Sut rydym yn defnyddio cwcis

This site uses only cookies strictly necessary to ensure the site works correctly.

Please read about how we use cookies.

Cuddio'r neges hon

Cwcis cwbl angenrheidiol a chwcis nad ydynt yn hanfodol

Drwy glicio ar 'derbyn pob cwci' rydych yn cydsynio i ni ddefnyddio cwcis a'n polisi cwcis.

Rydym yn defnyddio cwcis trydydd parti ar y wefan hon

You have accepted necessary cookies only

Gallwch newid eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd
Cuddio'r neges hon

Gwyddonwyr gwadd ac ysgoloriaethau ymchwil

Mae'r UWG yn croesawu amrywiaeth eang o ymwelwyr o sefydliadau cenedlaethol a rhyngwladol. Mae hyn yn creu rhwydwaith o wyddonwyr ac ymarferwyr o wahanol ddisgyblaethau a chefndiroedd. Rydym hefyd yn ymwneud â goruchwylio amrywiaeth o brosiectau israddedig ac ôl-raddedig yn ogystal ag interniaethau.

Myfyrwyr Presennol ac Ymwelwyr

Coleg Imperial Llundain, Myfyriwr: Monika Yordanova

  • Ariennir gan Bee Disease Insurance Ltd and C. B. Dennis Trust.
  • Goruchwyliaeth academaidd gyda Dr Peter Graystock a Richard Gill o Goleg Imperial Llundain a Dr Sophie Evison o Brifysgol Nottingham.
  • Prosiect: I aim to identify stressors which relate to the development of EFB in honeybee hives.
  • More information on my project can be found on the Bee Disease Insurance Ltd website

Cyn-Fyfyrwyr ac Ymwelwyr

Prifysgol Caerefrog a Fera, Myfyrwraig: Nicola Burns

  • Dyfarniad BBSRC CASE gyda chymorth grant a gydnabyddir yn ddiolchgar gan Bee Disease Insurance (BDI).
  • Cynhelir yr ysgoloriaeth ymchwil hon gyda Dr Thorunn Helgason ym Mhrifysgol Caerefrog.
  • Prosiect: 'Genetic and environmental effects on virulence of European foulbrood, a bacterial pathogen of honey bees'.
  • Bydd Nicola yn defnyddio technegau genomig cymharol i nodi nodweddion gwenwyndra gwahanol arunigion o M. plutonius. Yna, bydd yn asesu larfâu a herir ac yn asesu gwahaniaethau ffenotypig.

Prifysgol Lerpwl a Fera, Myfyriwr: Georgia Drew

  • Ariennir drwy ddyfarniad BBSRC iCASE.
  • Goruchwyliaeth academaidd gyda'r Athro Greg Hurst a Dr Alistair Darby: https://sites.google.com/site/hurstlab/home/lab-members
  • Prosiect: 'Arsenophonus: Friend or Foe?' Bydd y prosiect hwn yn ymchwilio i organeb ryfedd y nodwyd ei bod yn gysylltiedig â nythfeydd gwenyn mêl, sef Arsenophonus. Bydd y gwaith yn ein helpu i ddeall y rhyngweithio rhwng y symbiont hwn a'r wenynen fêl, Apis mellifera, er mwyn nodi unrhyw effeithiau cadarnhaol neu negyddol ar iechyd gwenyn mêl. Bydd y canlyniadau yn helpu i roi cyngor ar y dulliau hwsmonaeth gorau ar gyfer rheoli'r organeb hon.
  • Mae Georgia wedi llunio poster gwyddoniaeth sy'n nodi sut y bydd ei gwaith yn ceisio mesur maint y niwed y mae Arsenophonus yn ei achosi i nythfa.
  • At hynny, mae wedi ysgrifennu erthygl ar gyfer y wasg wenyna sy'n rhoi rhagor o fanylion am y gwaith y mae wedi bod yn ei wneud ar y prosiect hwn.

Prifysgol Aberdeen a Fera, Myfyriwr: Craig Christie

  • Goruchwyliaeth academaidd gyda Dr Alan Bowman:
  • Mae Craig yn gweithio ochr yn ochr â phrosiect a ariennir gan VMD er mwyn helpu i ddatblygu system feithrin i fagu gwiddon Varroa oddi ar y lletywr. Bydd yn canolbwyntio ar ddefnyddio dulliau goroesi ac atgynhyrchu i nodi agweddau sylfaenol ar fioleg gwiddon.

