Sut rydym yn defnyddio cwcis

This site uses only cookies strictly necessary to ensure the site works correctly.

Please read about how we use cookies.

Cuddio'r neges hon

Cwcis cwbl angenrheidiol a chwcis nad ydynt yn hanfodol

Drwy glicio ar 'derbyn pob cwci' rydych yn cydsynio i ni ddefnyddio cwcis a'n polisi cwcis.

Rydym yn defnyddio cwcis trydydd parti ar y wefan hon

You have accepted necessary cookies only

Gallwch newid eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd
Cuddio'r neges hon

Cyngor i wenynwyr

Dechrau gyda Gwenyn

A ydych wastad wedi eisiau bod yn wenynwr ond nad oeddech yn gwybod ble i ddechrau? Gobeithio y bydd y tudalennau hyn yn rhoi'r wybodaeth i chi a fydd yn eich helpu i benderfynu a yw'n hobi priodol i chi.

Mae'r rhan fwyaf o wenynwyr yn dechrau ag ychydig nythfeydd yn unig er mwyn astudio ymddygiad gwenyn a chael rhywfaint o fêl i'w werthu. Ychydig o nythfeydd yw'r cyfan sydd ei eisiau arnynt i'w reoli a bydd hyd yn oed y nythfeydd hynny yn mynd â digon o'u hamser. Ar ôl ychydig flynyddoedd o brofiad, bydd rhai gwenynwyr yn penderfynu cynyddu eu stociau a dechrau masnachu. Dylai unrhyw un sy'n bwriadu bod yn wenynwr ymgyfarwyddo â gwenyn mêl yn gyntaf. Wedi'r cyfan, mae'r wenynen fêl, er ei bod yn greadur hynod ddiddorol, yn bryfyn anarferol i'w gadw ac mae'n llawer anoddach nag y byddech yn tybio i ddechrau!

Gwenyn mewn blwch magu

Cyn ymgymryd â'r grefft cofiwch y canlynol: mae cadw gwenyn yn fath o weithgaredd rheoli da byw. Mae angen gofalu amdanynt a, hyd yn oed gyda nifer bach o wenynfeydd, mae angen cynnal archwiliadau wythnosol. Mae dyletswydd gofal ar wenynwyr i ofalu amdanynt yn iawn; gall fod yn waith eithaf anodd a thrwm ar adegau. Er enghraifft, gall un llofft bwyso mwy nag 20-25kg. At hynny, gall symud nythfeydd at ddibenion peillio neu i lifau mêl gwahanol fod yn waith caled a blinderus iawn a fydd yn gofyn i chi weithio oriau hir i mewn i'r nos. Mae'n golygu gwneud yn siŵr bod gan nythfeydd ddigon o fwyd bob amser a digon o le i ehangu'r nythfa yn ystod y tymor. Yn ystod misoedd yr haf, mae angen i wenynwyr gynnal archwiliadau bob wythnos er mwyn gwneud y canlynol:

  • Rheoli'r awydd sydyn i heidio (os byddant yn heidio byddwch yn colli hanner y nythfa);
  • Sicrhau bod gan iechyd nythfeydd freninesau ifanc epiliog;
  • Sicrhau eu bod yn rhydd o glefyd bob amser. Dylid archwilio mag ddwywaith y flwyddyn, yn gyntaf yn y gwanwyn ac wedyn ar ddechrau'r hydref;
  • Sicrhau y cedwir poblogaethau Varroa i lefelau hydrin gan ddefnyddio meddyginiaethau priodol a systemau Rheoli Plâu Integredig. Ni allwch gadw gwenyn sy'n ‘rhydd o Varroa’ yn y DU.
  • Os byddwch yn canfod clefyd hysbysadwy (Clefyd Ewropeaidd y Gwenyn neu Glefyd Americanaidd y Gwenyn ), pla hysbysadwy (Chwilen Fach y Cwch neu widdon Tropilaelaps), neu bla cofnodadwy (Varroa), yn ôl y gyfraith mae'n ofynnol i chi roi gwybod amdano i'r Uned Wenyn Genedlaethol. Bydd y dolenni canlynol yn mynd â chi i wybodaeth fanwl am bob un o'r plâu a chlefydau hyn:

Mae angen i nythfeydd gael eu rheoli ac mae'r paragraffau canlynol ond yn ymdrin yn arwynebol â'r gwaith sydd ei angen.

