Ar ddechrau mis Ebrill, dechreuodd yr UWG ar ei rhaglen trapio yn y gwanwyn mewn ardaloedd y nodwyd eu bod yn wynebu risg uchel. Mae trapiau wedi'u gosod mewn lleoliadau ledled Caint, Dwyrain Sussex, Dyfnaint a Gogledd Swydd Efrog er mwyn monitro arwyddion o weithgarwch cacwn Asia. Ar 13 Ebrill, daliwyd un gacynen yn un o'r trapiau hyn ger Four Oaks, Caint tua 3km o'r nythfa a ganfuwyd yn 2023. Anfonwyd y sbesimen i'r labordy yn Fera Science Ltd i'w gadarnhau'n swyddogol a'i ddadansoddi a bydd yr UWG yn parhau i fonitro'r ardal.
Mae'r UWG hefyd wedi cael 3 adroddiad credadwy pellach am gacwn Asia unigol y mis hwn. Y cyntaf oedd cacynen ar fferi hanner ffordd rhwng Calais a Dofr ar 8 Ebrill. Yr ail oedd adroddiad ar 11 Ebrill yn Folkestone, Caint gan berchennog tŷ. Yn olaf, ar 13 Ebrill gwelwyd cacynen ar fferi rhwng St Malo a Portsmouth, Ffrainc – ger porthladd St Malo. Dywedir i'r cacwn y rhoddwyd gwybod amdanynt ar yr 11eg a'r 13eg gael eu lladd ond ni chafodd y sbesimenau eu dal i'w cadarnhau'n swyddogol.
Byddwn yn parhau i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i chi am unrhyw achosion credadwy o weld cacwn Asia ac unrhyw gacwn a ddaliwyd.