Canolfan Hyfforddiant Galwedigaethol Cymhleth yr Ysgol Amaethyddol, Pszczela Wola, Gwlad Pwyl

  • Rydym yn croesawu myfyrwyr gwenyna fel rhan o raglen interniaethau o'r coleg amaethyddol yng Ngwlad Pwyl: http://www.pszczelawola.edu.pl/index.php/About-school.html [LINK NOT WORKING]

Datblygu systemau gwyliadwriaeth priodol ar gyfer plâu a chlefydau sy'n effeithio ar wenyn mêl yn Uganda (Cymrodoriaeth Ryngwladol Rothamsted)

  • Ymchwilydd gwadd Dr. Robert Kajobe, Prif Wenynwr yn y Sefydliad Ymchwil Amaethyddol Cenedlaethol (NARO), y Sefydliad Ymchwil Iechyd Da Byw yn Tororo. Casglodd Dr Kajobe wenyn mêl o 10 barth ecolegol gwahanol yn Uganda. Defnyddiodd y cyfleusterau yn Fera i sgrinio'r gwenyn hyn ar gyfer amrywiaeth o blâu a chlefydau sy'n effeithio ar wenyn mêl. Am ragor o fanylion am y prosiect hwn a gwaith datblygu arall gan yr Uned Wenyn Genedlaethol Ryngwladol, gweler ein tudalennau 'Datblygu Rhyngwladol'. [LINK NOT WORKING]

Cymrawd gwadd: Marc Ndimukaga

  • 'Project to complete a survey of bees utilised in apiculture in Rwanda, characterising subspecies and races obtained from contrasting agro-ecological zones, and mapping their respective incidences. It will also characterise honeys from colonies from selected areas, defining their respective chemical compositions, nutritional values, antimicrobial properties, and the profiles of any pollens found.'

Cynllunio wrth Gefn

  • Preben Kristiansen o Gymdeithas Gwenynwyr Sweden (cynghorydd ar blâu a chlefydau gwenyn) a Lotta Fabricius Kristiansen o Fwrdd Amaethyddiaeth Sweden.
  • Ymwelodd â'r UWG i gymryd rhan mewn ymarfer cyfnewid gwybodaeth a oedd yn cynnwys cynllunio wrth gefn, hyfforddiant, gwyliadwriaeth ac archwiliadau. Mae'n helpu i roi cyngor i Lywodraeth Sweden sy'n ystyried sefydlu rhaglen bartneriaeth debyg i'r un yn y DU.

Prifysgol Caerefrog a Fera, Myfyrwraig: Barbara Morrissey

  • Dyfarniad BBSRC CASE gyda chymorth grant a gydnabyddir yn ddiolchgar gan Bee Disease Insurance (BDI).
  • Goruchwyliaeth academaidd gyda Dr Thorunn Helgason: http://www.york.ac.uk/biology/research/ecology-evolution/thorunn-helgason/#research [LINK NOT WORKING]
  • Prosiect: Epidemiology of American foulbrood: mae Barbara wedi llunio cynllun teipio genetig ar gyfer larfâu Paenibasilws, sef cyfrwng achosol Clefyd Americanaidd y Gwenyn, ac mae wedi defnyddio'r cynllun i ddeall llwybrau trosglwyddo'r clefyd dinistriol hwn sy'n effeithio ar fag. Gellir darllen enghraifft o'i gwaith ar ein tudalen 'Cyhoeddiadau mewn Cyfnodolion Gwyddonol'.

Prifysgol Caerwysg a Fera, Myfyriwr: Ben Jones

  • Goruchwyliaeth academaidd gyda Dr James Cresswell: http://biosciences.exeter.ac.uk/staff/index.php?web_id=james_cresswell [LINK NOT WORKING]
  • Cymorth ariannol a gydnabyddir yn ddiolchgar gan Bee Disease Insurance (BDI), cymdeithasau cyfunol rhanbarthau Swydd Efrog, De-orllewin Lloegr a Dwyrain Lloegr, yn ogystal â chymdeithasau gwenyna Hampshire a Peterborough.
  • Prosiect: Investigating the Impacts of Nutrition on Honey Bee Health. To understand the effects of diet quality on bee health and immunity with the aim to ascertain if certain diets, will promote disease resistance in honey bees by supporting the immune system.'

