Our use of Cookies

This site uses only cookies strictly necessary to ensure the site works correctly.

Please read about how we use cookies.

Hide this message

Strictly necessary and non-essential cookies

By clicking accept all cookies, you agree to our use of cookies and to our cookie policy.

We use third-party cookies on this site.

You have accepted necessary cookies only

You can change your cookie settings at any time
Hide this message

Rhaglen Wenyna'r DU

Mae Rheoliad Dirprwyedig y Comisiwn (UE) Rhif 2015/1366 yn darparu fframwaith er mwyn i'r Llywodraeth gynnig cymorth i wella amodau cyffredinol ar gyfer gweithgarwch cynhyrchu yn y diwydiant gwenyna a marchnata cynhyrchion gwenyna. Mae'r rheoliad hwn yn gyfraith yr UE a ddargedwir a ddiwygiwyd er mwyn sicrhau y gellir parhau i'w rhoi ar waith ar ôl 31 Rhagfyr 2020. O dan y rheoliad, caiff y Llywodraeth lunio rhaglenni gwenyna cenedlaethol sy'n cwmpasu cyfnod o dair blynedd.

Mae'r mesurau y gellir eu cynnwys yn y rhaglen wenyna fel a ganlyn:

  • cymorth technegol; er enghraifft, hyfforddiant i wenynwyr a grwpiau o wenynwyr ar bynciau megis bridio neu atal clefydau, tynnu mêl o'r diliau, storio mêl, pecynnu mêl ac ati;
  • mynd i'r afael â thresmaswyr mewn cychod a chlefydau, yn enwedig varroosis; mae Varroa yn barasit endemig sy'n gwanhau systemau imiwnedd gwenyn ac sy'n arwain at golli nythfeydd gwenyn, os na chaiff ei drin;
  • symleiddio prosesau trawstrefa sy'n bwysig o ran peillio yn ogystal â maeth gwenyn;
  • dadansoddi cynhyrchion gwenyna: mêl, jeli'r frenhines, glud gwenyn ('propolis'), paill a chwyr gwenyn;
  • ailstocio cychod;
  • ymchwil gymhwysol;
  • monitro marchnadoedd;
  • gwella ansawdd cynnyrch er mwyn manteisio ar botensial cynhyrchion gwenyna ar y farchnad.

Mae'r Rhaglen Wenyna yng Nghymru a Lloegr yn seiliedig ar y rhaglen iechyd gwenyn bresennol ac mae'n canolbwyntio ar helpu gwenynwyr drwy ddarparu cymorth technegol er mwyn mynd i'r afael â phlâu a chlefydau sy'n effeithio ar wenyn a'u rheoli. Caiff y rhaglen wenyna yn Lloegr ei gweithredu gan yr Uned Wenyn Genedlaethol drwy ddarparu gwasanaeth yn hytrach na grantiau neu daliadau uniongyrchol.

Adroddiad ar gyfer rhaglen wenyna'r DU, y flwyddyn a ddaeth i ben ar 31 Gorffennaf 2021 (Saesneg).

Adroddiad ar gyfer rhaglen wenyna'r DU, y flwyddyn a ddaeth i ben ar 31 Gorffennaf 2021 (Saesneg).

Rhaglen Wenyna Defra ar gyfer Lloegr 2023-2025