Sut rydym yn defnyddio cwcis

This site uses only cookies strictly necessary to ensure the site works correctly.

Please read about how we use cookies.

Cuddio'r neges hon

Cwcis cwbl angenrheidiol a chwcis nad ydynt yn hanfodol

Drwy glicio ar 'derbyn pob cwci' rydych yn cydsynio i ni ddefnyddio cwcis a'n polisi cwcis.

Rydym yn defnyddio cwcis trydydd parti ar y wefan hon

You have accepted necessary cookies only

Gallwch newid eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd
Cuddio'r neges hon

Rôl Timau Cacwn Asiaidd (AHTs)

Mae Cymdeithas Gwenynwyr Prydain a'r cymdeithasau sy'n aelodau ohoni wedi sefydlu cynllun Timau Cacwn Asiaidd er mwyn gweithio mewn partneriaeth â'r UWG i fynd i'r afael â Chacwn Asiaidd. Ceir manylion y cynllun hwn ar wefan Cymdeithas Gwenynwyr Prydain ar y dudalen sy'n dangos y map o dimau Cacwn Asiaidd. 

 Mae pum maes y dylai gwenynwyr ganolbwyntio eu hymdrechion arnynt er mwyn gwella effeithlonrwydd yr ymateb i Gacwn Asiaidd. Rhoddir manylion y meysydd hyn isod: 

 

1. Codi ymwybyddiaeth ymhlith y Cyhoedd a Gwenynwyr

Dylai pob gwenynwr fod yn ymwybodol o beth yw'r Gacynen Asiaidd a sut i'w hadnabod. Er mwyn sicrhau hyn, mae'r Ysgrifenyddiaeth Rhywogaethau Anfrodorol wedi llunio taflen Adnabod sy'n cynnwys nodweddion allweddol Cacwn Asiaidd a phryfed eraill a gaiff eu camgymryd yn aml am Gacwn Asiaidd. Mae poster A4 un ochr hefyd sydd wedi'i dargedu at y cyhoedd er mwyn codi ymwybyddiaeth mewn mannau lle ceir risg megis porthladdoedd, iardiau coed ac ardaloedd lle y canfuwyd nythod cacwn Asiaidd yn flaenorol. 

Gellir lawrlwytho'r Daflen Adnabod a'r Poster o'r dudalen 'Cacwn Asiaidd' ar BeeBase neu gellir archebu copïau A4 ffisegol gan Swyddfa'r UWG gan ddefnyddio'r cyfeiriad e-bost ar gyfer Ymholiadau Cyffredinol ar ein tudalen 'Manylion Cyswllt'.  

Dylai pob gwenynwr fonitro am Gacwn Asiaidd yn eu gwenynfeydd drwy gadw golwg am gacwn sy'n bwyta neithdar neu'n ysglyfaethu pryfed eraill ar blanhigion sy'n blodeuo. At hynny, dylent fonitro mynedfeydd cychod am ymddygiad ysglyfaethu.  

 Yn ystod misoedd y gaeaf, efallai y daw nythod mewn coed collddail yn weladwy a dylid rhoi gwybod am unrhyw nyth Cacwn Asiaidd a amheuir (gyda llun) gan ddefnyddio app Asian Hornet Watch ar gyfer Android drwy Google Play ac ar gyfer IOS drwy Apple ITunes, y Ffurflen Hysbysu Ar-lein neu gyfeiriad e-bost yr Ysgrifenyddiaeth Rhywogaethau Anfrodorol, sef alertnonnative@ceh.ac.uk. 

Dylai cymdeithasau hefyd annog eu haelodau i gofrestru ar gyfer BeeBase a sicrhau bod eu manylion cyswllt a manylion eu gwenynfeydd yn gyfredol. 

2. Monitro a Dal

Ar ddiwedd yr haf, dylai pob gwenynwr gadw golwg am Gacwn Asiaidd yn eu gwenynfeydd drwy gadw golwg am gacwn sy'n ysglyfaethu yn nhu blaen cychod neu'n bwyta neithdar neu bryfed eraill ar blanhigion sy'n blodeuo gerllaw.  

Gellir defnyddio trapiau monitro yn y gwanwyn neu ar ddiwedd yr haf. Mae ffeithlen ar sut i wneud trap monitro Cacwn Asiaidd ar gael yn yr adran 'Monitro am Gacwn Asiaidd' ar brif dudalen BeeBase sy'n ymdrin â Chacwn Asiaidd. 