Y Gwenyn

Mae straeniau gwahanol o wenyn mêl, Apis mellifera. Mae llawer ym Mhrydain Fawr yn ddu neu'n ddu tywyll; mae gan eraill fandiau melyn ar eu habdomenau. Mae rhai gwenyn yn hawdd iawn i'w rheoli tra bod eraill yn hollol anhydrin bron, yn enwedig yn nwylo dechreuwr. Mae'n bwysig iawn cael gwenyn dof. Y peth olaf sydd ei eisiau arnoch yn ystod eich tymor cyntaf yw gorfod delio â gwenyn milain a phenderfynu rhoi'r gorau i gadw gwenyn. Ni allwch gadw gwenyn amddiffynnol iawn mewn gardd yn agos at gymdogion ond gallwch gadw nythfa ddof. Efallai y byddwch yn clywed gan wenynwr profiadol iawn fod gwenyn amddiffynnol yn cynhyrchu mwy o fêl. Fodd bynnag, nid oes unrhyw gysylltiad rhwng tymer gwenyn a'u cynhyrchiant posibl.

Mae gwenyn mêl yn bryfed cymdeithasol ac maent yn byw gyda'i gilydd mewn nythfeydd Mae nythfa gwenyn mêl yn cynnwys y canlynol:

  • Brenhines; man yr holl wenyn sy'n dodwy'r holl wyau yn y nythfa, heb eu ffrwythloni (gwryw) ac wedi'u ffrwythloni (benyw). Gall breninesau fyw am hyd at sawl blwyddyn (hyd at 3-4 blynedd);
  • Yn yr haf; cannoedd o wenyn gormes sydd â'r swyddogaeth o baru â breninesau gwyryf. Gall gwenyn gormes fyw am hyd at sawl mis;
  • Ar ganol yr haf; rhwng 50,000 a 60,000 o wenyn gweithgar. Y rhain yw gweithlu'r nythfa ac maent yn casglu'r hyn sydd ei angen ar y nythfa. Yn ystod yr haf, byddant yn byw am hyd at 6 wythnos ond, yn ystod y gaeaf ac ar ddechrau'r gwanwyn, byddant yn byw am hyd at 6 mis;
  • Rhwng dechrau'r flwyddyn a diwedd yr hydref mae gan y rhan fwyaf o nythfeydd ffurfiau anaeddfed, a elwir ar y cyd yn fag. Cânt eu magu mewn celloedd cwyr sydd hefyd yn cynnwys storfeydd bwyd y nythfa.

Yn ystod y gaeaf, mae'r frenhines yn rhoi'r gorau i ddodwy wyau, neu mae'n dodwy llawer llai o wyau ac mae'r nythfa yn fyw ar y bwyd a gasglwyd yn ystod yr haf. Mae gallu'r wenynen fêl i oroesi ar fwyd wedi'i storio a rheoleiddio tymheredd y nythfa yn ystod tymhorau neu amodau anffafriol wedi'i galluogi i ledaenu i bron pob rhan o'r byd. Yn ystod y gaeaf, pan fo'r nythfa yn anweithredol, mae nifer y gwenyn gweithgar yn lleihau i tua 20,000 ac fel arfer mae'r gwenyn gormes yn cael eu gyrru allan o'r nythfa (er bod rhai yn gaeafu yno). Cedwir y frenhines yn gynnes yng nghanol clwstwr y gaeaf.

Gwenynfa yn y Gaeaf

Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, bu ymwybyddiaeth gynyddol o wenyn o'r gwasanaeth pwysig a ddarperir gan wenyn a phryfed buddiol eraill drwy beillio llawer o gnydau amaethyddol a garddwriaethol yn ogystal â fflora gwyllt. Mae gwerth gwenyn mêl fel pryfed peillio yn drech o lawer na'u gwerth fel cynhyrchwyr mêl ac amcangyfrifir bod diwydiant peillio cnydau'r DU yn werth mwy na £400 miliwn bob blwyddyn.

Ceir rhagor o fanylion am y creadur hynod ddiddorol hwn mewn gwerslyfrau a gwefannau cyfeirio. Rhowch gynnig ar rai o'r gwefannau ar ein tudalennau dolenni defnyddiol. Am enghraifft o rai o'r termau a ddefnyddir ym maes gwenyna, gweler tudalen 'rhestr termau' BeeCraft.

