Sut rydym yn defnyddio cwcis

This site uses only cookies strictly necessary to ensure the site works correctly.

Please read about how we use cookies.

Cuddio'r neges hon

Cwcis cwbl angenrheidiol a chwcis nad ydynt yn hanfodol

Drwy glicio ar 'derbyn pob cwci' rydych yn cydsynio i ni ddefnyddio cwcis a'n polisi cwcis.

Rydym yn defnyddio cwcis trydydd parti ar y wefan hon

You have accepted necessary cookies only

Gallwch newid eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd
Cuddio'r neges hon

Plâu Egsotig

Mae'r adran hon yn edrych ar ddau bla egsotig a fyddai'n peri bygythiad sylweddol i nythfeydd gwenyn mêl petaent yn cyrraedd y DU, sef:

  • Chwilen Fach y Cwch Aethina tumida. Rhywogaeth oresgynnol a ddaeth yn wreiddiol o Affrica ac sydd wedi bod yn bla difrifol ar gyfer nythfeydd gwenyn mêl ledled y byd; 
  • gwiddon Tropilaelaps. Mae'r gwiddon hyn wedi lledaenu'n eang iawn yn ystod y blynyddoedd diwethaf o'u cartref naturiol mewn rhannau trofannol ac isdrofannol o Asia ac ystyrir eu bod yn fygythiad difrifol i'r wenynen fêl Orllewinol Apis mellifera.

Cydnabyddir y risg y gallai'r ddau bla egsotig hyn ei pheri i nythfeydd gwenyn mêl yn y Gorchmynion Rheoli Clefydau a Phlâu Gwenyn (gweler ein hadran ar Wenyn a’r Gyfraith) sy'n nodi bod y ddau yn blâu hysbysadwy statudol. Mae hyn yn golygu bod y gyfraith yn ei gwneud yn ofynnol i unrhyw wenynwr neu unigolyn sy'n gyfrifol am gwch sy'n gwybod neu sydd hyd yn oed yn amau fod un o'r ddau bla hyn yn bresennol yn eu cychod neu'n agos atynt hysbysu'r Uned Wenyn Genedlaethol ar unwaith.