Os bydd gwenynwyr yn hongian trapiau yn eu gwenynfeydd , dylid eu hannog i ddefnyddio'r nodwedd cofnodi trapiau Cacwn Asiaidd ar BeeBase. Ceir gwybodaeth am sut i'w ddefnyddio ar dudalen 9 o'r Cwestiwn Cyffredin Ticio Blychau am Drapiau Cacwn Asiaidd.

3. Gwaith Dilynol ar ôl Cael Adroddiadau am Gacwn Asiaidd 

Ceir llawer o adroddiadau am Gacwn Asiaidd nad ydynt yn cynnwys llun na disgrifiad cywir i gyfiawnhau gwaith dilynol gan Arolygydd Gwenyn. Fodd bynnag, anfonir neges e-bost at y sawl sy'n credu eu bod wedi gweld Cacwn Asiaidd sy'n cynnwys canllawiau ar sut i gael sbesimen a thynnu llun. 

Mae Cymdeithas Gwenynwyr Prydain wedi llunio map o Dimau Cacwn Asiaidd (gweler y ddolen uchod) sy'n galluogi aelodau o'r cyhoedd i ddod o hyd i ganghennau gwenyna lleol gyda chydgysylltwyr Timau Cacwn Asiaidd a all helpu gyda'u hachos o weld Cacwn Asiaidd. 

Gall cymdeithasau/Timau Cacwn Asiaidd helpu drwy sicrhau bod eu rhifau cysywllt yn gyfredol ar wefan Cymdeithas Gwenynwyr Prydain. Gall Timau Cacwn Asiaidd hefyd gwneud gwaith dilynol ar adroddiadau am gacwn gwenyn gan aelodau o'r cyhoedd a'u helpu i adnabod Cacwn Asiaidd a chael sbesimen a thynnu llun ohono. Fel y nodwyd yn adran 1 uchod, dylid anfon lluniau drwy ap Asiant Hornet Watch neu drwy anfon neges e-bost i'r Ysgrifenyddiaeth Rhywogaethau Anfrodorol, gyda samplau ffisegol yn cael eu hanfon i'r UWG gan ddefnyddio'r cyfarwyddiadau ar waelod y dudalen 'Rydych yn credu eich bod wedi gweld Cacynen Asiaidd, felly?' ar wefan BeeBase. 

Bydd cymorth Timau Cacwn Asiaidd yn gwella ansawdd adroddiadau credadwy am gacwn Asiaidd ac, o ganlyniad, bydd yn gwella'r broses flaenoriaethu ac yn galluogi'r UWG i ganolbwyntio ar chwilio am nythod a'u difa. 

4. Yn ystod Ymateb Brys i Gacwn Asiaidd

Pan gaiff ymateb brys ei ysgogi, anfonir rhybuddion o BeeBase drwy'r ffrwd Newyddion ac anfonir negeseuon e-bost rhybuddio i'r sir berthnasol er mwyn godi ymwybyddiaeth a chysylltir â'r gymdeithas leol (cymdeithasau lleol). 

Gall Timau Cacwn Asiaidd gefnogi'r UWG mewn sawl ffordd:  

  • Drwy fonitro a gosod trapiau yn eu gwenynfeydd eu hunain; 
  • Drwy helpu gwenynwyr eraill (sy'n gofyn am gymorth) i fonitro eu gwenynfeydd a gosod trapiau; 
  • Drwy gofnodi'r defnydd a wneir o drapiau mewn gwenynfeydd ar BeeBase fel y disgrifiwyd uchod; 
  • Monitro planhigion fforio lleol er mwyn cadw golwg am weithgarwch Cacwn Asiaidd; 
  • Drwy roi gwybod am bob achos o weld Cacwn Asiaidd fel y disgrifiwyd uchod. 

5. Ymateb wedi Argyfwng 

Ar ôl i nyth Cacwn Asiaidd gael ei difa, mae gwyliadwriaeth yr UWG yn parhau yn yr ardal er mwyn nodi a oes unrhyw nythod eraill yn bresennol. Mae'r wyliadwriaeth hon ar ffurf ymweliadau â gwenynfeydd a safleoedd fforio a monitro trapiau. Gall gwyliadwriaeth gael ei hategu gan Dimau Cacwn Asiaidd drwy fonitro trapiau yn eu gwenynfeydd yn barhaus a chofnodi'r gweithgarwch hwn ar BeeBase drwy olygu cofnod y wenynfa, fel y disgrifir ar dudalen 9 o'r Cwestiwn Cyffredin Ticio Blychau am Drapiau Cacwn Asiaidd (gweler y ddolen isod).