Gwenynfeydd – Mannau Lle y Cedwir Gwenyn

Dylid lleoli gwenynfeydd mewn mannau sy'n sicrhau mai dim ond y gwenynwr sy'n debygol o gael ei bigo gan y gwenyn. Drwy sicrhau bod waliau neu wrychoedd uchel o amgylch gwenynfa, gellir gorfodi'r gwenyn i hedfan yn uchel iawn uwchben cymdogion gerllaw. Os caiff cymdogion neu anifeiliaid anwes eu pigo, gallai hynny effeithio ar gysylltiadau cyhoeddus ac ni ellir diystyru'r risg i fywyd, er ei bod yn fach.

Gellir cadw nifer bach o nythfeydd bron unrhyw le ar Ynysoedd Prydain, hyd yn oed mewn ardaloedd trefol a maestrefol a gall cnydau mêl fod yn rhyfeddol o fawr. Mae nifer y nythfeydd a gedwir yn dibynnu ar y planhigion fforio sydd ar gael a chyfyngiadau'r safle. Os bydd y gwenynwr yn awyddus i gynyddu nifer eu nythfeydd y tu hwnt i gapasiti ei wenynfa gartref, bydd angen iddo sefydlu gwenynfeydd allanol, sef gwenynfeydd i ffwrdd o'r cartref. Gellir cadw gwenyn i ffwrdd o'r cartref oherwydd, yn wahanol i fathau eraill o dda byw, nid oes angen rhoi sylw i wenyn bob dydd. Serch hynny, rhaid rhoi sylw i'r nythfeydd pan fydd ei angen arnynt.

Dylai fod yn hawdd cyrraedd gwenynfa allanol ar ffyrdd, drwy gydol y flwyddyn. Dylai fod mewn man cysgodol, sych a heulog a dylid osgoi pocedi o rew. Ni all rhai ardaloedd gynnal nifer mawr o nythfeydd drwy gydol tymor cyfan, er eu bod yn darparu bwyd ar gyfer ychydig o nythfeydd. Mewn rhai ardaloedd, efallai y byddai'n ddoeth arfer gwenyna mudol (symud nythfeydd i gnydau addas pan fyddant yn blodeuo. Gall nythfeydd gael eu symud at ddibenion peillio neu er mwyn cynhyrchu mêl.

Cychod ac arnynt lofftydd mêl

Cychod

Gellir disgrifio cwch fel unrhyw geudod sy'n gartref i nythfa o wenyn mêl, e.e. ceubrennau, tyllau mewn creigiau, blychau pren neu yn y cwch gwellt traddodiadol. Dim ond mewn cychod fframiau y gellir eu symud y dylid cadw gwenyn mêl, mewn gwirionedd; mae'n golygu eu bod yn llawer haws i'w rheoli ac y gellir eu harchwilio'n rheolaidd i weld a ydynt wedi'u heintio â phlâu neu glefydau. Caiff gwenyn a gedwir mewn cychod fframiau na ellir eu symud neu gychod fframiau sefydlog eu harchwilio gan Arolygwyr Gwenyn yr UWG os ystyrir eu bod yn wynebu risg. Mae system fframiau y gellir ei symud yn helpu i sicrhau y caiff nythfeydd eu rheoli'n effeithiol ac, yn bwysicach byth, mae'n hwyluso'r gwaith o archwilio mag yn rheolaidd ac yn drylwyr ar gyfer symptomau o glefyd y gwenyn.

Mae gwahanol fath o gychod ar gael gan wneuthurwyr a chyflenwyr cyfarpar. Mae cychod National, Smith, Modified Commercial, Langstroth a Dadant yn fathau ag un wal. O blith y rhain, cychod National a Smith yw'r rhai mwyaf poblogaidd ym Mhrydain. Dim ond un math o gwch y dylid ei ddefnyddio mewn gwenynfa er mwyn sicrhau y gellir cyfnewid y gwahanol rannau. Nid oes dim byd gwaeth na mynd i wenynfa a chanfod eich bod wedi dod â'r cyfarpar anghywir gyda chi ar gyfer y math anghywir o gwch. Os byddwch yn cael cychod ail-law, mae'n hanfodol nad ydynt wedi'u heintio â chlefyd y gwenyn a'ch bod yn eu sterileiddio'n briodol. Ceir manylion am sut i wneud hyn yn ein taflen 'Glanhau a Sterileiddio Cychod Gwenyn'.

