Mae'r tudalennau hyn yn rhoi manylion plâu a chlefydau gwenyn mêl y mae'n rhaid i bob gwenynwr fod yn ymwybodol ohonynt er mwyn cynnal stociau cynhyrchiol o wenyn. Maent yn rhoi manylion bioleg ac effaith amrywiaeth o blâu a heintiau a'r opsiynau ar gyfer eu rheoli a, lle y bo ar gael, wybodaeth am achosion presennol.
Achosion Presennol o Glefydau
Mae'r dudalen Achosion o Glefydau ac Adroddiadau yn rhoi gwybodaeth fyw am leoliad achosion a gadarnhawyd o Glefyd Ewropeaidd y Gwenyn, Clefyd Americanaidd y Gwenyn a Varroa yng Nghymru a Lloegr. Mae hefyd yn darparu gwybodaeth am wenyn sy'n cael eu mewnforio o Aelod-wladwriaethau'r UE a Thrydydd Gwledydd (Awstralia, Seland Newydd a'r Ariannin). Caiff data o'r rhaglen archwilio eu diweddaru bob dydd yn ystod y tymor gwenyna. Mae'r wybodaeth hon yn bwysig er mwyn i wenynwyr allu parhau i fod yn wyliadwrus pan fyddant yn gwybod ble mae gwenynfeydd heintiedig wedi'u lleoli (sail o 10km sgwâr). Mae'r tudalennau hyn hefyd yn rhoi manylion am y gwaith sy'n cael ei wneud i gadw golwg ar fygythiadau egsotig a thueddiadau diweddar o ran clefydau.
Cedwir manylion pobl archwiliad o wenynfa a diagnosis yn y labordy a gyflawnir gan yr Uned Wenyn Genedlaethol ar dudalennu diogel BeeBase. Mae hyn yn golygu bod modd cynhyrchu gwybodaeth gywir a chyfredol am ddosbarthiad data clefydau gwenyn hysbysadwy. Caiff y wybodaeth hon ei chynhyrchu gan gyfeirio at y System Grid Ordnans 10km, y ceir manylion amdani mewn unrhyw Atlas neu ar unrhyw un o fapiau'r Arolwg Ordnans.
Mae'r Oriel Cyfryngau hefyd yn cynnwys llawer o luniau defnyddiol a ddylai eich helpu i adnabod plâu a chlefydau yn eu gwenyn.