Sut rydym yn defnyddio cwcis

This site uses only cookies strictly necessary to ensure the site works correctly.

Please read about how we use cookies.

Cuddio'r neges hon

Cwcis cwbl angenrheidiol a chwcis nad ydynt yn hanfodol

Drwy glicio ar 'derbyn pob cwci' rydych yn cydsynio i ni ddefnyddio cwcis a'n polisi cwcis.

Rydym yn defnyddio cwcis trydydd parti ar y wefan hon

You have accepted necessary cookies only

Gallwch newid eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd
Cuddio'r neges hon

Sut i adnabod Clefyd Americanaidd y Gwenyn

Ydych chi'n amau y gallai eich gwenyn fod wedi cael eu heintio â Chlefyd Americanaidd y Gwenyn (AFB)? Ydych chi'n gwybod sut i adnabod arwyddion Clefyd Gwenyn ac ydych chi'n gallu gwahaniaethu rhwng Clefyd Americanaidd y Gwenyn a Chlefyd Ewropeaidd y Gwenyn? Mae Clefyd Americanaidd y Gwenyn yn haint difrifol a hysbysadwy, y mae'n rhaid i chi roi gwybod i'r Uned Wenyn Genedlaethol amdano.

Mae rhai rhannau o wefan BeeBase a allai eich helpu i adnabod symptomau allweddol Clefyd Americanaidd y Gwenyn yn cynnwys:

  • Clefyd Americanaidd y Gwenyn: crynodeb o nodweddion Clefyd Americanaidd y Gwenyn, sy'n ymdrin â beth sy'n digwydd os caiff eich gwenyn ddiagnosis o Glefyd Americanaidd y Gwenyn.
  • Mapiau o achosion o glefydau: mae gwybodaeth fyw ar gael am leoliad achosion a gadarnhawyd o Glefyd Americanaidd y Gwenyn yng Nghymru a Lloegr er mwyn i chi allu gweld a yw Clefyd Americanaidd y Gwenyn yn eich ardal wenyna.
  • Rhaglen Archwilio Gwenynfeydd Statudol: mae'n esbonio sut mae'r Uned Wenyn Genedlaethol yn monitro ac yn rheoli Clefyd Americanaidd y Gwenyn yng Nghymru a Lloegr.
  • Beth i'w wneud os ydych yn amau bod eich gwenyn mêl wedi'u heintio â Chlefyd Americanaidd y Gwenyn: os ydych yn wenynwr yng Nghymru a Lloegr, cysylltwch â'r Uned Wenyn Genedlaethol. Fel arall, os ydych yn wenynwr yn yr Alban, rhaid i chi ddefnyddio'r manylion cyswllt canlynol.
  • Gwenyn a'r Gyfraith: mae'r dudalen hon yn rhoi manylion y ddeddfwriaeth allweddol y mae angen i chi fod yn ymwybodol ohoni fel gwenynwr a'ch rhwymedigaethau os byddwch yn canfod Clefyd Americanaidd y Gwenyn.
  • Oriel Luniau: mae lluniau defnyddiol o symptomau Clefyd Americanaidd y Gwenyn i'w gweld yma.
  • Taflenni cynghorol a llawlyfrau hyfforddiant: gan gynnwys cyhoeddiadau ar Glefyd Gwenyn Mêl, y gallwch eu lawrlwytho am ddim.