Dillad a Chyfarpar Diogelu

Pigiadau

Gall gwenyn bigo; dyma rywbeth y mae'n rhaid i chi ei ystyried cyn dechrau cadw gwenyn. Rhaid i chi allu goddef pigiadau gwenyn gan na ellir eu hosgoi'n llwyr. Mae'r pigiad cyntaf yn annhebygol o darfu'n arnoch ryw lawer ond byddwch yn teimlo poen a bydd rhywfaint o gochi a chwyddo o amgylch y rhan o'r corff y mae'r pigiad wedi treiddio iddi. Gyda phigiadau dilynol, mae'r chwyddo a'r cochi yn debygol o fod yn fwy amlwg, hyd yn oed pan gaiff faint o wenwyn a chwistrellir i'r corff ei leihau drwy dynnu'r pigiad allan ar unwaith. Efallai y bydd y chwyddo yn parhau am sawl diwrnod ac mae'n debygol y bydd rhywfaint o gosi cyn i'r symptomau ddiflannu. Wrth i nifer y pigiadau a geir gynyddu, fel arfer mae imiwnedd rhag eu heffeithiau yn datblygu, er bod rhywfaint o chwyddo o amgylch y pigiad yn eithaf cyffredin. Mae pigiadau bob amser yn boenus

Yn anffodus, mae'n bosibl bod gan rai pobl alergedd i bigiadau gwenyn. Yn lle datblygu imiwnedd, bydd pobl o'r fath yn datblygu alergedd difrifol ar ôl ychydig o bigiadau. Mae eu symptomau (sy'n gysylltiedig ag adwaith cyffredinol difrifol) yn cynnwys blotiau cochion niferus ar y croen, y croen yn cosi, newid yng nghyflymder y galon gyda phwysau gwaed sy'n gostwng, anhawster anadlu a llewygu. Mae angen rhoi sylw meddygol brys i symptomau o'r fath. Gall unigolyn sy'n mynd yn anymwybodol ar ôl cael ei bigo gan wenynen farw.

Wrth drin gwenyn, mae angen dillad a chyfarpar diogelu er mwyn lleihau nifer y pigiadau cymaint â phosibl. Bydd hyn yn rhoi hyder i chi a fydd yn eich galluogi i reoli nythfeydd yn effeithiol a gwylio ymddygiad gwenyn yn ofalus. Dylai dillad diogelu gynnwys y canlynol:

  • gwisg gwenyn neu, o leiaf, fêl, a fydd yn diogelu pob rhan o'r pen a'r wyneb ac, ar yr un pryd, ac yn eich galluogi i weld yn glir ac i aer lifo'n rhydd;
  • Menig gwenyna addas megis menig latecs tafladwy a fydd yn eich diogelu ond y gellir eu glanhau a'u gwaredu'n hawdd hefyd. Dylid osgoi menig lledr wedi'i leinio â chroen dafad gan y gallent ddal pathogenau sy'n achosi clefydau;
  • Esgidiau glaw neu esgidiau gwaith â blaenau esgidiau amddiffynnol.

Mae hylendid gwenynfa da yn rhan bwysig iawn o'r gwaith o reoli gwenynfa er mwyn atal plâu a chlefydau rhag lledaenu o wenynfa i wenynfa neu o nythfa i nythfa. Bydd gwisgoedd gwenyn budr a hylendid gwenynfa gwael megis peidio â glanhau offer cwch rhwng pob nythfa neu adael cwyr, mêl neu fwyd gwenyn heb ei orchuddio, yn cynyddu'r risgiau hyn.

Eitemau hanfodol eraill o gyfarpar

Dylai mygwr gwenyn sydd ynghynn bob amser fod wrth law er mwyn helpu i dawelu'r gwenyn os byddant yn cynhyrfu. Mae erfyn y cwch ('hive tool') yn rhan hanfodol arall o becyn y gwenynwr, sydd ei angen i wahanu fframiau a gwahanol rannau o'r cwch, yn ogystal â chrafu fframiau a glanhau y tu mewn i arwynebau'r cwch er mwyn sicrhau eu bod yn rhydd o gwyr gwenyn a glud gwenyn (resin planhigion a gesglir gan wenyn). Mae dau fath o erfyn cwch, sef un masnachol a math J.

Os ydych yn cynhyrchu mêl, bydd angen i chi brynu tynnwr mêl a dull o hidlo'r mêl cyn ei botelu a'i labelu.

Defnyddio mygwr