Our use of Cookies

This site uses only cookies strictly necessary to ensure the site works correctly.

Please read about how we use cookies.

Hide this message

Strictly necessary and non-essential cookies

By clicking accept all cookies, you agree to our use of cookies and to our cookie policy.

We use third-party cookies on this site.

You have accepted necessary cookies only

You can change your cookie settings at any time
Hide this message

Mêl a diogelwch bwyd

Y Cynllun Gwyliadwriaeth Cenedlaethol – Samplu Mêl

Mae'r dudalen hon yn rhoi manylion y rhaglen casglu mêl a gynhelir gan yr Uned Wenyn Genedlaethol ar ran y Gyfarwyddiaeth Meddyginiaethau Milfeddygol, sef yr Awdurdod Cymwys Canolog sy'n gyfrifol am orfodi'r ddeddfwriaeth. Mae'r Cynllun Gwyliadwriaeth Cenedlaethol yn cynnal archwiliadau er mwyn sicrhau bod cynhyrchion sy'n dod o anifeiliaid yn y DU yn ddiogel ac mae mêl wedi'i gynnwys yn  y rhaglen hon. Cynhelir profion ar anifeiliaid a chynhyrchion anifeiliaid i weld a ydynt yn cynnwys gweddillion sylweddau gwaharddedig, halogyddion a meddyginiaethau milfeddygol awdurdodedig. Diben hyn yw diogelu defnyddwyr drwy sicrhau nad yw bwydydd yn cynnwys gweddillion annerbyniol. Mae'r profion hyn yn ofynnol o dan Reoliadau Anifeiliaid a Chynhyrchion Anifeiliaid (Archwilio am Weddillion a Therfynau Gweddillion Uchaf) (Lloegr a'r Alban) 2015 yn Lloegr a'r Alban a Rheoliadau Anifeiliaid a Chynhyrchion Anifeiliaid (Archwilio am Weddillion a Therfynau Gweddillion Uchaf) (Cymru) 2019 yng Nghymru.

Samplu mêl

Mae'r UWG wedi bod yn gwneud y gwaith hwn yng Nghymru a Lloegr ers 2002. Mae'n golygu casglu samplau o fêl o'r diliau neu unrhyw ran o'r broses botelu gan gynhyrchwyr mêl (unrhyw wenynwr sy'n gwerthu mêl) er mwyn dadansoddi gweddillion. Caiff y samplau hyn eu casglu yn ystod y tymor ar yr un pryd ag y cynhelir archwiliadau o wenynfeydd am glefydau sy'n effeithio ar wenyn. Ni chodir unrhyw dâl ar y gwenynwr am y gwaith samplu mêl a chymerir mwy na 100 o samplau o fêl bob blwyddyn ledled Cymru a Lloegr gan Arolygwyr yr Uned Wenyn Genedlaethol. Mae'r samplau yn ceisio adlewyrchu nifer y gwenynwyr mewn rhanbarth penodol a chânt eu casglu naill ai o'r siambr fagu, y llofft, mêl potel neu storfa swmp. Yn ystod y broses rhaid i chi fynd gyda'r arolygydd fel tyst, gan y byddwch yn llofnodi fel y cyfryw.

Caiff y sampl ei rhoi mewn jar â chod bar a gaiff ei thapio i mewn i orchudd amddiffynnol wedyn. Caiff gwaith papur y broses samplu ei chwblhau a rhoddir cod bar ynghlwm wrth daflen wybodaeth i chi. Yna caiff y gwaith papur a'r sampl eu selio mewn bag tystiolaeth. Yna gofynnir i chi lofnodi a dyddio'r bag diogelwch ynghyd â'r arolygydd fel cofnod o'r ffaith bod y sampl wedi'i chymryd. Yna anfonir y sampl i'r Asiantaeth Ymchwil Bwyd a'r Amgylchedd lle y caiff ei dadansoddi i weld a yw'n cynnwys unrhyw halogyddion.

Canlyniadau

Anfonir yr holl ganlyniadau i'r Gyfarwyddiaeth Meddyginiaethau Milfeddygol lle y caiff y wybodaeth ei chofnodi. P'un a ganfyddir bod sampl yn cynnwys halogyddion ai peidio, bydd y Gyfarwyddiaeth Meddyginiaethau Milfeddygol yn anfon llythyr yn cadarnhau'r canlyniadau. Fel arfer, cwblheir y broses hon o fewn tua thri mis i gymryd y sampl a dylid cyfeirio unrhyw ymholiadau at y Gyfarwyddiaeth Meddyginiaethau Milfeddygol, gan na all yr UWG weld unrhyw ganlyniadau.

Beth fydd yn digwydd os canfyddir gweddillion annerbyniol?

Cynhelir ymweliad dilynol er mwyn canfod sut y gallai'r mêl fod wedi cael ei halogi â gweddillion a chynnig cyngor ar sut i sicrhau na fydd hyn yn digwydd eto. Os canfyddir sylweddau anghyfreithlon neu grynodiad uchel o feddyginiaeth awdurdodedig, efallai y cymerir camau cyfreithiol.

Manylion Pellach

Cyhoeddir canlyniadau'r Rhaglen Monitro Bwyd bob blwyddyn gan Wasanaeth Gwybodaeth Filfeddygol am Awdurdodiadau Marchnata (MAVIS) y Gyfarwyddiaeth Meddyginiaethau Milfeddygol. Diben hyn yw sicrhau bod gennych y wybodaeth orau sydd ar gael am y gwaith, y cynlluniau a'r canlyniadau, yn ogystal â datblygiadau cyffredinol o ran y rheolaethau ar feddyginiaethau milfeddygol. Cyhoeddir MAVIS bob chwarter a gellir gweld copïau cyhoeddedig ar-lein ar wefan MAVIS.