'Incidents Involving Pesticides and Animals' a gyhoeddir gan Defra.

Mae'n bwysig nodi nad yw WIIS yn wasanaeth diagnostig ond yn hytrach mai ei ddiben yw ymchwilio i achos digwyddiadau a amheuir.

Pwy sy'n rhan o'r WIIS?

Mae'r WIIS yn cynnwys gwaith cydweithredol pedwar sefydliad ar wahân. Fe'i harweinir gan yr Is-adran Rheoleiddio Cemegion (CRD), sef y Gyfarwyddiaeth Diogelwch Plaleiddiaid gynt. WIIS yw'r 'Awdurdod Cymwys' ar gyfer cymeradwyo a rheoleiddio plaleiddiaid a rhai cemegion eraill. Mae Natural England (NE) yn rheoli'r Cynllun ar ran yr Is-adran Rheoleiddio Cemegion ac yn cynnal ymchwiliadau safle i amlygiad i blaleiddiaid, mae Fera Science Ltd (Fera) yn dadansoddi plaleiddiaid ac, os yw'n briodol, Mae'r Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion (APHA) yn cynnal archwiliadau post-mortem ar fywyd gwyllt. Yng nghwmni Fera, bydd yr Uned Digwyddiadau Bywyd Gwyllt yn dadansoddi samplau i weld a ydynt yn cynnwys plaleiddiaid ac yn rhoi dehongliad o'r canlyniad yn seiliedig ar wybodaeth a gafwyd gan yr asiantaethau sy'n rhan o'r cynllun.

Beth y dylwn ei wneud os byddaf yn amau bod fy ngwenyn wedi'u gwenwyno?

Cysylltwch â'ch Arolygydd Gwenyn lleol neu aelod o'r Tîm yn yr UWG ar unwaith. Gallant roi cyngor i chi ar beth i'w wneud. Fodd bynnag, byddai'n syniad da, ar yr adeg hon, petaech yn casglu sampl o'r gwenyn yr effeithiwyd arnynt. Mae angen sampl o 200 o wenyn o leiaf ar gyfer y dadansoddiad. Efallai y byddai'n ddoeth casglu sampl o wenyn i chi eich hun, rhag ofn y byddwch am drefnu i ddadansoddiad annibynnol gael ei gynnal. Ceir gwybodaeth am sut i anfon samplau yn yr adran anfon samplau i'r labordy.

Beth fydd yn digwydd ar ôl i mi roi gwybod am y Digwyddiad a amheuir?

Cyn gynted â phosibl ar ôl i chi gysylltu â ni, bydd eich Arolygydd Gwenyn lleol yn cysylltu â chi ac efallai y bydd yn trefnu ymweld â'ch gwenynfa. Bydd yr Arolygydd yn asesu'r sefyllfa a chyflwr y gwenyn. Os bydd o'r farn y gall fod rheswm dros amau bod eich gwenyn wedi'u gwenwyno, cymerir sampl o wenyn ac fe'i cyflwynir i'r Uned Digwyddiadau Bywyd Gwyllt yng Nghaerefrog (naill ai er mwyn ategu unrhyw wenyn a gyflwynwyd yn flaenorol neu fel sampl gyntaf). Mae hefyd yn syniad da ceisio cadarnhau a oedd unrhyw un yn chwistrellu yn yr ardal ar y pryd.

Sut y rhoddir gwybod am y digwyddiad o dan WIIS?

Ar ôl i'r Uned Digwyddiadau Bywyd Gwyllt ei chael, caiff y sampl ei chofnodi a hysbysir y corff perthnasol am ddigwyddiad posibl. Bydd Cynghorydd Bywyd Gwyllt yn cydgysylltu â'r Arolygydd Gwenyn ac yn cysylltu â chi i gael unrhyw fanylion pellach am y digwyddiad cyn adolygu'r wybodaeth sydd ar gael. Efallai y bydd y cynghorydd yn trefnu i Arolygydd Gwenyn ymweld â chi, os na fydd wedi gwneud hynny eisoes. Bydd y cynghorydd bywyd gwyllt yn penderfynu a oes sail ddigonol dros fwrw ymlaen â'r achos a'i gofnodi ar gynllun WIIS fel achos a amheuir o wenwyno gan blaleiddiad. Bydd y Cynghorydd Bywyd Gwyllt yn eich hysbysu am y penderfyniad hwnnw ac efallai y bydd yn trefnu ymweliad â'r safle hefyd er mwyn casglu rhagor o wybodaeth am ffynonellau posibl o amlygiad i blaleiddiad.

Faint o amser y bydd hyn oll yn ei gymryd?

Mae pob un o'r asiantaethau sy'n rhan o'r cynllun yn gwneud pob ymdrech i gwblhau ymchwiliadau cyn gynted â phosibl. Fodd bynnag, mae'n anochel y bydd y gweithdrefnau hyn yn cymryd amser oherwydd yn aml nid oes unrhyw dystiolaeth o'r maes i gysylltu plaleiddiad penodol â'r digwyddiad, sy'n golygu ei bod yn bosibl y bydd angen sgrinio ar gyfer amrywiaeth eang o gyfansoddion. Mae'n debygol y bydd yn cymryd sawl mis cyn y bydd unrhyw ganlyniadau ar gael. Ar ôl i'r sampl gyrraedd yr Uned Digwyddiadau Bywyd Gwyllt, gall gymryd hyd at 12 wythnos i gwblhau ei dadansoddiad, yn enwedig os nad oes fawr ddim tystiolaeth, os o gwbl, i awgrymu'r achos gwreiddiol. Unwaith y bydd ymchwiliad cyfan wedi'i gwblhau a'r achos wedi'i gau, caiff y gwenynwr ei hysbysu gan Natural England.

Sut y gellir diogelu gwenyn pan fydd gwaith chwistrellu yn cael ei wneud?

Bydd label ac arni'r geiriau 'harmful', 'dangerous', 'extremely dangerous' neu 'high risk' wedi'i roi ar unrhyw gynnyrch sy'n niweidiol i wenyn a rhaid i bob defnyddiwr ystyried y wybodaeth hon wrth gynnal ei asesiad risg cyn ei ddefnyddio. Mae'r Cod Ymarfer ar gyfer Defnyddio Cynhyrchion Diogelu Planhigion hefyd yn dweud wrth y defnyddiwr y dylai roi gwybod i wenynwyr 48 awr cyn defnyddio plaleiddiaid ar adegau o'r flwyddyn pan fo gwenyn yn wynebu risg neu os yw plaleiddiad penodol yn niweidio gwenyn yn benodol er mwyn rhoi amser i'r gwenynwr gymryd unrhyw ragofalon angenrheidiol. Gallai hyn gynnwys gau'r nythfeydd i mewn am ddiwrnod neu eu symud dros dro i safle arall.

Rhagor o Wybodaeth: