Our use of Cookies

This site uses only cookies strictly necessary to ensure the site works correctly.

Please read about how we use cookies.

Hide this message

Strictly necessary and non-essential cookies

By clicking accept all cookies, you agree to our use of cookies and to our cookie policy.

We use third-party cookies on this site.

You have accepted necessary cookies only

You can change your cookie settings at any time
Hide this message

Diogelu defnyddwyr a'r amgylchedd

Diogelu gwenyn mêl a diogelu defnyddwyr

Mae'r tudalennau hyn yn disgrifio'r agweddau ar ein gwaith sy'n ymwneud â diogelu'r amgylchedd a diogelwch bwyd.

Mae'r UWG wedi'i gontractio i gymryd samplau o fêl yn uniongyrchol gan wenynwyr ar ran Cyfarwyddiaeth Meddyginiaethau Milfeddygol (VMD) Defra fel rhan o raglen monitro gweddillion statudol Defra, sef y Cynllun Gwyliadwriaeth Cenedlaethol. Mae gan bob un o Aelod-wladwriaethau'r UE gyfrifoldeb statudol i fonitro bwyd i weld a yw'n cynnwys gweddillion er mwyn diogelu defnyddwyr. Mae'r cynllun hwn yn helpu i ddiogelu defnyddwyr drwy leihau'r risg y bydd gweddillion mewn mêl a gynaeafwyd yn mynd i mewn i'r gadwyn fwyd. 

Mae'r UWG hefyd yn gweithio gyda'r Cynllun Ymchwilio i Ddigwyddiadau Bywyd Gwyllt (WIIS) sy'n monitro effeithiau plaleiddiaid ar fywyd gwyllt, anifeiliaid anwes a phryfed buddiol (megis gwenyn mêl a chacwn). 

Yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch (HSE) yw'r awdurdod rheoleiddio yn y DU ar gyfer cynhyrchion plaleiddiaid. Gellir rhannu plaleiddiaid yn ddau gategori, sef y rhai a ddefnyddir ym meysydd amaethyddiaeth a garddwriaeth ac yng ngerddi cartrefi a'r rhai a ddefnyddir ym maes hylendid cyhoeddus.