Sut rydym yn defnyddio cwcis

This site uses only cookies strictly necessary to ensure the site works correctly.

Please read about how we use cookies.

Cuddio'r neges hon

Cwcis cwbl angenrheidiol a chwcis nad ydynt yn hanfodol

Drwy glicio ar 'derbyn pob cwci' rydych yn cydsynio i ni ddefnyddio cwcis a'n polisi cwcis.

Rydym yn defnyddio cwcis trydydd parti ar y wefan hon

You have accepted necessary cookies only

Gallwch newid eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd
Cuddio'r neges hon

Anhwylderau eraill ymhlith mag

Yn ogystal â Chlefydau hysbysadwy'r gwenyn, ceir anhwylderau llai difrifol eraill sy'n effeithio ar fag gwenyn mêl, gan gynnwys 'Sacbrood', 'Chalkbrood', 'Baldbrood', gwenyn gweithgar sy'n dodwy a breninesau sy'n edwino. Wrth gwrs, gall yr anhwylderau hyn achosi problemau difrifol dan rai amgylchiadau. Mae'n bwysig y gall gwenynwyr eu hadnabod a gwahaniaethu rhyngddynt a chlefydau eraill. 

Sacbrood

Larfa wedi'i Heintio â Sacbrood Larfa wedi'i Heintio â Sacbrood 

Achos: Mae Sacbrood yn haint feirysol mewn mag a achosir gan y genws 'Iflavirus' ac fe'i ceir pan fydd larfa wedi'i heintio yn methu â chwilera ar ôl cael ei selio yn ei gell. Wedyn, mae hylif yn cronni rhwng corff y larfa a'r croen heb ei fwrw, gan ffurfio coden. Mae'n glefyd eithaf cyffredin yn ystod hanner cyntaf y tymor magu mag ac yn aml ni sylwir arno, am ei fod ond yn effeithio ar ganran fach o'r mag. Fel arfer, ni fydd yn achosi colledion difrifol mewn nythfa. 

Symptomau: i ddechrau yn ystod haint, mae gronynnau'r feirws yn cael eu dyblygu yn y larfa sy'n datblygu, yr ymddengys ei fod yn datblygu yn y ffordd arferol ar ôl iddo gael ei gapio. Mae symptomau nodweddiadol yn cynnwys y canlynol: 

  • Mae'r larfa wedi'i heintio, sydd fel arfer yn wyn fel perl, yn troi'n felyn golau. 
  • Yn y pen draw, bydd y larfa yn marw ac yn dechrau sychu, gan droi'n frown tywyll i ddu, gan greu'r cen ‘Sliperi Tsieineaidd’ neu ‘siâp gondola’ nodweddiadol; 
  • Wrth i'r larfâu farw, bydd y gwenyn gweithgar yn tynnu'r cap oddi ar y celloedd i'w datguddio, gan greu patrwm mag anwastad â chapanau afliwiedig, pantiog neu dyllog wedi'u gwasgaru drwy'r celloedd magu.  
  • Mae croen y larfa marw hefyd yn newid yn goden galed debyg i blastig, sy'n llawn hylif. Dyma'r cam heintio y mae'r feirws wedi'i enwi ar ei ôl. Gellir tynnu'r goden yn ofalus gan ddefnyddio gefel fach. 

Ledaenu: Gall Varroa destructor fectoru feirws Sacbrood a bydd yn ei ledaenu wrth fwyta larfâu gwenyn mêl. Gall y feirws hefyd ledaenu drwy ymyrraeth y gwenynwr drwy drosglwyddo deunydd o nythfeydd wedi'u heintio i nythfa iach. At hynny, gall y feirws ledaenu drwy ymddygiad bwyta gwenyn gofal a thrwy wenyn yn dwyn o nythfeydd wedi'u heintio. 

Trin: gall cyflwyno brenhines newydd i'r nythfa yn lle'r hen un helpu i liniaru symptomau Sacbrood a bydd rheoli poblogaethau gwiddon Varroa yn helpu i reoli lledaeniad y feirws. 

