Sut rydym yn defnyddio cwcis

This site uses only cookies strictly necessary to ensure the site works correctly.

Please read about how we use cookies.

Cuddio'r neges hon

Cwcis cwbl angenrheidiol a chwcis nad ydynt yn hanfodol

Drwy glicio ar 'derbyn pob cwci' rydych yn cydsynio i ni ddefnyddio cwcis a'n polisi cwcis.

Rydym yn defnyddio cwcis trydydd parti ar y wefan hon

You have accepted necessary cookies only

Gallwch newid eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd
Cuddio'r neges hon

Meddyginiaethau

Dolenni Cyflym

Y Gyfarwyddiaeth Meddyginiaethau Milfeddygol (VMD)

Mae'r Gyfarwyddiaeth Meddyginiaethau Milfeddygol (VMD) yn un o asiantaethau gweithredol Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig (Defra). Mae'n hyrwyddo iechyd a lles anifeiliaid drwy sicrhau ansawdd, diogelwch ac effeithiolrwydd meddyginiaethau milfeddygol ac mae'n gyfrifol am y canlynol:

  • Monitro adroddiadau am effeithiau andwyol meddyginiaethau milfeddygol a gweithredu arnynt neu lle y ceir achosion o ddiffyg effeithiolrwydd a amheuir;
  • Profi anifeiliaid a chynhyrchion anifeiliaid (gan gynnwys mêl) i weld a ydynt yn cynnwys gweddillion meddyginiaethau milfeddygol neu sylweddau anghyfreithlon;
  • Asesu ceisiadau i werthu meddyginiaethau milfeddygol yn y DU ac awdurdodi cwmnïau i wneud hynny;
  • Rheoli'r ffordd y caiff meddyginiaethau milfeddygol eu gwneud a'u dosbarthu;
  • Rhoi cyngor i Weinidogion y Llywodraeth ar ddatblygu polisi meddyginiaethau milfeddygol a'i roi ar waith;
  • Llunio, diweddaru a gorfodi deddfwriaeth y DU ynglŷn â meddyginiaethau milfeddygol.

Ceir rhagor o wybodaeth am waith y Gyfarwyddiaeth Meddyginiaethau Milfeddygol ar ei gwefan

Meddyginiaethau milfeddygol a gwenyn

Y Gyfarwyddiaeth Meddyginiaethau Milfeddygol sy'n gyfrifol am awdurdodi'r holl feddyginiaethau milfeddygol yn y DU a rheoleiddio'r farchnad ar eu cyfer. Mae'r cynhyrchion meddyginiaethol hyn yn ddiogel, pan gânt eu defnyddio yn unol â'r amodau awdurdodedig ynglŷn â'u defnyddio (eu hawdurdodiad marchnata). Fodd bynnag, mae'n bwysig bod cyfarwyddiadau'r gwneuthurwr yn cael eu dilyn er mwyn sicrhau na fydd cynnyrch yn cael unrhyw effeithiau andwyol ar y nythfa, y gwenynwr na diogelwch bwyd. Mae pob cynnyrch awdurdodedig wedi bod yn destun asesiad gwyddonol trylwyr o ddata er mwyn dangos ei fod yn cyrraedd lefelau statudol o ansawdd, effeithiolrwydd a diogelwch i'r sawl sy'n ei ddefnyddio, gwenyn, defnyddwyr cynhyrchion gwenyn a'r amgylchedd.

Ceir rhestr o gynhyrchion sydd wedi'u hawdurdodi ar hyn o bryd i'w defnyddio mewn gwenyn ar Gronfa Ddata Gwybodaeth am Gynhyrchion y Gyfarwyddiaeth Meddyginiaethau Milfeddygol. Er mwyn dod o hyd i feddyginiaethau milfeddygol sy'n ymwneud â gwenyn, hidlwch ‘Bees’ yn yr adran ‘Species’ a chliciwch ar 'Run Search' ar waelod y dudalen. Bydd gan bob cynnyrch awdurdodedig ddolen i'w Grynodeb o Nodweddion Cynnyrch, sy'n nodi'n glir yr amodau awdurdodedig ynglŷn â'i ddefnyddio.

Some varroacide strips have been added between the frames of a hive to treat for varroa

Rhoi gwybod am sgil-effeithiau ac achosion o fethiant cynnyrch ar gyfer meddyginiaethau gwenyn

Mae'n hanfodol rhoi gwybod am unrhyw ddigwyddiadau andwyol sy'n cynnwys cynhyrchion awdurdodedig a ddefnyddir mewn gwenyn, gan gynnwys methiant cynnyrch (h.y., diffyg effeithiolrwydd). Mae hyn yn galluogi'r Gyfarwyddiaeth Meddyginiaethau Milfeddygol i sicrhau bod meddyginiaethau ar y farchnad mor ddiogel ac effeithiol â phosibl. Gallwch roi gwybod am unrhyw broblemau gyda meddyginiaethau milfeddygol, boed hynny mewn anifeiliaid neu bobl, yn uniongyrchol i'r Gyfarwyddiaeth Meddyginiaethau Milfeddygol ar-lein.

