Sut rydym yn defnyddio cwcis

This site uses only cookies strictly necessary to ensure the site works correctly.

Please read about how we use cookies.

Cuddio'r neges hon

Cwcis cwbl angenrheidiol a chwcis nad ydynt yn hanfodol

Drwy glicio ar 'derbyn pob cwci' rydych yn cydsynio i ni ddefnyddio cwcis a'n polisi cwcis.

Rydym yn defnyddio cwcis trydydd parti ar y wefan hon

You have accepted necessary cookies only

Gallwch newid eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd
Cuddio'r neges hon

Rhoi Gwybod am Varroa

Mae Gorchymyn Rheoli Clefydau a Phlâu Gwenyn (Lloegr) (Diwygio) 2021, Gorchymyn Rheoli Clefydau a Phlâu Gwenyn (Cymru) (Diwygio) 2021 a Gorchymyn Rheoli Clefydau a Phlâu Gwenyn (yr Alban) (Diwygio) 2021 yn gwneud Varroa yn bla cofnodadwy yn effeithiol o 21 Ebrill 2021. Mae rhagor o wybodaeth ar gael yn: 

Rwyf wedi fy nghofrestru ar BeeBase 

Os ydych yn Wenynwr cofrestredig ar BeeBase mewngofnodwch yma a rhowch wybod am bresenoldeb Varroa drwy olygu statws eich gwenynfa. 

Os gwnaethoch gofrestru cyn mis Ebrill 2021, rhagosodwyd bod Varroa yn bresennol yn eich gwenynfa. 

NID wyf wedi fy nghofrestru ar BeeBase 

Os ydych yn Wenynwr anghofrestredig, gallwch gofrestru yma neu gwblhau'r ffurflen isod er mwyn rhoi gwybod am bresenoldeb Varroa. 

Gwenynwyr yn yr Alban: Rydym yn eich annog i gofrestru ar gyfer BeeBase ond os byddai'n well gennych beidio â gwneud hynny a'ch bod am roi gwybod am bresenoldeb Varroa, gwnewch hynny drwy anfon neges e-bost i Dîm Iechyd Gwenyn yr Alban yn Bees_Mailbox@gov.scot 

Pa mor aml y mae angen i mi roi gwybod am Varroa? 

Unwaith y byddwch wedi rhoi gwybod i ni am bresenoldeb Varroa yn eich cychod, dim ond os bydd angen i chi newid statws eich gwenynfa i un sy'n rhydd o Varroa y bydd angen i chi gysylltu â ni eto. 

Gallwch roi gwybod am statws eich gwenynfa/wenynfeydd gan ddefnyddio'r ffurflen isod:

A yw Varroa yn bresennol yn eich gwenynfa? *
Gallwch ddiweddaru'r gwerth hwn a bydd y marciwr ar y map yn symud yn awtomatig i'r lleoliad newydd.
Defnyddir y neges e-bost hon i gadarnhau bod eich cyflwyniad wedi'i dderbyn ac na chaiff ei storio yn ein cronfa ddata.