Sut rydym yn defnyddio cwcis

This site uses only cookies strictly necessary to ensure the site works correctly.

Please read about how we use cookies.

Cuddio'r neges hon

Cwcis cwbl angenrheidiol a chwcis nad ydynt yn hanfodol

Drwy glicio ar 'derbyn pob cwci' rydych yn cydsynio i ni ddefnyddio cwcis a'n polisi cwcis.

Rydym yn defnyddio cwcis trydydd parti ar y wefan hon

You have accepted necessary cookies only

Gallwch newid eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd
Cuddio'r neges hon

Gwiddon traceol

Cefndir a Chylchred Bywyd Byr 

Tracheal tube blocked by Acarapis woodi and eggsTiwb traceol wedi'i lenwi ag Acarapis woodi ac wyau 

Credir mai Gwiddon traceol (a elwir hefyd yn Acarin) oedd un o brif achosion ‘Clefyd Ynys Wyth’ a welwyd gyntaf ar ddechrau'r 1900au. Gwnaeth ddifa rhan helaeth o'r boblogaeth o wenyn mêl, gan ledaenu'n ddiweddarach i dir mawr y DU. Yn fwy diweddar, mae Gwiddon traceol wedi cael effaith economaidd ddifrifol ar y diwydiant gwenyna yng Ngogledd America, ar ôl iddynt gael eu cyflwyno yno yn y 1980au o Fecsico. Fodd bynnag, yn y DU, nid yw haint Gwiddon traceol yn glefyd difrifol fel arfer, gyda nifer cymharol fach o nythfeydd yn cael eu heintio. 

Acarapisosis yw pan fydd tiwbiau anadlu (tracea) y wenynen lawndwf yn llawn gwiddon parasitig Acarapis woodi. Yn y wenynen fêl, mae ocsigen yn cyrraedd meinweoedd y corff drwy drylediad drwy system gymhleth sy'n cynnwys tiwbiau a elwir yn dracea ac yn godennau aer. Yn y tracea y mae'r gwiddon acarin yn atgynhyrchu ac yn bwyta. Mae gwiddon benyw llawndwf yn mynd i mewn i sbiraglau thorasig blaen gwenyn ifanc (dim ond yn ystod y naw diwrnod cyntaf ar ôl iddynt ymddangos y mae gwenyn yn agored i bla). Mae'r gwiddon yn dodwy eu hwyau yn y tracea ac, ar ôl iddynt ddeor, mae'r larfâu yn dechrau bwyta hemolymff (gwaed) y wenynen. Mae'r larfâu yn bwrw hengroen sawl gwaith cyn cyrraedd eu ffurfiau llawndwf ac yna maent yn barod i fod yn bla ar letywyr newydd. 

Symptomau

Mewn llawer o achosion mae gwenyn yn clystyru o flaen y cwch, gan ymddangos fel petaent wedi drysu, ac yn methu â dychwelyd i'r cwch. Mae'n bosibl y bydd yr hyn a elwir yn ‘adenydd K’ i'w weld ar rai o'r gwenyn hefyd, lle mae'r rhesi o fachau sy'n dal y parau o adenydd y wenynen ynghyd yn cael eu datgysylltu. Fodd bynnag, ni welir yr annormaleddau hyn bob amser a gallant gael eu hachosi gan ffactorau eraill nad ydynt yn gysylltiedig ag Acarapisosis. 

Gall plâu gwiddon hefyd fyrhau hyd oes gwenyn sy'n gaeafu, sy'n arwain at ‘edwino yn y gwanwyn’ a achosir gan wenyn y gaeaf yn marw ar ddechrau'r gwanwyn.  O ganlyniad, ni all y mag sy'n ehangu gael ei gynnal yn ddigonol gan weddill y boblogaeth o wenyn llawndwf, sy'n arwain at farwolaeth y nythfa. Awgrymwyd, os bydd y nythfa yn mynd i mewn i'r gaeaf â chyfradd heintio o fwy na 30%, fod y nythfa yn annhebygol o oroesi. 

Diagnosio a Thrin 

Dim ond drwy gynnal archwiliad dyrannu a microsgopig (gan ddefnyddio microsgop dyrannu â chwyddiad o hyd at x40) o'r prif dracea y gellir diagnosio'r clefyd yn hawdd. Mewn gwenynen iach neu heb ei heintio, bydd y tracea cyfan o liw gwyn hufennog. 

Healthy tracheal system in a honey beeSystem draceol iach mewn gwenynen fêl 

Mewn gwenyn sydd wedi'u heintio, bydd y tracea wedi'i afliwio mewn mannau a bydd staeniau tywyll i'w gweld arno (melaneiddio, a achosir gan widdon sy'n bwyta). Yn ogystal â'r wyau, efallai y bydd y ffurf nymff a'r ffurf lawndwf ar y gwiddonyn i'w gweld hefyd yn y tracea. 

Acarine eggs in the tracheal tubeWyau acarin yn y tiwb traceol 

Ar hyn o bryd nid oes unrhyw driniaethau cymeradwy ar gyfer Acarin. Y dull rheoli gorau sydd ar gael yw i'r gwenynwr cyflwyno breninesau newydd i nythfeydd sy'n agored i'r clefyd.  

Rhagor o Wybodaeth