Chalkbrood

'Mymïaid' Chalkbrood gwyn wedi caledu 'Mymïaid' Chalkbrood gwyn wedi caledu 

Achos: Achosir Chalkbrood gan y ffwng Ascosphaera apis. Pan gaiff ei lyncu gan y larfa bydd yn treiddio drwy wal y perfeddyn i amsugno maetholion. Wrth i'r sborau egino a lluosogi, bydd y larfa yn llwgu i farwolaeth yn y pen draw. Ar ôl tyfu am ychydig ddiwrnodau, mae'r larfa a'r ffwng yn chwyddo ac yn llenwi'r gell fagu lle y bydd yn caledu yn y pen draw ar ôl ychydig ddiwrnodau pan ellir ei weld ar ei ffurf 'fymiedig' nodweddiadol. Yma, mae'n troi'n lliw gwyn a du brith a bydd pob mymi Chalkbrood yn cynhyrchu miliynau o sborau heintus sy'n glynu wrth y celloedd, cydrannau'r cwch a gwenyn llawndwf. 

Symptomau: bydd symptomau nodweddiadol yn dechrau ymddangos ar ddechrau'r gwanwyn wrth i'r nythfa ddechrau cynyddu ei phoblogaeth. Bydd amodau megis tywydd llaith ac oer yn meithrin sborau ffwngaidd. Mae symptomau Chalkbrood yn cynnwys y canlynol: 

  • I ddechrau caiff y larfâu marw eu gorchuddio â thyfiant gwyn tebyg i gotwm ac efallai y byddant yn chwyddo i lenwi'r gell nes eu bod yr un siâp â hi. 
  • Ar ôl ychydig o amser byddant yn sychu ac yn crebachu i ffurfio'r ‘mymïaid’ nodweddiadol sy'n debyg i sialc gan droi'n llwyd-ddu yn gyntaf wrth i'r cyrff hadol ffwngaidd ddatblygu. 
  • Mae gwenyn gweithgar yn tynnu capanau celloedd y larfâu marw fel y bydd y mymïaid i'w gweld yn glir;
  • Mymïaid crebachlyd tebyg i sialc yn y mag ac ym mynedfa'r cwch ac o'i hamgylch. 
  • Wrth i'r cyflwr waethygu, bydd patrwm mag melin bupur i'w weld yn y cychod wedi'u heintio; 
  • Os bydd mymïaid yn y celloedd wedi'u capio o hyd, pan gaiff dil ei ysgwyd yn ysgafn, efallai y clywir y mymïaid yn ratlo yn y celloedd. 

Lledaenu: Mae A. apis yn heintus iawn a gellir ei ledaenu'n hawdd drwy gychod drwy ddwyn a gan wenyn gormes a gwenyn gweithgar sy'n drifftio. Gall sborau gael eu trosglwyddo rhwng gwenynfeydd ar gyfarpar wedi'i halogi a thrwy ymyrraeth y gwenynwr. 

Trin: Fel arfer, nid yw Chalkbrood yn glefyd difrifol ymhlith nythfeydd iach cryf. Fodd bynnag, mewn nythfeydd llai o faint a nythfeydd sydd o dan straen (er enghraifft, rhai sy'n cynnwys nifer mawr o widdon Varroa), gall fod yn broblem. Y dull gorau o gadw lefelau Chalkbrood mor isel â phosibl yw cynnal stociau cryf da yr ymddengys y gallant wrthsefyll y ffwng. Gellir cyflwyno breninesau newydd i'r nythfeydd hynny sy'n agored i'r haint. Bydd osgoi safleoedd llaith ar gyfer gwenynfeydd hefyd yn helpu i leihau effaith Chalkbrood mewn nythfeydd. 

 

Baldbrood

Celloedd Baldbrood: mae'r patrwm aflinol ac ymylon uwch y celloedd yn dangos nad yw'r enghraifft hon i'w phriodoli i ddifrod a achoswyd gan wyfynod cwyr.Celloedd Baldbrood: mae'r patrwm aflinol ac ymylon uwch y celloedd yn dangos nad yw'r enghraifft hon i'w phriodoli i ddifrod a achoswyd gan wyfynod cwyr.  