Rheoliadau Meddyginiaethau Milfeddygol (2013) a meddyginiaethau anawdurdodedig

Mae Rheoliadau Meddyginiaethau Milfeddygol 2013 yn nodi'r gofynion cyfreithiol ar gyfer gweithgynhyrchu, awdurdodi, marchnata, dosbarthu meddyginiaethau milfeddygol a gwyliadwriaeth ar ôl iddynt gael eu hawdurdodi. Mae gwenyn mêl wedi'u dosbarthu'n anifail sy'n cynhyrchu bwyd ac, felly, mae'n hollbwysig bod gwenynwyr yn cydymffurfio â'r rheoliadau hyn.

Yn bwysig ddigon, mae'r Gyfarwyddiaeth Meddyginiaethau Milfeddygol yn nodi, heb bresgripsiwn milfeddygol, ei bod yn drosedd defnyddio meddyginiaeth filfeddygol awdurdodedig mewn modd nad yw'n gwbl unol â'i hawdurdodiad marchnata. Hefyd, heb bresgripsiwn milfeddygol, mae'n drosedd rhoi cynhyrchion anawdurdodedig (e.e., crisialau asid ocsalig "heb eu trin" generig, hydoddiannau thymol a wnaed gennych chi eich hun) i wenyn, at ddibenion trin neu atal clefydau (e.e., varroosis).  Noder: nid yw rhai cynhyrchion sydd ar gael ar wefannau gwenyna yn gynhyrchion meddyginiaethol milfeddygol awdurdodedig ac, er eu bod ar gael, ni ddylid eu rhoi i nythfa, oni chânt eu rhagnodi gan filfeddyg.

Fodd bynnag, pan fo cyfiawnhad clinigol dros hynny, caiff milfeddygon ragnodi meddyginiaethau milfeddygol i'w defnyddio mewn gwenyn mewn modd anawdurdodedig, neu ragnodi meddyginiaethau anawdurdodedig i'w defnyddio mewn gwenyn. Er mwyn trin neu atal clefydau mewn gwenyn, mae'r 'rhaeadr' filfeddygol yn caniatáu i filfeddygon ragnodi meddyginiaethau i drin gwenyn sydd wedi'u hawdurdodi i drin rhywogaeth wahanol a/neu gyflwr gwahanol. Fel hyn, o dan y gyfraith, dim ond milfeddygon a gaiff awdurdodi'r defnydd "oddi ar y label", fel y'i gelwir, o feddyginiaethau i drin gwenyn.  Ceir rhagor o wybodaeth ar-lein.

Gall milfeddygon wneud cais i'r Gyfarwyddiaeth Meddyginiaethau Milfeddygol, drwy Dystysgrif Fewnforio Arbennig, i fewnforio meddyginiaeth filfeddygol sydd wedi'i hawdurdodi mewn gwlad arall i drin neu atal clefyd mewn gwenyn, ond nad yw wedi'i hawdurdodi i'w defnyddio felly a/neu nad yw ar gael yn y DU. Y milfeddyg sy'n eu mewnforio sy'n gyfrifol am roi meddyginiaethau milfeddygol a fewnforir yn unol â Thystysgrif Fewnforio Arbennig.  Ceir rhagor o wybodaeth ar-lein.

Cerdyn cofnodi meddyginiaethau

Mae'r Gyfarwyddiaeth Meddyginiaethau Milfeddygol hefyd yn egluro, am fod gwenyn yn cael eu hystyried yn anifeiliaid sy'n cynhyrchu bwyd, fod yn rhaid i wenynwyr gadw dogfennaeth sy'n cynnwys manylion cynhyrchion meddyginiaethol milfeddygol a roddwyd i nythfeydd am o leiaf bum mlynedd, p'un a yw'r nythfa dan sylw yn dal i fod ym meddiant y gwenynwr hwnnw ai peidio neu p'un a yw wedi marw yn ystod y cyfnod hwnnw ai peidio.

Pan gaiff cynnyrch meddyginiaethol milfeddygol ei brynu neu ei gaffael, rhaid i wenynwyr gofnodi, ar yr adeg honno, y canlynol:

  1. Enw'r cynnyrch a rhif y swp;
  2. Y dyddiad caffael;
  3. Y swm a gaffaelwyd;
  4. Enw a chyfeiriad y cyflenwr.

Ar adeg rhoi'r feddyginiaeth, rhaid i wenynwyr gofnodi'r canlynol:

  1. Enw'r cynnyrch;
  2. Y dyddiad y'i rhoddwyd;
  3. Faint o'r cynnych a roddwyd;
  4. Y cyfnod tynnu'n ôl;
  5. Rhif adnabod yr anifeiliaid a driniwyd.

Rhaid i wenynwr sy'n gwaredu rhywfaint o gynnyrch meddyginiaethol milfeddygol neu'r cynnyrch meddyginiaethol milfeddygol cyfan ac eithrio drwy drin nythfa, gofnodi'r canlynol:

  1. Y dyddiad gwaredu;
  2. Faint o'r cynnych a waredwyd;
  3. Sut a ble y caiff ei waredu.

Er mwyn gwneud hyn, dylech ddefnyddio Cofnod o Roi Meddyginiaethau Milfeddydol.