Sut rydym yn defnyddio cwcis

This site uses only cookies strictly necessary to ensure the site works correctly.

Please read about how we use cookies.

Cuddio'r neges hon

Cwcis cwbl angenrheidiol a chwcis nad ydynt yn hanfodol

Drwy glicio ar 'derbyn pob cwci' rydych yn cydsynio i ni ddefnyddio cwcis a'n polisi cwcis.

Rydym yn defnyddio cwcis trydydd parti ar y wefan hon

You have accepted necessary cookies only

Gallwch newid eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd
Cuddio'r neges hon

Varroa

Mae Varroa destructor (Anderson a Truman) a ddisgrifiwyd yn flaenorol fel Varroa jacobsoni (Oud) yn widdonyn parasitig a geir mewn gwenyn llawndwf a mag. Ers rhyw ganrif bellach, dyma'r pla mwyaf difrifol ar gyfer gwenyn mêl Gorllewinol ledled y byd, yn arbennig ar gyfer gwenyn mêl Ewropeaidd Apis mellifera nad oes ganddynt unrhyw amddiffyniadau naturiol er mwyn iddynt allu delio â'r gwiddonyn eu hunain. Pan fydd poblogaethau yn llenwi nythfa, mae'n arwain at glefyd a elwir yn Varroosis ac os na chaiff ei drin, fel arfer bydd nythfa wedi'i heintio yn marw o fewn 2-3 blynedd.

Fe'i canfuwyd gyntaf yn y DU ar 4 Ebrill 1992 yn Nyfnaint. Mae Gorchymyn Rheoli Clefydau a Phlâu Gwenyn (Lloegr) 2006 wedi'i ddiwygio gan Orchymyn Rheoli Clefydau a Phlâu Gwenyn 2021 a wnaeth Varroa yn glefyd cofnodadwy ar lefel gwenynfa. Daeth hyn i rym ar 21 Ebrill 2021. Mae hyn yn gymwys i Loegr ond mae deddfwriaeth debyg ar waith yng Nghymru a'r Alban a gallwch gofnodi presenoldeb Varroa yn eich cychod drwy fynd i'n tudalen Rhoi Gwybod am Varroa.

Varroa destructor

Cylch bywyd 

Mae gan y gwyddon benyw llawndwf a welir fel arfer yn y cwch ac ar y gwenyn gyrff hirgrwn browngoch, gwastad, y mae eu lled yn fwy na'u hyd (1.6 x 1.1mm). Mae'r gwiddonyn benyw yn mynd i mewn i gell agored, ychydig cyn i'r gell gael ei selio lle y bydd yn cuddio yn y bwyd mag sydd o dan y larfa. Yno, bydd yn aros am 2-3 diwrnod, gan anadlu o organ anadlol a elwir yn beritrem. Ar ôl i'r bwyd gael ei fwyta gan y larfa, bydd y gwiddonyn benyw yn dechrau atgynhyrchu y tu mewn i'r gell wedi'i selio, gan ddodwy ei hwy cyntaf (gwryw fel arfer) ac yn ddiweddarach, bob 1-2 ddiwrnod, fwy neu lai, bydd y fenyw yn parhau i ddodwy hyd at saith wy sy'n widdon benyw fel arfer. Bydd y rhain yn deor yn widdon anaeddfed ac, o'r rhain, dim ond 2-3 fydd yn cyrraedd ffurfiau llawndwf.

Tra byddant y tu mewn i'r gell, bydd y gwiddon yn bwyta'r pwpaod sy'n datblygu, gan drosglwyddo feirysau a all fyrhau'r cylch bywyd a rhwystro datblygiad y pwpa. Ar ôl 21 diwrnod, bydd y wenynen weithgar yn ymddangos (24 yn achos gwenyn gormes gwryw) ynghyd ag unrhyw widdon sydd wedi goroesi sy'n glynu wrth gefn y wenynen nes iddynt gyrraedd cell agored newydd â larfa ynddi.

Yn ogystal ag atgynhyrchu naturiol, caiff poblogaethau gwiddon eu cynyddu hefyd rhwng nythfeydd drwy ddwyn, drifftio a heidio. Bydd cynnydd sylweddol yn nifer y gwiddon mewn nythfa yn arwain at symptomau gweledol Varroosis.