Prifysgol Aberdeen a Fera

  • Goruchwyliaeth academaidd gyda Dr Alan Bowman
  • 1. BBSRC EASTBIO (Partneriaeth Hyfforddiant Doethurol mewn Biowyddoniaeth Dwyrain yr Alban) gydag EARS2 (Ysgoloriaeth Ymchwil Rhanbarth Dwyrain Lloegr II) Myfyrwraig: Emma Bradford
  • Prosiect: 'How does deformed wing virus change as it passes between honey bees and Varroa?' Cynhelir y prosiect hwn ochr yn ochr â phrosiect SMARTBEES EU er mwyn ymchwilio i rôl Varroa destructor, sef gwiddonyn parasitig gwenyn mêl, o ran lledaenu feirws adenydd wedi'u hanffurfio (DWV) a'r ffordd y mae'r feirws hwn yn newid wrth iddo gael ei drosglwyddo rhwng fector gwiddon Varroa a'r wenynen fêl letyol. Ceir rhagor o wybodaeth am SMARTBEES yma.
  • 2. Ysgoloriaeth ymchwil Biowyddorau KTN (Knowledge Transfer Network) BBSRC-CASE gysda Chymdeithas Gwenynwyr yr Alban
  • Prosiect: 'To investigate the biology of the parasitic mite Varroa, in order to research pathogen transmission and develop a screening platform to test potential control therapeutics'

Myfyriwr Gradd Meistr, Prifysgol Caerefrog

PhD: Investigating the taxonomy of UK honey bee viruses: A molecular approach (prosiect a ariennir gan Defra rhif PH0410)

  • Cynhaliwyd yr ysgoloriaeth ymchwil hon gyda'r Athro Mike Carter a Dr. Lisa Roberts ym Mhrifysgol Surrey. Ei phrif nod oedd ymchwilio i'r feirysau mewn poblogaethau o wenyn mêl yn y DU drwy ddisgrifio deunydd genetig pob feirws. Gan ein galluogi i lunio cartiau achau feirysau a nodi dosbarthiad pob feirws yng Nghymru a Lloegr.

PhD: 'Investigating the genetic differences between Paenibacillus larvae subspecies' (ysgoloriaeth ymchwil sbarduno Defra)

  • Cynhaliwyd yr ysgoloriaeth ymchwil hon gyda Dr Thorunn Helgason ym Mhrifysgol Caerefrog. Mae isrywogaethau o larfâu Paenibasilws yn achosi clefyd difrifol mewn gwenyn mêl a elwir yn Glefyd Americanaidd y Gwenyn. Casglodd y prosiect hwn gryn dipyn o ddata genetig a oedd wedi'i gwneud yn bosibl i'r isrywogaethau gwahanol gael eu nodi.

Treuliodd Keith Delaplane gyfnod sabothol yn yr UWG

  • Yr Athro Entomoleg a chyfarwyddwr rhaglen ymchwil ac addysg gwenyn mêl ym Mhrifysgol Georgia (UDA).
  • Yr Athro Delaplane hefyd yw cyfarwyddwr cenedlaethol y Prosiect Amaethyddol Cydgysylltiedig Pryfed Peillio a Reolir gwerth $4.1 miliwn a gynhelir gan Adran Amaethyddiaeth yr Unol Daleithiau, sef consortiwm sy'n cynnwys gwyddonwyr ac addysgwyr ymestyn o 17 o sefydliadau sy'n cydweithio i astudio'r lleihad mewn poblogaethau o wenyn mêl a'i wrthdroi. Ceir rhagor o wybodaeth am waith yr Athro Delaplane yma: http://www.ent.uga.edu/Bees/personnel/delaplane.html [LINK NOT WORKING]

Graddau PhD gyda Phrifysgol Leeds

  • Mae'r UWG wedi gweithredu fel sefydliad lletyol ar gyfer cylchdroadau labordy ar gyfer myfyrwyr PHD o Brifysgol Leeds. Mae prosiectau yn cynnwys pathogenedd cymharol y ddwy rywogaeth o Nosema sy'n effeithio ar wenyn mêl Ewropeaidd ac ymchwilio i amrywiaeth enetig a pharhad ein poblogaethau o wenyn mêl gwyllt. Ceir enghraifft o'r cyhoeddiadau sydd wedi deillio o'r gwaith hwn ar y dudalen hon.