Yr Uned Wenyn Genedlaethol sy'n gyfrifol am reoli'r clefydau mag hysbysadwy Clefyd Americanaidd y Gwenyn a Chlefyd Ewropeaidd y Gwenyn. Er gwaethaf eu henwau, mae'r clefydau i'w cael yn y DU a gall y ddau ohonynt arwain at farwolaeth nythfeydd wedi'u heintio. Mae Clefyd Americanaidd y Gwenyn a Chlefyd Ewropeaidd y Gwenyn yn glefydau hysbysadwy ac, felly, o dan Orchymyn Rheoli Clefydau a Phlâu Gwenyn 2006 (fel y'i diwygiwyd) mae'n ofynnol i wenynwyr roi gwybod am unrhyw nythfeydd yr amheuir eu bod wedi'u heintio â chlefyd y gwenyn.
Achosir Clefyd Americanaidd y Gwenyn gan facteriwm sy'n ffurfio sborau a elwir yn Paenibacillus larvae. Y sborau hyn yw cam heintus y clefyd ac mae'r broses heintio yn dechrau pan gaiff bwyd sydd wedi'i halogi â sborau ei roi i larfâu gan y gwenyn gofal. Unwaith y byddant ym mherfedd y larfa bydd y sborau yn egino a bydd bacteria yn symud i mewn i'r meinweoedd larfaol, lle y byddant yn lluosogi'n sylweddol. Fel arfer, bydd larfâu wedi'u heintio yn marw ar ôl i'r gell gael ei selio a bydd miliynau o sborau heintus yn ffurfio yn y gweddillion larfaol. Bydd sborau larfa P. yn parhau'n hyfyw am flynyddoedd lawer a gallant wrthsefyll oerfel a gwres eithafol a llawer o ddiheintyddion yn dda.
Achosir Clefyd Ewropeaidd y Gwenyn gan y bacteriwm Melissococcus plutonius. Mae larfâu yn cael eu heintio drwy fwyta bwyd wedi'i halogi a roddir iddynt gan y gwenyn gofal. Mae'r bacteria yn lluosogi ym mherfedd y larfa, gan gystadlu ag ef am fwyd. Maent yn aros yn y perfedd ac nid ydynt yn mynd i mewn i feinwe larfaol; mae larfâu sy'n marw o achos y clefyd yn gwneud hynny am nad ydynt wedi cael digon o fwyd. Fel arfer, bydd hyn yn digwydd cyn i'r gell gael ei selio.
Os byddwch yn amau bod eich nythfeydd wedi'u heintio â chlefyd y gwenyn, rhaid i chi gysylltu â ni neu'ch Arolygydd lleol.
Rhagor o Wybodaeth
- Cyflwyniad ar Glefyd Ewropeaidd y Gwenyn a luniwyd gan Fera Science Ltd ac a gyflwynir gan Kirsty Stainton
- Ceir rhagor o fanylion am y clefydau hyn yn y daflen gynghorol Foulbrood Disease of Honey Bees and other common brood disorders (yn Saesneg yn unig) a gyhoeddir gan yr Uned Wenyn Genedlaethol.
- Ceir rhagor o wybodaeth ar wefan Sefydliad Iechyd Anifeiliaid y Byd (OIE) yn y penodau ar gyfer Clefyd Americanaidd y Gwenyn a Chlefyd Ewropeaidd y Gwenyn ;
- I gael rhagor o wybodaeth am lanhau eich cychod a chyfarpar arall, gweler ffeithlen yr Uned Wenyn Genedlaethol ar Lanhau a Sterileiddio Cychod Gwenyn;
- Ceir gwybodaeth am y rhaglen archwilio statudol ar y tudalennau Archwiliadau Statudol o Wenynfeydd.
- Taflenni cynghorol a Chanllawiau Arferion Gorau yr Uned Wenyn Genedlaethol