Mae Vespa velutina, sef y gacynen felyngoes, a elwir fel arfer yn gacynen Asiaidd, yn frodorol i Asia a chadarnhawyd ei bod yn bresennol yn Ewrop am y tro cyntaf yn Lot-et-Garonne yn Ne-orllewin Ffrainc yn 2004. Credid iddi gael ei mewnforio mewn llwyth o grochenwaith o Tsieina ac ymsefydlodd yn gyflym gan ledaenu i lawer o ardaloedd yn Ffrainc. Ers mis Rhagfyr 2022, mae Cacwn Asia wedi ymsefydlu yn Sbaen, Gwlad Belg, Yr Iseldiroedd, Portiwgal, Yr Eidal, Y Swistir, Yr Almaen a Jersey. Mae'r gacynen yn ysglyfaethu gwenyn mêl, Apis millifera ac yn tarfu ar y rôl ecolegol y mae'n ei chyflawni ac yn amharu ar weithgareddau gwenyna masnachol. Mae hefyd wedi newid y fioamrywiaeth mewn rhannau o Ffrainc lle y'i ceir a gall beri risg i iechyd unigolion sydd ag alergedd i bigiadau cacwn neu bicwn.
Yn 2016, canfuwyd y gacynen Asiaidd yn y DU am y tro cyntaf, yn Tetbury. Ar ôl 10 diwrnod o chwilio dwys, canfuwyd y nyth ac fe'i dinistriwyd yn ddiweddarach. Yn dilyn hynny, mae rhagor wedi'u gweld a chymerwyd camau gweithredu i ganfod a dinistrio nythod. Ers mis Ionawr 2023, mae dadansoddiad genetig wedi dangos nad oes tystiolaeth o boblogaeth sefydledig o gacwn Asia yn y DU ac mae'n debygol bod yr holl gacwn a ganfuwyd yn dod o'r boblogaeth Ewropeaidd yn hytrach nag o ymlediad newydd o Asia.
Cyflwyniadau gan Fera Science Ltd
Cyflwyniad yn Saesneg ar Asian Hornet Biology gan Kirsty Stainton o Fera Science Ltd.
Golwg a bioleg y gacynen Asiaidd
Mae'r gacynen Asiaidd yn llai na'n cacynen frodorol, gyda'r cacwn gweithgar llawndwf yn mesur tua 25mm o hyd a'r breninesau'n mesur 30mm. Du yw ei habdomen yn bennaf, ar wahân i'w phedwerydd segment abdomenol sy'n gylch melyn tua'r cefn. Mae ei choesau melyn yn nodweddiadol ohoni a dyna pam y caiff ei galw'n gacynen felyngoes. Mae ei hwyneb yn oren gyda dau lygad cyfansawdd browngoch.
Gwanwyn
Ar ôl gaeafgysgu, yn y gwanwyn bydd y frenhines, sy'n mesur hyd at 3cm fel arfer, yn ymddangos ac yn chwilio am ffynhonnell briodol o fwyd siwgrog er mwyn magu'r nerth i allu dechrau adeiladu nyth cychwynnol bach. Yn ystod y broses o adeiladu'r nyth, bydd ar ei phen ei hun ac yn agored i niwed ond bydd yn dechrau dodwy wyau yn gyflym er mwyn cynhyrchu gweithlu'r dyfodol. Wrth i'r nythfa a'r nyth dyfu, caiff nyth mwy o faint ei sefydlu o amgylch y nyth gychwynnol neu byddant yn adleoli ac yn ei greu yn rhywle arall.
Haf
Yn ystod yr haf, mae un nythfa yn cynhyrchu 6,000 o unigolion, ar gyfartaledd, mewn un tymor. O fis Gorffennaf ymlaen, bydd ysglyfaethu gwenyn mêl gan gacwn Asiaidd yn dechrau ac yn cynyddu tan ddiwedd mis Tachwedd a gellir gweld cacwn yn hofran y tu allan i fynedfa cwch, gan aros am wenyn fforio sy'n dychwelyd. Ymddygiad “ysglyfaethu” nodweddiadol yw hwn. Pan fyddant yn dal gwenynen sy'n dychwelyd, byddant yn mynd â hi i ffwrdd ac yn bwyta'r thoracs sy'n llawn protein; mae angen proteinau anifeiliaid ar y mag, a gaiff eu trawsnewid yn beledi o gnawd ac yna eu cynnig i'r larfâu.
