Sut rydym yn defnyddio cwcis

This site uses only cookies strictly necessary to ensure the site works correctly.

Please read about how we use cookies.

Cuddio'r neges hon

Cwcis cwbl angenrheidiol a chwcis nad ydynt yn hanfodol

Drwy glicio ar 'derbyn pob cwci' rydych yn cydsynio i ni ddefnyddio cwcis a'n polisi cwcis.

Rydym yn defnyddio cwcis trydydd parti ar y wefan hon

You have accepted necessary cookies only

Gallwch newid eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd
Cuddio'r neges hon

Chwilen Fach y Cwch

A series of three images showing life stages of the Small Hive Beetle Cyfres o dri llun sy'n dangos camau bywyd Chwilen Fach y Cwch 

Mae Chwilen Fach y Cwch, Aethina tumida, yn rhywogaeth oresgynnol a ddaeth yn wreiddiol o Affrica ac sydd wedi bod yn bla difrifol ar gyfer cychod gwenyn mêl yn UDA ac Awstralia. Mae Chwilen Fach y Cwch wedi'i gwneud yn glefyd hysbysadwy yng Nghymru a Lloegr gan Orchymyn Rheoli Clefydau a Phlâu Gwenyn 2006 a Gorchymyn Rheoli Clefydau a Phlâu Gwenyn (Cymru) 2006. 

Cwmpas Daearyddol 

Affrica 

Mae chwilen fach y cwch yn frodorol i Affrica ac, felly, mae'n gyffredin ledled y cyfandir, yn enwedig yn Affrica Is-Sahara. 

Yn 2002, fe'i cofnodwyd yn Itay-Al-Baroud yn yr Aifft ac wedyn mewn sawl gwenynfa ar hyd Delta Afon Nîl. Fodd bynnag, ni allai arolwg helaeth diweddarach o wenynfeydd gadarnhau ei bod yn bresennol a ni roddwyd gwybod am unrhyw niwed i nythfeydd gwenyn a achoswyd gan chwilod bach y cwch ers hynny. 

Awstralasia 

Cadarnhawyd bod chwilod bach y cwch yn Awstralia (2002) ac maent bellach yn bresennol yn Queensland, New South Wales a Victoria. Ystyrir eu bod yn endemig yn y Taleithiau hynny. 

Gogledd a De America 

Yn UDA, canfuwyd chwilod bach y cwch am y tro cyntaf yn 1996 a chadarnhawyd yn ffurfiol fod y rhywogaeth yn bresennol yn Fflorida yn 1998. Mae'r chwilen bellach wedi ymsefydlu ledled cyfandir UDA, gyda phresenoldeb chwilod yn cael ei gadarnhau ym mhob un o'r 48 o daleithiau cyffiniol. 

Fe'i canfuwyd yng Nghanada yn 2002 (Manitoba), yn 2006 (Alberta a Manitoba), yn 2008 (Québec ac Ontario), yn 2009 (Québec) ac yn 2013 (Ontario). Yn Ontario, mae gan y man mwyaf deheuol boblogaeth sefydledig o chwilod bach y cwch gyda chyfyngiadau wedi'u gosod ar symud nythfeydd a deunydd gwenyna allan o'r rhanbarth. Cadarnhawyd ei bod yn bresennol yn Québec hefyd (2013). 

Mecsico (2007) – mae chwilod bach y cwch wedi ymsefydlu mewn o leiaf wyth talaith ym Mecsico, yn enwedig mewn taleithiau trofannol (e.e. Yucatan). Mewn ardaloedd o'r fath, gall lefelau plâu fod yn uchel iawn gyda channoedd neu hyd yn oed filoedd o chwilod llawndwf yn cael eu canfod mewn un cwch sydd â'r pla. 

Jamaica (2005) – Effaith fach hyd yma. 

Hawaii (2010) – Effaith ddinistriol ar y diwydiant gwenyna lleol; yn arbennig ar y diwydiant magu breninesau. 

Ciwba (2012) – Ar hyn o bryd mae A. tumida yn bresennol yn nhaleithiau Villa Clara, Cienfuegos, Matanzas, La Havana, Mayabeque, Artemisa a Pinar del Rio a disgwylir iddo ledaenu i'r wlad gyfan. 

El Salvador (2013) – Canfu arolwg dilynol ym mis Rhagfyr 2014 chwilod bach y cwch mewn dim ond 68 o 1700 o gychod sy'n awgrymu mai achosion lleol yw'r rhain hyd yma. 