Achos: achos mwyaf cyffredin Baldbrood yw larfâu gwyfynod cwyr (gwyfynod cwyr bach (Achroia grisella) a gwyfynod cwyr mawr (Galleria mellonella) yn turio o dan arwyneb y dil. Mae larfâu'r gwyfynod yn turio o dan gapanau'r mag. Bydd y gwenyn yn rhwygo capanau'r celloedd i lawr er mwyn glanhau'r celloedd gan adael celloedd tyllog heb eu gorchuddio sydd â mag ynddynt ac weithiau mae gan y capanau rhannol hyn ymyl uwch sy'n bargodi o arwyneb y dil. Mae'r cyflwr i'w weld dros sawl cell mewn patrwm llinol. 

Symptomau: fel arfer, mae'r chwileri sy'n datblygu yn cael eu selio yn eu celloedd o dan gapanau cwyr 8-9 diwrnod ar ôl iddynt gael eu dodwy. Efallai y bydd Baldbrood yn ymddangos fel ardaloedd bach o larfâu normal sy'n datblygu â chelloedd heb eu capio neu gelloedd wedi'u capio'n rhannol. Fel arfer, bydd y larfâu heb eu capio hyn yn ymddangos fel gwyfynod llawndwf datblygedig, er y gall fod rhai gwyfynod llawndwf camffurfiedig sydd i'w priodoli i halogyddion a ddyddodwyd ar y larfâu a oedd yn datblygu. Mae difrod a achoswyd gan wyfynod cwyr hefyd yn ymddangos fel llinell wen ymhlith capanau brown golau. 

Trin: bydd nythfeydd cryf o wenyn yn lleihau effeithiau gwyfynod cwyr ac, yn achos y ffurf enetig ar Baldbrood, bydd cyflwyno brenhines newydd i'r nythfa yn datrys y broblem fel arfer.

Mag gwenyn gormes mewn celloedd gwenyn gweithgar 

Achos: gelwir y capanau cromennog sy'n bargodi o'r gell yn fag gwenyn gormes. Maent yn bresennol drwy gydol misoedd yr haf. Fodd bynnag, pan fydd nifer mawr yn bresennol ym mhob rhan o'r cwch, yn enwedig celloedd gwenyn gweithgar, mae hyn yn arwydd y gall rhywbeth fod o'i le. Mae dau reswm pam y gall mag gwenyn gormes fod yn bresennol mewn celloedd gwenyn gweithgar. Yn gyntaf, mae'n bosibl bod gan y nythfa frenhines sy'n edwino a allai gael ei achosi gan y ffaith nad yw wedi paru'n gywir a bod y sberm yn rhedeg allan yn y sbermatheca. 

Yr ail reswm yw pan fydd y nythfa wedi bod heb frenhines am beth amser ac mae'r gwenyn gweithgar benyw yn datblygu ofarïau gweithredol. O ganlyniad, mae'r gwenyn gweithgar yn dechrau dodwy mewn celloedd. Bydd pob un o'r wyau heb eu ffrwythloni ac, felly, byddant yn datblygu'n fag gwenyn gormes. At hynny, efallai y byddwch yn gweld sawl wy mewn celloedd unigol, yn enwedig o amgylch waliau'r celloedd yn ogystal ag ar y gwaelod. 

Trin: breninesau hŷn sy'n datblygu'n wenyn gormes dodwy fel arfer, ond gall breninesau iau nad ydynt yn paru'n llwyddiannus wneud hynny hefyd. Yr opsiwn gorau yn yr achos hwn yw cyflwyno brenhines ifanc epiliog newydd sydd wedi paru'n ddiweddar. 

Yn wahanol i nythfeydd â brenhines edwinol neu ddiffygiol, mae'n anodd cyflwyno brenhines newydd i nythfeydd â gwenyn gweithgar sy'n dodwy. Mewn rhai achosion, gallwch ysgwyd pob un o'r fframiau sy'n cynnwys gwenyn gweithgar sy'n dodwy o flaen y cwch a chyflwyno fframiau o fag sy'n ymddangos â brenhines newydd mewn cawell a bydd y nythfa yn datrys y broblem ei hun. Fodd bynnag, os bydd y sefyllfa wedi mynd yn rhy bell neu os bydd y nythfa yn dirywio am fod nifer y gwenyn gweithgar arferol yn lleihau, efallai na fydd y dull hwn yn ymarferol.