Sut rydym yn defnyddio cwcis

This site uses only cookies strictly necessary to ensure the site works correctly.

Please read about how we use cookies.

Cuddio'r neges hon

Cwcis cwbl angenrheidiol a chwcis nad ydynt yn hanfodol

Drwy glicio ar 'derbyn pob cwci' rydych yn cydsynio i ni ddefnyddio cwcis a'n polisi cwcis.

Rydym yn defnyddio cwcis trydydd parti ar y wefan hon

You have accepted necessary cookies only

Gallwch newid eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd
Cuddio'r neges hon

Feirysau mewn Gwenyn Mêl

Gall feirysau ymosod ar wahanol gamau datblygu a chastiau o wenyn mêl, gan gynnwys wyau, larfâu, chwilerod, gwenyn gweithgar llawndwf, gwenyn gormes llawndwf a breninesau. Er bod feirysau gwenyn yn parhau fel arfer fel heintiau anamlwg ac nad ydynt yn achosi unrhyw arwyddion gweladwy o glefyd, gallant gael effaith ddifrifol ar iechyd gwenyn mêl a byrhau bywydau gwenyn wedi'u heintio o dan amodau penodol. Er enghraifft, gall nythfeydd sy'n cynnwys cryn nifer o widdon Varroa (Varroa destructor) ac sydd wedi'u heintio â Feirws adenydd wedi'u hanffurfio sy'n gysylltiedig â nhw (DWV) achosi niwed difrifol i iechyd a chynhyrchiant gwenyn mêl. Gall llawer o feirysau heintio gwenyn mêl ond chwe feirws sy'n cael eu cofnodi gan amlaf ledled y byd, sef: Feirws adenydd wedi'u hanffurfio (DWV), Feirws celloedd breninesau du (BQCV), Feirws Sacbrood (SBV), Feirws gwenyn Kashmir (KBV), Feirws parlys acíwt y gwenyn (ABPV) a Feirws parlys cronig y gwenyn (CBPV). Noder, yn achos y DU, fod nifer yr achosion o feirws gwenyn Kashmir yn fach iawn ac na chanfuwyd feirws Parlys Acíwt Israel (IAPV) yn y wlad er bod arolygon helaeth iawn o wenynfeydd wedi'u cwblhau. 

Feirws Parlys Cronig y Gwenyn (CBPV) 

Bees with Chronic Bee Paralysis VirusGwenyn llawndwf sydd wedi colli blew o ganlyniad i gael eu heintio â'r feirws 

Mae'r ffotograff uchod yn enghraifft nodweddiadol o wenynen sydd wedi'i heintio â CBPV, sy'n "sgleiniog ac yn ddu" i gyd. Mae'r gwenyn hyn mewn cychod wedi'u heintio yn aml yn cael eu canfod ar eu pen eu hunain, yn ddisymud a/neu'n ysgwyd ar y barrau uchaf. Pan gaiff mwg ei yrru drwy nythfa, maent yn tueddu i symud i lawr rhwng y fframiau fel y gwna'r gwenyn "normal" eraill. Gall abdomenau fod yn chwyddedig a gall yr adenydd fod yn ddatgymaledig hefyd. Ni allant hedfan ac, felly, gellir eu gweld yn cropian o flaen y cychod.  

Nodwyd mai CBPV yw un o achosion parlys mewn gwenyn llawndwf ar ôl iddi gael ei hamau am amser maith mai'r gwiddonyn traceol, Acarapis woodi, a oedd yn achosi'r parlys. Echdynnwyd CBPV o wenyn wedi'u parlysu'n naturiol fel un o'r feirysau cyntaf a gafodd ei arunigo o wenyn mêl ac ers hynny mae wedi'i ganfod mewn gwenyn A. mellifera llawndwf o bron pob cyfandir. 

Mae CBPV yn ymosod ar wenyn llawndwf yn bennaf ac achosi dau fath o symptomau ‘‘parlys’’ mewn gwenyn. Nodweddir yr un mwyaf cyffredin gan gryndod annormal yn y corff a'r adenydd, gwenyn yn cropian ar y ddaear am na allant hedfan, abdomenau chwyddedig ac adenydd datgymaledig. Mae'r math arall yn cael ei adnabod drwy bresenoldeb gwenyn di-flew, sgleiniog a du y mae gwenyn gwarchod yn ymosod arnynt ac yn eu hatal rhag dychwelyd i'r nythfeydd wrth fynedfa'r cychod. Gellir gweld y ddau fath o symptomau mewn gwenyn o'r un nythfa. Mae'n bosibl bod yr amrywiad yn symptomau'r clefyd yn adlewyrchu gwahaniaethau ymhlith gwenyn unigol o ran rhagdueddiad a etifeddwyd i luosogi'r feirws. 

Gellir gweld fideo sy'n dangos symptomau CBPV isod: 

Trin CBPV 

Mewn nythfeydd gorlawn, bydd CBPV yn lledaenu'n gyflymach gan y bydd y gwenyn yn dod i gysylltiad â'i gilydd yn amlach – sy'n golygu ei bod yn fwy tebygol y byddant yn rhwbio yn erbyn ei gilydd gan dynnu blew o'u habdomenau. Byddai hyn yn gadael clwyf agored ar y wenynen y gallai'r feirws fynd i mewn iddo a heintio gwenyn iach neu waethygu'r haint ynddynt. O ganlyniad, rydym yn argymell, mewn nythfeydd cryf sy'n dangos arwyddion o CBPV, y dylai gwenynwyr sicrhau bod digon o le drwy ychwanegu llofftydd neu flwch magu ychwanegol a bod y nythfeydd yn cael eu bwydo'n dda. Gall CBPV achosi problemau difrifol ac, os na all nythfa ymladd y feirws ei hun, y dull rheoli a argymhellir yw cyflwyno brenhines newydd o straen sy'n llai agored i CBPV i'r nythfa yn lle'r hen un. 

Feirws Adenydd wedi'u Hanffurfio (DWV) 

Honey bee displaying signs of Deformed Wing VirusGwenynen lawndwf ifanc wedi'i heintio â Feirws Adenydd wedi'u Hanffurfio sy'n dangos adenydd crebachlyd, wedi'u hanffurfio nodweddiadol. 

Symptomau a Diagnosis 

Tra bydd poblogaethau gwiddon Varroa destructor yn cael eu rheoli, bydd DWV yn parhau ar lefelau isel mewn nythfeydd wedi'u heintio heb achosi arwyddion o haint am y gall system imiwnedd gwenyn iach ymdopi ag ef. Fodd bynnag, os bydd poblogaethau gwiddon yn dechrau cynyddu a bod system imiwnedd yn cael ei gwanhau, bydd DWV yn achosi symptomau clinigol mewn chwilerod sy'n datblygu a gall arwain at farwolaeth chwilerod. At hynny, bydd gan wenyn sydd newydd ymddangos o nythfeydd wedi'u heintio â DWV adenydd wedi'u hanffurfio neu annatblygedig a gall fod ganddynt abdomenau chwyddedig a byrrach hefyd, fel y gwelwch yn y llun isod. 

Dulliau Trosglwyddo 

Mae sawl ffordd y gall DWV gael ei drosglwyddo o'r naill letywr i'r llall, gan gynnwys: 

  • y gweithgareddau paru rhwng brenhines wyryf iach a gwenynen ormes sydd wedi'i heintio â'r feirws; 
  • brenhines sydd wedi'i heintio â'r feirws yn dodwy wy wedi'i heintio; 
  • gweithgareddau bwyta gwenyn, h.y. gwenynen ofal wedi'i heintio â'r feirws yn cynnig bwyd i fag, gwenyn neu'r frenhines sydd heb ei (eu) heintio. 
  • Gall gweithgareddau bwyta gwiddon Varroa gynyddu lefelau haint mewn lletywr yn sylweddol, am eu bod yn fector ar gyfer llawer o feirysau;  
  • ar lefel nythfa drwy heidio a'r gwenynwr yn cynyddu nifer y gwenyn 

Trin a Rheoli DWV 

O'u defnyddio'n gywir, dylai triniaethau a ddefnyddir i reoli gwiddon Varroa reoli DWV sy'n gysylltiedig â'r parasit a'i atal rhag lledaenu. Fodd bynnag, ar hyn o bryd, nid oes unrhyw ddulliau uniongyrchol o reoli unrhyw feirws sy'n effeithio ar wenyn mêl. Hefyd, mae tystiolaeth i awgrymu y gall dewis a bridio stociau o wenyn a all wrthsefyll y feirws hefyd helpu i reoli'r feirws. Fodd bynnag, ni ellir dibynnu arno ynddo'i hun fel ffordd o reoli'r feirws. .

Honey bee displaying signs of Deformed Wing VirusGwenynen fêl yn dangos arwyddion o Ffeirws Adenydd wedi'u Hanffurfio