Sut rydym yn defnyddio cwcis

This site uses only cookies strictly necessary to ensure the site works correctly.

Please read about how we use cookies.

Cuddio'r neges hon

Cwcis cwbl angenrheidiol a chwcis nad ydynt yn hanfodol

Drwy glicio ar 'derbyn pob cwci' rydych yn cydsynio i ni ddefnyddio cwcis a'n polisi cwcis.

Rydym yn defnyddio cwcis trydydd parti ar y wefan hon

You have accepted necessary cookies only

Gallwch newid eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd
Cuddio'r neges hon

Prosiectau a gwblhawyd

Mae'r UWG yn gweithio i amrywiaeth o gwsmeriaid gan gynnwys Defra. Ar ddiwedd pob prosiect ymchwil a ariennir gan Defra, bydd tîm yr UWG sy'n ymwneud â'r prosiect yn cwblhau adroddiad terfynol 'Science in Defra (DIS5)'. Mae pob SID5 yn cynnwys manylion llawn am gefndir y prosiect, sut y gwnaed y gwaith, y canlyniadau a gafwyd, y dadansoddiadau ystadegol a'r casgliadau y daethpwyd iddynt. Yna, cyflwynir yr adroddiad i Defra i'w adolygu, cyn iddo gael ei gyhoeddi gan Defra. Lle maent ar gael, mae'r adroddiadau llawn, gwybodaeth am brosiectau a dolenni iddynt ar gael isod.

Mae'r prosiectau isod wedi'u trefnu yn ôl penawdau pwnc er hwylustod. Noder, fodd bynnag, y gall rhai prosiectau berthyn i fwy nag un maes ymchwil.

Plâu Egsotig a Gwyliadwriaeth

Pathogenau a Systemau Rheoli Clefydau

Peillio

Cymerodd Fera a'r UWG ran mewn nifer o brosiectau fel arweinwyr a chydweithredwyr o dan y Fenter Pryfed Peillio, sef menter ar y cyd rhwng y Cyngor Ymchwil Biodechnoleg a Gwyddorau Biolegol, Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig, Cyngor Ymchwil yr Amgylchedd Naturiol, Llywodraeth yr Alban a'r Welcome Trust.

Rhoddir manylion y prosiectau isod:

  • Linking agriculture and land use change to pollinator populations - Prosiect cydweithredol gyda Phrifysgol Leeds mewn partneriaeth â Phrifysgol Bryste, y Ganolfan Ecoleg a Hydroleg a Phrifysgol Reeding) Fe'i hariannwyd fel rhan o'r Fenter Pryfed Peillio (IPI). 
  • Sustainable pollination services for UK crops - (Prosiect cydweithredol gyda Phrifysgol Leeds a Phrifysgol Reeding) Fe'i hariannwyd fel rhan o'r Fenter Pryfed Peillio (IPI).
  • Assessing the economic value of honey bee pollination services (Prosiect sbarduno Defra)

Hwsmonaeth, Ymddygiad a Bioleg Gwenyn Mêl

Plaleiddiaid, Triniaethau a Meddyginiaethau