Ar sail y gwaith dadansoddi a wnaed yn Fera Science Ltd, mae sawl ardal wedi'i nodi lle mae risg isel bod breninesau cacwn Asia wedi gaeafu. Mewn ymateb, mae'r UWG yn gwneud cynlluniau i wneud gwaith trapio yn ystod y gwanwn, gan gynnwys sut i gydweithio â rhanddeiliaid er mwyn monitro trapiau mewn lleoliadau ledled Caint, Dwyrain Sussex, Dyfnaint a Gogledd Swydd Efrog. Caiff BeeBase ei ddiweddaru os bydd unrhyw achosion credadwy o weld cacwn Asia neu os caiff unrhyw gacwn Asia eu dal.
I bwy y dylech roi gwybod os byddwch wedi gweld Cacwn Asiaidd
Os credwch eich bod wedi gweld cacynen Asiaidd, rhowch wybod i Ysgrifenyddiaeth Rhywogaethau Estron Prydain Fawr (NNSS) ar unwaith. Yn y lle cyntaf, dylid rhoi gwybod am gacwn Asia sydd wedi cael eu gweld drwy'r ap 'Asian Hornet Watch' y gellir ei lawrlwytho am ddim i ffonau Android ac iPhone.
Mae dulliau eraill o roi gwybod am bresenoldeb cacwn yn cynnwys ffurflen hysbysu ar-lein yr NNSS. Yn olaf, gallwch roi gwybod am unrhyw gacwn Asiaidd rydych yn amau eich bod wedi'u gweld drwy anfon neges e-bost i alertnonnative@ceh.ac.uk. Lle y bo'n bosibl, dylid cynnwys llun a disgrifiad o'r pryfyn a nodi ble y gwnaethoch ei weld.