Nicaragua (2014) – fe'i cofnodwyd yn Rivas. Ar hyn o bryd, nid yw'n hysbys ai achos lleol oedd hwn neu a yw'r chwilen wedi ymsefydlu yn y wlad. 

Brazil (2015) - Ym mis Mawrth 2015, cafodd haid o wenyn mêl (Apis mellifera) ei ddal a'i gadw yng ngwenynfa Labordy Pryfed Buddiol yr Adran Entomoleg ac Acaroleg yn Ysgol Graddedigion Amaethyddiaeth "Luiz de Queiroz ", Prifysgol São Paulo (USP). Sawl diwrnod yn ddiweddarach, canfuwyd 20 o chwilod bach y cwch benywaidd llawndwf yn y crât a oedd yn cynnwys yr haid a ddaliwyd. Ni chanfuwyd unrhyw larfâu ac nid oedd unrhyw ddifrod i'w weld yn y cwch. Ar ddechrau'r archwiliad, roedd y wenynfa yn cynnwys chwe chwch o wenyn mêl (Apis millifera) a 40 o gychod gwenyn digolyn. Nid oedd unrhyw dystiolaeth bod chwilod yn bresennol yn y cychod eraill. 

Ewrop 

Portiwgal (2004) – Rhyng-gipiwyd chwilod bach y cwch mewn llwyth o freninesau a oedd yn cael eu mewnforio o'r Unol Daleithiau i Bortiwgal yn 2004. Cafodd yr holl nythfeydd yn y wenynfa pen y daith eu difa a chafodd y pridd o'u hamgylch ei drin â phryfleiddiad. 

Yr Eidal (2014) –  Ar 11 Medi 2014, cadarnhaodd Labordy Cyfeirio Cenedlaethol yr Istituto Zooprofilattico Sperimentale delle Venezie yn yr Eidal yr achos cyntaf o ganfod presenoldeb chwilod bach y cwch yn Ne-orllewin yr Eidal, yn ninas borthladd Gioia Tauro. Cadarnhawyd ail achos yn Rosarno, tua 1km o'r wenynfa gyntaf â'r pla, ar 17 Medi 2014. Yn yr achos hwn, canfuwyd bod chwilod bach y cwch yn bresennol mewn pedair nythfa. Ers hynny, cadarnhawyd bod y chwilod yn bresennol mewn gwenynfeydd eraill. Rhoddir rhagor o fanylion wrth i'r sefyllfa ddatblygu ar wefan IZSV neu ANSES, sef gwefan iechyd gwenyn mêl Labordy Cyfeirio'r Undeb Ewropeaidd. 

03/08/16 – Canfuwyd yr achos cyntaf yn Cosenza yn fframwaith y gwaith a oedd yn cael ei wneud i gadw golwg am Aethina tumida yn rhanbarth Calabria region mewn gwenynfa a oedd yn cynnwys 12 o nythfeydd cnewyllol. Mae'r achos hwn tua 100km i'r gogledd o'r parth diogelwch cychwynnol. Mae chwilod bach y cwch wedi'u canfod mewn pedair gwenynfa o fewn radiws o 3km y mae pob un ohonynt yn perthyn i'r un gwenynwr. Mae mesurau rheoli clinigol ar waith mewn gwenynfeydd eraill o fewn radiws o 1km i'r prif achos gyda chanlyniadau negatif yn cael eu cofnodi hyd yma. Mae archwiliad epidemiolegol yn cael ei gynnal er mwyn nodi sut y cafodd y chwilod eu cyflwyno i'r wenynfa yn yr achos cyntaf. 

03/03/17 – Cyhoeddwyd Penderfyniad Gweithredu'r Comisiwn. Mae'n ymestyn y mesurau rheoli ar Calabria tan ddiwedd mis Mawrth 2019 tra bod y mesurau diogelu ar Sisili yn cael eu codi o ganlyniad i ddwy flynedd o wyliadwriaeth heb ganfod yr un achos o chwilod bach y cwch ers yr achos cychwynnol. Mae'n bwysig bod pob gwenynwr yn cael gwenyn o ffynonellau dibynadwy ac yn sicrhau y cydymffurfir â chanllawiau mewnforio (Lloegr) er mwyn helpu i leihau'r risg y ceir achos o bla egsotig yn y DU. 