Varroa yn eu hoff le: ar yr ochor, dan yr adain

Symptomau Varroosis 

Yn dibynnu ar amodau hinsoddol, mae symptomau gweledol a achosir gan V. destructor i'w gweld o dymor yr hydref pan fydd y mag sy'n cael ei fagu yn lleihau ac y bydd nifer y gwiddon ar ei uchaf hyd at ddechrau'r gwanwyn yn ystod y cyfnod gaeafu. Gall plâu Varroa difrifol achosi'r canlynol:

  • Adenydd wedi'u hanffurfio sydd wedi crebachu ac sy'n edrych yn debyg i ‘sbageti’.
  • Abdomenau crebachaidd;
  • gwanhau'r nythfa yn gyffredinol;
  • patrymau mag bratiog/melin bupur 
  • colli nythfeydd.

Mae'r gwiddonyn hefyd yn gweithredu fel fector ar gyfer sawl feirws. Er bod feirysau gwenyn yn parhau fel arfer fel heintiau anamlwg ac nad ydynt yn achosi unrhyw arwyddion gweladwy o glefyd, gallant gael effaith ddifrifol ar iechyd gwenyn mêl a byrhau bywydau gwenyn wedi'u heintio o dan amodau penodol.

Triniaethau ar gyfer Varroa

Er mwyn cadw nythfeydd yn iach ac yn gynhyrchiol, rhaid rheoli gwiddon Varroa. Gellir gwneud hyn drwy driniaethau sy'n perthyn i un o ddau brif gategori, y mae manteision ac anfanteision i'r naill a'r llall; bydd yn rhaid i'r gwenynwr ddewis mesurau rheoli priodol sy'n cyd-fynd â'u dulliau hwsmonaeth.

Dulliau Rheoli Biotechnegol: Mae'r rhain yn osgoi defnyddio cemegion ac maent yn defnyddio dulliau sy'n seiliedig ar hwsmonaeth gwenyn er mwyn lleihau poblogaethau gwiddon drwy ddefnyddio dulliau ffisegol yn unig. Mae dulliau biotechnegol yn manteisio ar y ffaith bod gwiddon yn atgynhyrchu mewn mag gwenyn ac mae'r mwyaf cyffredin o blith y rhain yn cynnwys dal gwiddon mewn dil (dil gwenyn gormes fel arfer). Yna, caiff y dil ei dorri allan a'i ddinistrio, ynghyd â'r gwiddon a geir yn y celloedd. Fel arfer, dim ond yn ystod misoedd y gwanwyn a'r haf y defnyddir y dulliau hyn pan fydd mag gwenyn gormes yn cael ei fagu a gallant fod yn ffordd ddefnyddiol iawn o reoli gwiddon Varroa nes y bydd angen defnyddio triniaethau. Os hoffech gael rhagor o wybodaeth am bob techneg unigol, gweler ein taflen gynghorol, ‘Managing Varroa’.

Gwiddonladdwyr: Mae'r rhan fwyaf o widdonladdwyr yn elfen bwysig o gynlluniau rheoli gwenynwyr am eu bod yn ddull effeithiol iawn o ladd a rheoli poblogaeth gwiddon Varroa. Mae dau ddosbarth o widdonladdwyr, sef y rhai sy'n cynnwys cemegion masnachol wedi'u syntheseiddio (gwiddonladdwyr ‘caled’) a'r rhai sy'n cynnwys cemegion wedi'u syntheseiddio naturiol (gwiddonladdwyr ‘meddal’) e.e. asid fformig neu olewau hanfodol.

Wrth ddefnyddio unrhyw driniaethau, mae'n bwysig eich bod yn darllen ac yn dilyn y cyfarwyddiadau ar y label ac yn defnyddio meddyginiaethau a gymeradwyir o dan gyfraith yr UE yn unig. Ceir gwybodaeth am gynhyrchion sydd wedi'u hawdurdodi i'w defnyddio yn y DU, yn ogystal â'r rhai sydd ar gael o dan Cascade ar y dudalen Meddyginiaethau ar ein gwefan.