Hydref
Yn ystod yr hydref, mae blaenoriaethau'r nyth yn newid o fforio ac ehangu'r nyth i gynhyrchu 350 o ddarpar freninesau, ar gyfartaledd, a chacwn gwryw ar gyfer paru. Fodd bynnag, o'r darpar freninesau hyn, dim ond nifer bach fydd yn paru'n llwyddiannus ac yn goroesi'r gaeaf. Ar ôl y cyfnod paru, bydd y breninesau newydd eu ffrwythloni yn gadael y nyth ac yn dod o hyd i rywle addas i aeafu, tra bydd yr hen frenhines yn marw, gan adael y nyth i edwino a marw. Y gwanwyn canlynol, bydd y frenhines sefydlu yn dechrau adeiladu ei nythfa newydd a bydd y broses yn ailddechrau.
Yn sgil canfod cacwn Asiaidd yn y DU ym mis Medi 2016, mae'n hollbwysig eich bod yn gwneud yn siŵr eich bod yn gwybod sut i'w hadnabod a gwahaniaethu rhyngddynt a'n cacynen frodorol, Vespa crabro. Mae taflen a phoster defnyddiol iawn ar gael i'ch helpu i adnabod cacwn Asiaidd:
Monitro am gacwn Asiaidd
Rydym yn annog pobl ledled y DU yn gryf i gadw golwg am unrhyw gacwn Asiaidd sy'n cyrraedd y wlad, yn enwedig mewn ardaloedd yr ystyrir bod cacwn Asiaidd yn fwyaf tebygol o'u cyrraedd (sef De a De-ddwyrain Lloegr). Os hoffech gadw golwg am unrhyw gacwn Asiaidd sy'n cyrraedd y wlad, ceir rhai awgrymiadau a chyngor defnyddiol ar sut i wneud eich trap eich hun ar ein tudalen ffeithlen.
I bwy y dylech roi gwybod os byddwch wedi gweld Cacwn Asiaidd
Os credwch eich bod wedi gweld cacynen Asiaidd, rhowch wybod i Ysgrifenyddiaeth Rhywogaethau Estron Prydain Fawr (NNSS) ar unwaith. Yn y lle cyntaf, dylid rhoi gwybod am gacwn Asia sydd wedi cael eu gweld drwy'r ap 'Asian Hornet Watch' y gellir ei lawrlwytho am ddim i ffonau Android ac iPhone.
Mae dulliau eraill o roi gwybod am bresenoldeb cacwn yn cynnwys ffurflen hysbysu ar-lein yr NNSS. Yn olaf, gallwch roi gwybod am unrhyw gacwn Asiaidd rydych yn amau eich bod wedi'u gweld drwy anfon neges e-bost i alertnonnative@ceh.ac.uk. Lle y bo'n bosibl, dylid cynnwys llun a disgrifiad o'r pryfyn a nodi ble y gwnaethoch ei weld.
Os hoffech wybod mwy am y gacynen Asiaidd neu unrhyw Rywogaeth Oresgynnol arall, mae gwefan yr NNSS yn darparu cryn dipyn o wybodaeth am y gwaith amrywiol iawn sy'n cael ei wneud i fynd i'r afael â rhywogaethau goresgynnol ac adnoddau er mwyn helpu'r rhai sy'n gweithio yn y maes hwn.
Mae hefyd yn bwysig bod gwenynwyr yn cofrestru ar gyfer BeeBase. Os bydd y gacynen Asiaidd (neu unrhyw fygythiad egsotig arall i nythfeydd gwenyn mêl) yn cyrraedd y DU, bydd ymdrechion i'w hatal rhag lledaenu yn cael eu tanseilio cryn dipyn os na fyddwn yn gwybod ble mae gwenynfeydd sy'n agored i niwed wedi'u lleoli.
Dolenni defnyddiol
Peidiwch â chymysgu'r gacynen Asiaidd, Vespa velutina a'r gacynen Asiaidd Fawr (Vespa mandarinia), y cyfeirir ati weithiau fel 'cacynen Japan'.
Blog Gwyddoniaeth APHA (Saesneg yn unig) – Safeguarding with Science: Responding to an Asian hornet Outbreak
Rhagor o Wybodaeth
- Asian Hornet Awareness and Identification for Pest Controllers (Saesneg yn unig)
- Gellir gweld manylion am Vespa crabro, sef y gacynen a geir gan amlaf yn y DU, ar y daflen daflen wybodaeth am Vespa crabro
- Er mwyn helpu i wahaniaethu rhwng y nifer mawr o rywogaethau o Vespa, mae Amgueddfa Astudiaethau Natur Genedlaethol Ffrainc wedi llunio'r Daflen Wybodaeth hon ar gyfer Adnabod Rhywogaethau;
- Os bydd y gacynen Asiaidd yn cyrraedd Prydain Fawr, mae Cynllun wrth Gefn ar gyfer delio â hi wedi'i lunio.
- Er mwyn cael y wybodaeth ddiweddaraf am yr achosion presennol o gacwn Asiaidd, ewch i dudalen newyddion treigl Gov.uk.