31/12/20 – Roedd achos arall yn Sisili ym mis Mehefin 2019 yn golygu bod gwaharddiad ar allforion o'r Eidal wedi'i ailgyflwyno ar gyfer Sisili. Mae'r mesur diogelu ar gyfer Sisili a Calabria wedi'i ymestyn tan fis Ebrill 2021. Mae'r gwaharddiad ar allforion i'r DU o'r ddau ranbarth hyn yn parhau ar ôl diwedd y cyfnod pontio. 

Mesurau wrth Gefn: pan ganfuwyd chwilod bach y cwch am y tro cyntaf yn yr Eidal yn 2014, roedd mesurau brys ar waith i asesu pa mor fawr oedd yr achos. Roedd hyn yn cynnwys prosesau olrhain llawn (hynny yw olrhain yn ôl gwerthiannau a gwenyn a symudwyd o'r ardal), gyda'r bwriad o ddileu chwilod bach y cwch a rheoli lledaeniad y plas yn unol â deddfwriaeth a mesurau diogelu yr UE. Ar y pryd, roedd mesurau yn cynnwys difa pob nythfa mewn gwenynfeydd lle y canfuwyd chwilod bach y cwch a chafodd y pridd o amgylch y cychod yn y gwenynfeydd ei aredig i mewn i'r ddaear a'i drin â drensh pridd. Gweler gwefan IZSV am y sefyllfa bresennol o ran gwyliadwriaeth ac ymdrechion i gyfyngu ar ledaeniad y pla yn yr Eidal. 

Asia

Ynysoedd Philippines (2014) – Cadarnhawyd bod nythfeydd wedi'u rheoli o wenyn mêl Ewropeaidd a gyflwynwyd a oedd yn llawn chwilod bach y cwch yn Lupon. Mae mesurau rheoli ar waith ar hyn o bryd, e.e. gwahardd symud gwenyn rhwng ynysoedd. 

Statws Presennol 

Ar hyn o bryd, nid oes unrhyw Aethina tumida na Tropilaelaps spp. (gweler y dudalen sy'n ymdrin ࣙâ Tropilaelaps ar BeeBase) wedi'u canfod yn y Deyrnas Unedig. Petai'r naill neu'r llall yn cael ei gyflwyno, gallent achosi niwed mawr mewn rhai rhannau o'r DU neu Ewrop, petaent yn ymsefydlu. Mae'r ddau barasit yn hysbysadwy yn statudol (gweler y ddeddfwriaeth berthnasol yma). Cadarnhawyd bellach fod chwilod bach y cwch bellach yn bresennol yn yr Eidal, ond hyd yma ni chadarnhawyd eu bod yn bresennol yn unman arall yn Ewrop. Ar hyn o bryd, credir nad oes unrhyw widdon Tropilaelaps yn bresennol yn Ewrop. 

Bob blwyddyn, mae Arolygiaeth yr UWG yn cynnal rhaglen wyliadwriaeth seiliedig ar risg gynhwysfawr ar gyfer y plâu hyn mewn gwenynfeydd neu barthau 'Lle ceir risg', megis o amgylch porthladdoedd, meysydd awyr, depos cynwysyddion. Anogir gwenynwyr yn gryf i gadw golwg ar eu cychod i weld a yw chwilod bach y cwch yn bresennol ynddynt. Mae hyn yn bwysicach fyth gan fod presenoldeb chwilod bach y cwch bellach wedi'i gadarnhau yn yr Eidal. Gellir anfon samplau a amheuir i labordy'r UWG i'w diagnosio. At hynny, er mwyn cefnogi hyn mae cynllunio wrth gefn a pharatoi ar gyfer dyfodiad bygythiadau egsotig a nodwyd i'r DU, yn rhan annatod o'n gwaith. 

Cefnogi Ymchwil 

Ar hyn o bryd, mae'r UWG yn ymchwilio i fesurau rheoli posibl ar gyfer Chwilen fach y cwch. Am ragor o fanylion gweler y tudalennau 'Prosiectau Ymchwil Gwenyn'. 

Cynllun wrth Gefn

Cynllun Wrth Gefn ar gyfer Pla Penodol Chwilen Fach y Cwch Gwenyn a gwiddonyn Tropilaelaps

Mae Defra hefyd wedi cwblhau asesiad risg o'r potensial i chwilod bach y cwch fod yn gysylltiedig â chynnyrch a chynhyrchion planhigion eraill o'r Eidal, a gellir darllen y ddogfen yma.

 

A millimetre scale showing the approximate size of an adult Small Hive Beetle  Graddfa mewn milimedrau sy'n dangos maint Chwilen fach y cwch

Rhagor o Wybodaeth