Ydych chi'n amau y gallai eich gwenyn fod wedi cael eu heintio â Chlefyd Ewropeaidd y Gwenyn? Ydych chi'n gwybod sut i adnabod arwyddion clefyd y gwenyn ac ydych chi'n gallu gwahaniaethu rhwng Clefyd Ewropeaidd y Gwenyn a Chlefyd Americanaidd y Gwenyn? Mae Clefyd Ewropeaidd y Gwenyn yn haint difrifol a hysbysadwy, y mae'n rhaid i chi roi gwybod i'r Uned Wenyn Genedlaethol amdano.
Mae rhai rhannau o wefan BeeBase a allai eich helpu i adnabod symptomau allweddol Clefyd Ewropeaidd y Gwenyn yn cynnwys:
- Clefyd Ewropeaidd y Gwenyn: crynodeb o nodweddion Clefyd Ewropeaidd y Gwenyn, sy'n ymdrin â beth sy'n digwydd os caiff eich gwenyn ddiagnosis o Glefyd Ewropeaidd y Gwenyn.
- Mapiau o achosion o glefydau: mae gwybodaeth fyw ar gael am leoliad achosion a gadarnhawyd o Glefyd Ewropeaidd y Gwenyn yng Nghymru a Lloegr er mwyn i chi allu gweld a yw Clefyd Ewropeaidd y Gwenyn yn eich ardal wenyna.
- Taflenni cynghorol a llawlyfrau hyfforddiant: gan gynnwys cyhoeddiadau ar Glefyd Gwenyn Mêl. Hefyd, ceir sawl Ffeithlen sy'n berthnasol i'r gwaith o reoli Clefyd Ewropeaidd y Gwenyn, gan gynnwys: 'Triniaeth Ysgwyd Haid', 'Care of Colonies after Shook Swarm', 'OTC Treatments', a 'Rheoli Clefyd Ewropeaidd y Gwenyn', y gallwch lawrlwytho pob un ohonynt am ddim.
- Oriel Luniau: mae lluniau defnyddiol o symptomau Clefyd Ewropeaidd y Gwenyn i'w gweld yma.
- Rhaglen Archwilio Gwenynfeydd Statudol: mae'n esbonio sut mae'r Uned Wenyn Genedlaethol yn monitro, yn rheoli ac yn trin Clefyd Ewropeaidd y Gwenyn yng Nghymru a Lloegr.
- Beth i'w wneud os ydych yn amau bod eich gwenyn mêl wedi'u heintio â Chlefyd Ewropeaidd y Gwenyn: os ydych yn wenynwr yng Nghymru a Lloegr, cysylltwch â'r Uned Wenyn Genedlaethol. Fel arall, os ydych yn wenynwr yn yr Alban, rhaid i chi ddefnyddio'r manylion cyswllt canlynol.
- Gwenyn a'r Gyfraith: mae'r dudalen hon yn rhoi manylion y ddeddfwriaeth allweddol y mae angen i chi fod yn ymwybodol ohoni fel gwenynwr a'ch rhwymedigaethau os byddwch yn canfod Clefyd Ewropeaidd y Gwenyn.